Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Chwefror 2019.
Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, ac maent wedi gofyn am ran yn y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant. Weinidog, a ydych yn cynnwys diwydiant wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd?