Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Chwefror 2019.
Un mater a ddaeth i fy sylw yw bod y cyrsiau a gynigir gan goleg Merthyr Tudful ac sydd ar gael i oedolion sy'n ddysgwyr yn galw at ei gilydd am bresenoldeb amser llawn a phresenoldeb yn ystod y dydd yn ogystal â gyda'r nos. O ystyried yr ymrwymiadau y bydd gan lawer o oedolion o ran gofalu a chyflogaeth, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai'n wych pe bai gan goleg Merthyr Tudful, a cholegau eraill yn wir, fwy o allu i gynnig cyrsiau rhan-amser y gallai oedolion eu mynychu gyda'r nos i gael y cymwysterau hyn?