Datblygu 'Cwricwlwm Cymru, Cwricwlwm am Oes'

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:58, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roedd yn galonogol clywed am rai o'r mecanweithiau ymgynghori uniongyrchol rydych yn eu defnyddio i wrando ar farn pobl ifanc ar y cwricwlwm a'r broses o'i ddatblygu, a chymeradwyaf yr hyn rydych wedi'i wneud yn hynny o beth. Hoffwn wybod a wnaethpwyd unrhyw beth gyda'r cynghorau ysgol, gan eu bod mewn sefyllfa dda iawn i wneud gwaith ystyried manwl lle maent yn rheoli'r broses ac yn ymgynghori â'u haelodau—y disgyblion yn yr ysgolion hynny—wedyn yn bwydo'u barn drwodd i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod yn rhan o broses reoledig, gul, benodol o nifer o gwestiynau, er enghraifft.