Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Chwefror 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod adran reoli bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod yn ddiweddar wrth deuluoedd Tawel Fan mai uned asesu dementia oedd yr uned mewn gwirionedd, ac felly, ni ddylai neb fod wedi bod yn byw yno ar sail hirdymor, er bod rhai cleifion wedi bod yno am fwy na chwe mis. A all y Gweinidog esbonio: a ydym yn deall pam y caniatawyd i hyn ddigwydd? Ac a yw'n hyderus nad oes unrhyw gleifion eraill yn Betsi Cadwaladr mewn unrhyw leoliad arall yn byw ar sail hirdymor mewn unedau a gynlluniwyd ar gyfer arosiadau asesu tymor byr?