Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Llyr. Mae datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant a hanes Cymru a'i lle yn y byd yn elfen hanfodol o daith ddysgu person ifanc ym mhob maes dysgu a phrofiad drwy gydol eu haddysg. A gallaf roi sicrwydd ichi, nid ychwanegiad symbolaidd at y cwricwlwm yw hwn; mae'n elfen hanfodol.