Datblygu 'Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes'

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:57, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ychwanegol at y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r feirniadaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, lle roeddent yn dweud bod datblygiad y cwricwlwm yn generig, wedi'i ddiffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau.

Daeth at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Ionawr a dywedodd nad oedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi mynychu cyfarfod ymgynghori ar y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd i fynegi'r pryderon hyn yn uniongyrchol ers 2017. Gyda hynny mewn golwg, pa gynnydd a wnaed ganddi ar ailadeiladu cysylltiadau gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac a yw hi wedi cael unrhyw gyfarfodydd pellach i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?