1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
6. Sut y bydd y broses o ddiwygio'r cwricwlwm ysgol yn gwella canlyniadau addysgol mewn cymunedau o dan anfantais? OAQ53342
Diolch, Dawn. Mae'r cwricwlwm yn cael ei gynllunio ar gyfer pob dysgwr. Yn sail i'r gwaith datblygu, ceir cred na ddylai cefndir rhywun neu ble maent yn byw effeithio ar eu gallu i elwa o addysg. Mae'r flaenoriaeth hon wedi bod yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Diolch, Weinidog, a byddwch yn gwybod, i lawer o blant yng Nghymru, fod y cymorth a gynigir gan eu hysgolion yn allweddol er mwyn trawsnewid eu cyfleoedd bywyd a rhoi siâp i'w bywydau yn gyffredinol a datblygu eu hunanhyder. A fyddech yn cytuno, felly, wrth inni ddatblygu'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, ac wrth inni feddwl am gyllido ein gwasanaethau ysgol yn y dyfodol, fod angen sicrhau bod mynd i'r afael ag anfantais yn parhau i fod yn flaenoriaeth greiddiol i bolisïau addysg y Llywodraeth hon? Ac a allwch roi rhai enghreifftiau ymarferol i mi o sut y gellir gwneud hynny?
Wel, Dawn, rydych yn llygad eich lle y bydd angen i'r cwricwlwm gael ei gefnogi gan gynigion cymorth ehangach yr ysgol; ni all y cwricwlwm fynd i'r afael â'r materion hyn ar ei ben ei hun. Mae materion megis anghydraddoldeb ac anfantais yn mynd y tu hwnt i gwmpas y cwricwlwm, ac mae'n rhaid i ysgolion unigol, awdurdodau lleol unigol, ac yn wir, Llywodraeth Cymru, eu hystyried yn ehangach. Mae torri'r cylch hwnnw o dlodi ac anfantais yn ymrwymiad hirdymor, ac rwyf wedi datgan yn glir fy ymrwymiad personol i'r grant datblygu disgyblion ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, a cheisio cynyddu cyfleoedd eraill, megis Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, sy'n ceisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol a sut y gall effeithio ar rieni.
O ran y grant datblygu disgyblion, rydym yn buddsoddi swm digynsail—dros £190 miliwn yn 2018-19 a 2019-20—i gefnogi addysg plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb rydych newydd ei roi, ond a wnewch chi gydnabod rôl ardderchog cymunedau ffydd ledled Cymru, sy'n aml yn gweithio'n agos iawn gydag ysgolion i drechu tlodi ymhlith y teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu? Cafwyd digwyddiad arbennig ddoe a noddwyd gan Huw Irranca-Davies gyda Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, ac roedd yn syndod ac yn rhyfeddod gweld y cyfoeth o weithgareddau y mae'r Eglwys Gatholig ei hun yn eu gwneud gyda'r ysgolion y mae'n eu gwasanaethu. Felly, a wnewch chi eu cymeradwyo, a pha waith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu'n ehangach â sefydliadau ffydd i helpu i drechu'r tlodi y mae rhai o'n plant yn byw ynddo?
Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn flin iawn nad oedd modd i mi fynychu'r digwyddiad ddoe? Ond rwy'n falch iawn fod Steve Davies, cyfarwyddwr addysg Llywodraeth Cymru, wedi gallu mynychu ar fy rhan, gan ein bod yn werthfawrogol iawn o waith ein holl sefydliadau gwirfoddol, boed yn seiliedig ar ffydd neu fel arall, sydd wedi ymrwymo i helpu ein plant. Pan soniaf am genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwy'n golygu hynny o ddifrif, gan nad oes grŵp unigol neu wirfoddol na allant ychwanegu at y genhadaeth genedlaethol a'n helpu i sicrhau ein bod yn codi safonau yn ein hysgolion ac yn cau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt, gan gynnwys yr eglwysi Catholig, am y gwaith a wnânt. Mae gennyf berthynas gadarnhaol iawn â chyrff ein hysgolion ffydd, a fydd yn parhau i'n helpu i ddatblygu ein cwricwlwm, ac wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yng Nghymru drwy ddarparu addysg, yn ogystal â gwasanaethau cymorth.
Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, ac maent wedi gofyn am ran yn y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant. Weinidog, a ydych yn cynnwys diwydiant wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd?
Caroline, dyna'n union pam y mae'n rhaid inni symud oddi wrth y cysyniad o restr hir o'r hyn y mae'n rhaid i bobl ei wneud, oherwydd, yn amlwg, yn y gymuned honno, bydd sicrhau bod gan bobl ifanc sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd gan gyflogwyr lleol yn wahanol iawn i'r math o gwricwlwm ar gyfer pobl, efallai, yng nghanol Sir Faesyfed, fy etholaeth i, na fyddant o reidrwydd yn awyddus i weithio yn y gwaith dur penodol hwnnw. Felly, mae angen inni allu caniatáu i'n hysgolion a'n hathrawon sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n bodloni uchelgais gyrfa a'r dewisiadau cyflogadwyedd mewn ardaloedd unigol.
Rydym yn ymgysylltu â nifer o sefydliadau mewn perthynas â diwydiant i'w galluogi i helpu i lywio datblygiad ein cwricwlwm. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i rai o'n cwmnïau angori mawr sy'n gweithio mor agos gydag ysgolion yn eu hardaloedd unigol, ond byddaf yn sicrhau ac yn gofyn i swyddogion unwaith eto beth arall y gallwn ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i ddeall ganddynt beth y gallant ei wneud i'n helpu i gefnogi addysg yn eu hardaloedd.