2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda theuluoedd cleifion ward Tawel Fan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ53343
Rwyf wedi cyfarfod â grŵp teuluoedd Tawel Fan yng ngogledd Cymru ddwy waith, unwaith yn fy rôl flaenorol fel dirprwy Weinidog iechyd ac yn fwy diweddar ym mis Hydref.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod adran reoli bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod yn ddiweddar wrth deuluoedd Tawel Fan mai uned asesu dementia oedd yr uned mewn gwirionedd, ac felly, ni ddylai neb fod wedi bod yn byw yno ar sail hirdymor, er bod rhai cleifion wedi bod yno am fwy na chwe mis. A all y Gweinidog esbonio: a ydym yn deall pam y caniatawyd i hyn ddigwydd? Ac a yw'n hyderus nad oes unrhyw gleifion eraill yn Betsi Cadwaladr mewn unrhyw leoliad arall yn byw ar sail hirdymor mewn unedau a gynlluniwyd ar gyfer arosiadau asesu tymor byr?
Mae hwn yn fater a godwyd yn ystod y cyfarfod â'r teuluoedd ym mis Hydref. Cafwyd ystod o ohebiaeth mewn perthynas â diben a phwynt yr uned. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at yr hyn y disgwyliaf y bydd yn achos amlinellol dros ddiwygio'r ystâd ar y safle penodol hwnnw, a bydd yn cynnwys newidiadau i safle presennol Tawel Fan hefyd, ynghyd â strategaeth y mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno arni bellach gyda rhanddeiliaid ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau cymunedol ar draws gogledd Cymru hefyd.
Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol yr holwch amdano ac ysgrifennu atoch—a chopïo Aelodau eraill i mewn—ynghylch y pwynt ehangach ynglŷn a'r unedau presennol a chleifion arhosiad byr a sut y cânt eu defnyddio ar hyn o bryd.
Cawsom sicrwydd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl yn newid ac yn gwella yn gyflym iawn yng ngogledd Cymru o ganlyniad i sgandal Tawel Fan, ond wrth gwrs, rydym yn agosáu at bedair blynedd ers rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Ac yn sicr, mae mwy na phedair blynedd wedi bod ers i'r bwrdd gael adroddiad cychwynnol Ockenden. Rwy'n falch iawn fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, yn ôl pob golwg, o ran y strategaeth bellach, ac wrth weld peth o'r buddsoddiad cyfalaf a wneir i geisio datrys rhai o'r problemau yn y bwrdd. Ond beth y mae hyn yn ei ddweud am y ffordd y mae mesurau arbennig Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn gwirionedd?
Os cofiwch, dywedwyd wrthym y byddai cynllun 100 diwrnod yn trawsnewid y sefyllfa hon pan benodwyd Simon Dean yn brif weithredwr dros dro y bwrdd. Felly, aeth y 100 diwrnod heibio heb unrhyw gynnydd. Gwyddom fod Donna Ockenden, awdur gwreiddiol yr adroddiad a dynnodd sylw at y pydredd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, wedi mynegi pryderon mor ddiweddar â'r haf diwethaf—a hyd yn oed yn gynharach eleni, yn gyhoeddus, ynghylch y diffyg cynnydd. Ac yn wir, cyfeiriodd at aelodau staff a ddywedodd fod y sefyllfa wedi gwaethygu hyd yn oed. Pryd y gallwn ddisgwyl gwahaniaeth go iawn i gleifion ar lawr gwlad? Oherwydd mae arnaf ofn fod y diffyg cynnydd wedi bod yn halen yn y briw i'r teuluoedd a grybwyllwyd gennym heddiw.
Wel, mae honno'n farn benodol, ac nid wyf yn cytuno â phob honiad ffeithiol a wnaeth yr Aelod. Bwriad y cynllun 100 diwrnod ar ddechrau'r mesurau arbennig oedd ailosod y llwybr gyda'r bwrdd iechyd. Nid oedd unrhyw awgrym y byddai'r holl faterion yn cael eu datrys o fewn 100 diwrnod; ni honnwyd hynny erioed gan unrhyw un o fewn y bwrdd iechyd neu'r tu allan iddo. Nid yw awgrymu hynny yn awr yn gywir o gwbl.
Yn fwy felly, o ran yr adroddiadau a ddarparwyd, rydym wedi mynd drwy nid yn unig yr adroddiad gwreiddiol, ond mewn gwirionedd, adroddiad dros amser maith iawn a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae hwnnw wedi arwain at amrywiaeth o feysydd gweithredu. Ac atgoffaf yr Aelod a phawb arall yma nad oedd hynny'n golygu bod y bwrdd iechyd yn holliach—ddim o bell ffordd. Roedd yn nodi nifer o heriau, rhai hanesyddol a rhai sy'n dal i fodoli, i'r bwrdd iechyd eu datrys, ac rwy'n canolbwyntio ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Mewn gwirionedd, mae aelodau o deuluoedd Tawel Fan yn rhan o'r grŵp rhanddeiliaid i ddarparu sicrwydd ynghylch y cynnydd a wneir a'r cynnydd y mae angen ei wneud o hyd, a chredaf y dylai'r holl Aelodau gael cysur o'r negeseuon diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ein harolygiaeth ni. Maent yn dweud bod gwelliannau gwirioneddol wedi bod o ran ansawdd; nid ydynt yn pryderu ynghylch ansawdd fel yr oeddent ddwy neu dair blynedd yn ôl. Mae llawer o'r diolch am hynny i'r cyfarwyddwr iechyd meddwl, ac yn wir, i'r cyfarwyddwr nyrsio am ei harweiniad mewn perthynas â hyn, ond hefyd i'r staff sy'n ailymgysylltu'n briodol â phobl y maent yn gofalu amdanynt a chymunedau ar draws gogledd Cymru.
Nid wyf yn disgwyl unrhyw gam sylweddol ymlaen mewn perthynas â'r mesurau arbennig oni bai a hyd nes y bydd y bwrdd iechyd yn cyflawni'r cerrig milltir a osodais yn fframwaith gwella'r mesurau arbennig. Byddaf yn cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaeth i weld a ydynt wedi gwneud hynny ai peidio. Ni wneir unrhyw benderfyniad sy'n gyfleus i unrhyw wleidydd yn y Siambr hon, oni bai ei fod yn benderfyniad sy'n iawn ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru ac wedi'i gefnogi gan dystiolaeth.