Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:31, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn droi at berfformiad ein system gofal brys, a thynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad dwy o'r tair uned damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yn ardal Betsi Cadwaladr wedi bod mor wael fel eu bod wedi llusgo ffigurau cyfartalog Cymru i lawr yn sylweddol. Cydnabu'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod y lefel hon o berfformiad yn annerbyniol. Nawr, gan fod y Gweinidog, drwy'r mesurau arbennig, yn uniongyrchol gyfrifol am y perfformiad hwn, a all esbonio'r ffactorau sydd wedi arwain at hyn?