Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Dawn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mynediad gan oedolion ledled Cymru at y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn ein cymdeithas a'n heconomi. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, rydym yn ariannu'r awdurdod lleol, y coleg ac Addysg Oedolion Cymru yn uniongyrchol i ddarparu ystod o ddarpariaeth ar gyfer oedolion yn y rhanbarth.