Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ni fu unrhyw newid yn y polisi. Dywedais hynny yn ystod y sesiwn gwestiynau yr wythnos diwethaf. Ailadroddwyd hynny gan Weinidog y Gymraeg y diwrnod wedyn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyhoeddi eglurhad manwl lle dywedais yn glir y bydd trochi'n parhau mewn gwahanol ysgolion a lleoliadau gwahanol.
Felly, os caf, Lywydd, ar gyfer y cofnod yma y prynhawn yma: bydd ein cynigion yn y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a lleoliadau fel ysgolion meithrin i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg ac rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion ysgolion meithrin ac UCAC am eu cefnogaeth yn hyn o beth.