2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Chwefror 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn droi at berfformiad ein system gofal brys, a thynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad dwy o'r tair uned damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yn ardal Betsi Cadwaladr wedi bod mor wael fel eu bod wedi llusgo ffigurau cyfartalog Cymru i lawr yn sylweddol. Cydnabu'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod y lefel hon o berfformiad yn annerbyniol. Nawr, gan fod y Gweinidog, drwy'r mesurau arbennig, yn uniongyrchol gyfrifol am y perfformiad hwn, a all esbonio'r ffactorau sydd wedi arwain at hyn?
Nid wyf am ailadrodd yr her ynglŷn ag a wyf yn rhedeg y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn uniongyrchol drwy fesurau arbennig ai peidio; rydym yn parhau i ddychwelyd at hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'r perfformiad mewn gofal brys yng ngogledd Cymru yn dderbyniol, a dyna'r neges uniongyrchol a roddwyd i'r bwrdd iechyd. O ran y rhesymau am hynny, a'r ffactorau sydd ynghlwm wrth hynny, mae rhai o'r ffactorau'n ymwneud â'r ffaith, er ein bod wedi cael gwell tywydd y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf, mewn gwirionedd, mae'r tymor ffliw ychydig yn waeth y gaeaf hwn, ac yn anarferol, ym mis Ionawr, cafwyd mwy o ddigwyddiadau mawr na mân ddigwyddiadau o gymharu â'r llynedd. Ond yn y bôn, mae'r her, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut nad yw'r system yng ngogledd Cymru, yn enwedig mewn dau o'n safleoedd mawr, yn gallu ymdopi yn yr un modd â gweddill y wlad, ac mae hynny'n gymhleth. Mae'n ymwneud â'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth glinigol, ac mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn gyffredinol. A cheir her o ran deall, mewn rhannau eraill o Gymru—mae pwysau sylweddol ar ein system yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn deall hynny—fod safonau perfformiad yn well. Felly, mae'n ymwneud â mwy na dweud, 'Mae hyn yn annerbyniol, datryswch y broblem'; mae'n ymwneud â gweithio gyda'n staff, gan mai'r peth gwaethaf y credaf y gallwn ei wneud yw dweud, 'Mae'n annerbyniol ac rwyf am i bobl fynd.' Mewn gwirionedd, mae arnom angen y staff hynny yn ein system, eu tosturi a'u hymrwymiad i ddarparu. Mae angen inni gadw staff gyda ni wrth inni ddeall, ac wrth iddynt hwy ddeall, ynghyd â'u cydweithwyr a'u cymheiriaid clinigol, sut y gallant wella'r gwasanaeth y maent am ei ddarparu gyda'u cydweithwyr ac ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Dyna pam hefyd fod rôl y swyddog arweiniol gofal heb ei drefnu, sy'n ymgynghorydd adran achosion brys ei hun, yn bwysig iawn mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau'r hygrededd clinigol hwnnw i gyflawni'r gwelliannau y mae pob un ohonom am eu gweld.
Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, er fy mod yn dal i fod braidd yn ddryslyd yn ei gylch. Roeddwn yn credu mai holl bwynt y mesurau arbennig oedd sicrhau bod y Llywodraeth yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd. Ond ar wahân i hynny, a boed hynny fel y bo, rwyf hefyd yn synnu braidd wrth glywed y Gweinidog yn dweud bod y ffactorau'n gymhleth, ac yn sgil hynny, nad ydynt yn gwybod beth yn union sy'n digwydd, oherwydd mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Adam Price, yr wythnos diwethaf, honnodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad manwl i gyflwr unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae eich cymheiriaid Llafur yn Llundain yn galw amdano, er bod y system yn Lloegr, yn anffodus, yn perfformio'n well na system Cymru ar gyfartaledd. Un o'r rhesymau a roddodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad, wrth gwrs, oedd:
'Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud.'
Dyna'n union a ddywedodd, a:
'Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man'.
Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon a minnau yn awyddus i eilio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud ynglŷn â'r gwaith rhagorol a wna'r staff rheng flaen, mewn amgylchiadau anodd iawn weithiau. Ond naill ai mae'r Prif Weinidog yn iawn a'n bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac os felly, buaswn yn awgrymu y dylai'r Gweinidog a'i swyddogion fwrw ati i'w wneud, neu nid ydym yn gwybod, ac os felly, mae angen inni ddod i wybod.
Wel, nid yw hynny'n adlewyrchiad hollol gywir o'r hyn a ddywedais na'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog chwaith. Yn sicr, nid wyf erioed wedi dweud, 'Ni wyddom beth sy'n digwydd o fewn y system gofal brys.' Gwyddom fod her i'w chael ynghylch arweinyddiaeth glinigol ac ymgysylltiad ac ymrwymiad. Ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar draws gogledd Cymru, ni allwch wahaniaethu rhwng y niferoedd sy'n mynd i Ysbyty Gwynedd o gymharu â Glan Clwyd neu Wrecsam Maelor er mwyn esbonio'r gwahaniaethau mewn perfformiad. Felly, mae her yn hyn o beth ynghylch sut y cawn bersbectif positif gyda'n staff nad yw'n dweud, 'Nid ydych yn gwneud eich swydd yn iawn'. Dyna'r neges waethaf bosibl. Felly, mae'n ymwneud â'r ymgysylltiad rydym yn ei ddisgwyl. Dyna pam fod yr arweinyddiaeth glinigol, gan swyddog arweiniol cenedlaethol, yn bwysig—rhywun â hygrededd gyda'r gweithlu hwnnw, i ddeall manylion pob safle, yn ogystal â'r pwyntiau ehangach ynglŷn ag arweinyddiaeth glinigol ac ymddygiad o fewn ein system. Ac mae'r holl bethau rydym yn eu gwneud dros y gaeaf hwn, o ran sicrhau nad oes gennym bobl yn mynd i ysbytai'n ddiangen, sicrhau mwy o allu o fewn ein gwasanaeth gofal sylfaenol, maent yn bwysig ym mhob rhan o'n system. Ond rydym yn cydnabod yr heriau a'r problemau penodol yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac mae hynny'n ffocws, wrth gwrs, ar gyfer ein system gyfan.
Welwch chi, Lywydd, rwy'n cael hyn braidd yn anodd, oherwydd, ar y naill law, dywed y Gweinidog wrthym nad oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng effaith yr hyn sy'n digwydd yn Ysbyty Gwynedd a'r hyn sy'n digwydd yn y ddwy uned damweiniau ac achosion brys arall, ac ar y llaw arall, mae'n dweud wrthyf fod y ffactorau'n wahanol, a bod angen inni eu hystyried. Nawr, yn sicr, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw un ar reng flaen y gwasanaethau hynny'n methu gwneud eu gwaith yn iawn. Efallai y dylem ofyn i ni'n hunain a oes unigolion yn y Siambr hon sydd, yn hyn o beth, yn gwneud eu gwaith yn iawn neu fel arall, ond nid wyf o reidrwydd am fynd i'r lefel honno. Mewn perthynas â damweiniau ac achosion brys, a'r ddau ysbyty penodol hyn, mae'n amlwg nad yw beth bynnag y mae'r Gweinidog yn ei wneud o dan fesurau arbennig, fel y saif pethau, yn gweithio, oherwydd fel arall byddent yn dysgu o'r arferion da y mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw atynt mewn mannau eraill yng Nghymru. O ystyried y pwerau sydd ganddo o dan y mesurau arbennig, a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod bellach yn bryd gwneud rhywbeth mwy radical, fod angen inni edrych ar y system gyfan drwyddi draw mewn perthynas â'r ddau ysbyty, ac edrych ar bopeth sy'n digwydd gyda derbyniadau a derbyniadau diangen, hyd at yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty'n ddiangen? Ni all fod yn wir fod Ysbyty Gwynedd yn gallu ymdopi, ac na all y ddau ysbyty arall ymdopi. Credaf ei bod yn bryd i'r Gweinidog gamu i mewn ac edrych ar hyn mewn ffordd radical a chyson.
Unwaith eto, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o'r ffeithiau rwyf wedi eu nodi. Mae angen i chi ddeall beth sy'n benodol i bob safle penodol fynd i'r afael ag ef, ond mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth sy'n esbonio'r gwahaniaeth sylweddol mewn perfformiad rhwng y tri safle yng ngogledd Cymru, a phan ewch y tu hwnt i hynny, y gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o Gymru hefyd. Dyna pam fod gennym ffocws gwirioneddol ar arweinyddiaeth glinigol. Am y trydydd tro rwyf am ddweud hyn: mae arweinyddiaeth glinigol yn bwysig, a pherfformiad, a gall hynny, a bydd hynny, yn gwneud gwahaniaeth. Ein gwaith ni yw gallu annog a chefnogi'r bobl hynny i ddatgan eu disgwyliadau o ran y bwrdd yn glir, a'u sefyllfa hwy o ran atebolrwydd a chyflawniad—a byddant yn cael eu dwyn i gyfrif, ac mewn gwirionedd, mae'r cadeirydd wedi perchnogi ac ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros y nod o sicrhau gwelliant yn y maes hwn—i ddeall y cynllun gwella a thrawsnewid 90 diwrnod, i adael inni weld beth sydd wedi newid, a beth sydd angen ei newid ymhellach. Oherwydd nid yw dweud, 'Gwnewch rywbeth radical a gwahanol, Weinidog'—wel, nid yw hwnnw'n ateb. Dyna'r peth hawsaf i'w ddweud, ond nid yw'n ateb i fynd i'r afael â pherfformiad a'r math o wasanaeth y mae ein staff yn awyddus i'w ddarparu, ac y mae ein cyhoedd yn ei ddisgwyl. Rwy'n benderfynol o wneud y peth iawn—mae hynny'n ymwneud â gwrando ar ein staff, edrych ar y dystiolaeth, a sicrhau y gwneir y peth iawn. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy nwyn i gyfrif, pa un a ydym yn gwneud yn dda ai peidio.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch. Credaf fod fy nghwestiynau—diolch. Diolch, Lywydd. A gaf fi eich croesawu i'ch sesiwn gwestiynau gyntaf, rwy'n credu, Weinidog? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol yn y portffolio hwn. O fy amser gyda chi ar bwyllgorau, gwn eich bod yn ddiffuant iawn yn eich gwaith.
Iawn, mae yna o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sy'n fwy na phoblogaeth Caerdydd. A bydd oddeutu tri o bob pump ohonom yn dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. I lawer o bobl ifanc, fodd bynnag, daw'r adeg hon yn rhy gynnar o lawer. Yn wir, fel y gwyddoch, mae gennym fyddin anhunanol o ofalwyr dan 18 mlwydd oed ledled Cymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, a cheisiodd sawl un ohonom fel Ceidwadwyr Cymreig godi ymwybyddiaeth o hyn, a'r rôl hanfodol y mae'r sêr ifanc hyn yn ei chwarae wrth gefnogi aelodau o'u teuluoedd sy'n sâl ac yn anabl. Un pwynt pwysig sy'n peri pryder yw'r ffaith na all rhai gofalwyr ifanc barhau mewn addysg neu brentisiaethau, gan eu bod yn ofni colli eu lwfans gofalwr. A wnewch chi, felly, gymeradwyo, cefnogi a sicrhau ein bod yn rhoi polisi rydym yn awyddus i'w gyflwyno ar waith, sef grant o £60 yr wythnos i oedolion ifanc sy'n ofalwyr tuag at eu dyfodol?
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei geiriau caredig a chalonogol iawn. Mewn ymateb i'w sylwadau am ofalwyr ifanc, rydym yn gwbl ymrwymedig i gefnogi gofalwyr o bob oedran, gan gynnwys gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Credwn fod addysg yn yr ysgol yn un o'r meysydd allweddol er mwyn nodi a helpu gofalwyr ifanc ac rwy'n ymwybodol fod sefyllfa ariannol gofalwyr ifanc yn aml yn achos pryder, ac mae ei hargymhelliad yn rhywbeth y gallwn ei ystyried.
Diolch, mae hynny'n galonogol iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credaf y byddai ein grant yn gwneud llawer i helpu i sicrhau y gall gofalwyr ifanc barhau mewn addysg. Mae hyn yn allweddol, ond mae mwy y gallwn ei wneud eto. Yn wir, mae'n ffaith frawychus fod YoungMinds yn awgrymu bod 68 y cant o ofalwyr ifanc wedi cael eu bwlio ar ryw adeg oherwydd eu cyfrifoldebau yn y cartref. Felly, maent wedi rhoi arwyddion clir nad yw gweithwyr proffesiynol, ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ysgolion, yn gallu nodi a sylwi ar anghenion hyfforddi, nid yn unig ar gyfer y gofalwyr eu hunain, ond ar gyfer eu cyfoedion. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd y cerdyn adnabod yn cyrraedd yr holl ofalwyr ac y rhoddir digon o hyfforddiant i oedolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel y gallwn nodi pwy yw ein gofalwyr yn llawer cynt yn y system a rhoi'r cymorth sydd ei angen?
Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â gofalwyr ifanc ac mae'n wirioneddol bwysig, yn enwedig mewn ysgolion, fod yna ymwybyddiaeth ehangach o lawer, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio arno.
Mewn gwirionedd, mae swyddogion yma yn y Llywodraeth wrthi'n gweithio ar y cynnig ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac maent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ystyried y cynigion ar gyfer cynllun o'r fath ac yn gweithio hefyd gyda'r adran addysg. Mae nifer o gynlluniau adnabod gofalwyr eisoes ar waith mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, a chredaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw archwilio sut y maent yn gweithio, ond yr hyn yr hoffem ei wneud yw cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc. Ond yn amlwg, gallwch gyflwyno'r cerdyn, ond mae'n rhaid ichi sicrhau bod pobl yn deall beth y mae'r cerdyn yn ei olygu. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fod pobl yn y Llywodraeth yn gweithio ar y mater hwn ar hyn o bryd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y byddai'r gofalwyr ifanc eu hunain yn ei groesawu.
Diolch, unwaith eto. Un o nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 yw gwella lles gofalwyr sydd angen cymorth. Yn dilyn hyn, mae gan ofalwr o unrhyw oedran yr un hawliau i gael eu hasesu ar gyfer cymorth â'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt. Cynhelir yr asesiadau hyn gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw cyfanswm nifer y staff gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers 2014-15, yn enwedig o ystyried y lefelau uchel o salwch a straen sy'n bodoli yn yr adrannau hynny. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu cael eu hasesiad o anghenion yn llawn—a'i fod yn asesiad dilys—ac yna'n cael y cymorth dilynol sydd ei angen arnynt, a'u bod yn ei gael yn ddiymdroi?
Mae'n hollol hanfodol, fel y dywed yr Aelod, fod asesiadau cywir yn cael eu cynnal ar gyfer gofalwyr ifanc, ac mae hynny'n ofynnol o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond gwn nad yw llawer o ofalwyr ifanc wedi cael asesiadau a gwn fod y modd y caiff yr asesiadau eu rhoi ar waith yn amrywio. Felly, mae'r Llywodraeth yn edrych ar hyn—yn edrych ar sut i wella hyn ac yn edrych ar hyn drwy grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ac mewn ffyrdd eraill. Ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gofalwyr ifanc yn cael eu hasesu, oherwydd un o'r pethau sy'n rhaid ichi eu hystyried mewn asesiad yw sut y mae bod yn ofalwr yn effeithio ar fywyd arferol o ddydd i ddydd fel y bydd unigolyn ifanc ei angen, ac mae gwir angen i'r asesiadau ystyried hynny. Felly, mae'r asesiadau yn hollbwysig, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn fwy cyson ac ar gael yn ehangach.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar wariant GIG Cymru ar staff asiantaeth, fod y swm o arian sy'n cael ei wario wedi cynyddu 171 y cant dros saith mlynedd, ac yn £135 miliwn yn 2017-18. Mae hon yn ffordd ddrud iawn o recriwtio staff. Yn Betsi Cadwaladr yn 2017, roeddent yn gwario 7 y cant o gyfanswm eu cyllideb staff ar staff asiantaeth, ac yn Hywel Dda roedd yn 10 y cant. Dengys y ffigurau diweddaraf fod Betsi Cadwaladr yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth, a Hywel Dda yn gwario £23 miliwn. Yr ymateb a welais hyd yma gan Lywodraeth Cymru yw y bydd yr adroddiad hwn yn llywio gweithgarwch yn y dyfodol i gryfhau arweinyddiaeth er mwyn llywio'r gwaith o sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol a datblygu un ffynhonnell ar gyfer casglu data. Yn hytrach na iaith rheoli, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno y dylid rhoi camau gweithredu ymarferol ar waith i leihau'r ffigurau hyn fel y gellid gwario'r arian mewn ffyrdd eraill sy'n fwy buddiol i gleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?
Mewn gwirionedd, os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Gwneuthum ddewis nid yn unig i gyflwyno cap ar gyfraddau, ond amrywiaeth o fesurau eraill a gynigiwyd gan y gwasanaeth o ran dewisiadau polisi. Golygodd hynny ein bod wedi gwario o leiaf £30 miliwn yn llai ar staff asiantaeth nag yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond gwyddom fod angen inni wneud mwy. Ac mewn gwirionedd, mae her i bob un ohonom yn hyn: os ydym am weld gostyngiad yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen inni newid y ffordd rydym yn darparu gofal. Golyga hynny y bydd angen i'r ffordd rydym yn darparu gofal ar hyn o bryd newid i'w wneud yn fwy deniadol ar gyfer recriwtio staff parhaol i'r gwasanaeth. Ac wrth gwrs, mae Aelodau ar draws y Siambr o dan bwysau rheolaidd i gefnogi cadw'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, hyd yn oed pan fo'r gwasanaethau hynny'n dibynnu ar lefelau uchel o wariant ar staff asiantaeth a staff locwm. Felly, mewn gwirionedd, mae newid gwasanaethau yn ymwneud â mwy na lleihau gwariant; mae'n ymwneud â darparu gwell gofal, gydag aelodau staff parhaol sydd ar y tîm gofal ar sail barhaol.
Wrth gwrs, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud yn well o lawer na'r byrddau rwyf newydd eu crybwyll. Yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, oddeutu 1.5 y cant yn unig o'u cyllideb staffio a werir ar staff asiantaeth. Felly, os gallant hwy wneud hynny, pam na all y byrddau iechyd eraill ei wneud? Mae'r arian yn cael ei wario i raddau helaeth ar staff meddygol a deintyddol, a nyrsio a bydwreigiaeth. Unwaith eto, yn Betsi Cadwaladr, mae 65 y cant o'r arian y maent wedi'i wario ar staff asiantaeth wedi mynd ar staff meddygol a deintyddol—dyna £19 miliwn. Ond nid yw Caerdydd a'r Fro, ar y llaw arall, ond wedi gwario £360,000 ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau hyn? Mae'n amlwg nad cyflog yw'r achos, gan fod cyfraddau cyflog yn cael eu pennu ar sail genedlaethol i raddau helaeth. Dyma achos arall lle mae arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl angenrheidiol er mwyn datrys problem sylweddol sy'n ychwanegu at y beichiau eraill ar y gwasanaeth iechyd.
Mewn rhan fawr o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, gwyddom ei bod yn haws denu a recriwtio i rai canolfannau nag eraill mewn gwahanol rannau o'r wlad. Nid oes angen i chi fy nghredu i; siaradwch â phobl sy'n gweithio yn y rhannau eraill hynny o'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â pha mor hawdd neu ba mor anodd yw gwneud hynny. Mae Caerdydd a'r Fro, a rhannau eraill o gornel y de-ddwyrain, wedi cael ffordd fwy sefydlog o ddarparu a thrawsnewid eu gofal. Mae gwaith gwahanol i'w wneud, er enghraifft, yng ngorllewin a gogledd Cymru o ran trawsnewid y ffordd y darperir gofal. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â staff asiantaeth a staff locwm a gwariant uwch. Dyna realiti anochel ein sefyllfa. Felly, os yw'r Aelodau yn dymuno gweld gostyngiad go iawn yn y gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, mae angen i bob un ohonom gael trafodaeth aeddfed ynglŷn â ble y darperir y gofal hwnnw, i'w wneud yn lle mwy deniadol i staff weithio. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn parhau naill ai i gynnal rhannau o'n gwasanaeth â gwariant ar staff asiantaeth a staff locwm, neu eu gweld yn diwygio ac yn newid ar adeg o argyfwng, yn hytrach na chynllunio'n fwriadol i wneud hynny. Dyna oedd un o negeseuon canolog 'Cymru Iachach', ac yn wir, yr adolygiad seneddol yr ymrwymodd pob plaid yn y Siambr hon iddo.
Wrth gwrs, mae perfformiad rhai byrddau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf yn ei gwneud yn anos recriwtio staff o bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd fel gogledd Cymru. Serch hynny, ni ellir dweud mai dyna'r unig reswm dros yr anhawster, gan fod yr un broblem i'w gweld gyda staff locwm meddygon teulu ag sydd i'w gweld ymhlith staff y GIG mewn meysydd eraill o weithgarwch proffesiynol. Er enghraifft, o ran Blaenau Ffestiniog, dywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2017 eu bod yn dal i wynebu problemau sylweddol yno mewn perthynas â recriwtio meddygon teulu gan fod yno gryn ddibyniaeth ar feddygon locwm, ac roedd angen gwella. Wel, ar wefan Primary Care Professionals heddiw, ceir hysbyseb ar gyfer 32 o swyddi meddygon teulu ym Mlaenau Ffestiniog, gyda 22 ohonynt ar gyfer staff locwm. Felly, yn yr 16 mis rhwng adroddiad yr arolygiaeth gofal iechyd yn 2017 a heddiw, ychydig iawn o newid a fu. Ar dudalen 39 o'r adroddiad hwnnw, roedd yn dweud y dylai'r cyfarwyddwr ardal cynorthwyol ar gyfer gofal sylfaenol a'r rheolwr datblygu gofal sylfaenol, erbyn 31 Ionawr 2018—flwyddyn yn ôl—gynyddu argaeledd meddygon teulu cyflogedig drwy recriwtio er mwyn lleihau newidiadau mynych yn niferoedd y staff a'r staff locwm sydd ar gael i gwblhau eu tasgau eu hunain. Felly, pryd y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol, nid yn unig o ran staff asiantaeth mewn ysbytai, ond hefyd o ran recriwtio meddygon teulu i wasanaethu ardaloedd sydd wedi dibynnu'n rhy hir o lawer ar staff locwm yn mynd a dod drwy'r amser? Mae'r rhan fwyaf o gleifion eisiau gweld eu meddyg teulu arferol; nid ydynt am fod mewn sefyllfa lle maent yn gweld rhywun newydd bob tro y maent yn mynd i'r feddygfa.
Mae hynny'n wir i rai cleifion, ac mae gan eraill farn wahanol. Os edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, os edrychwch ar gynllun y GIG yn Lloegr, er enghraifft, pan fyddant yn sôn am y ffordd y maent yn awyddus i feddygon teulu weithio gyda'i gilydd, mae hynny'n swnio ac yn edrych yn debyg iawn i'r clystyrau sydd gennym yma yng Nghymru. Efallai nad ydynt yn rhoi clod inni am hynny, ond mewn gwirionedd, maent yn copïo nifer o'r pethau rydym yn eu gwneud gan y bydd gweithlu'r dyfodol yn wahanol, ac wrth feddwl am staff asiantaeth a staff locwm, rwy'n sicr yn meddwl am ofal sylfaenol—y gallu i recriwtio digon o feddygon teulu, yr hyfforddiant sydd gennym, cyflawniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gwneud yn dda iawn o ran llenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu, ond yn fwy na hynny, am yr amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo gyda mathau gwahanol o staff.
Ac mae nifer gwahanol o feddygon teulu yn gweithio mewn ffordd wahanol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Dyna pam fod y buddsoddiad mwyaf erioed a wnawn mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, y £114 miliwn rydym yn ei fuddsoddi—. Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, cynnydd o £7 miliwn yn y math hwnnw o hyfforddiant, ar gyfer mwy o staff, ar gyfer y ffisiotherapyddion, y nyrsys, y parafeddygon. Dyna'r her y mae'n rhaid inni ei hwynebu. Ac mewn gwirionedd, mae ein gweithlu meddygon teulu yn cefnogi'r cyfeiriad rydym yn mynd iddo at ei gilydd. Yr her, fel arfer, yw hon: a ydym yn gallu symud yn ddigon cyflym i gadw gwasanaethau ar agor ac yn weithredol, a darbwyllo digon o bobl i ddod i weithio mewn ffordd wahanol? Ac yn hynny o beth, rwy'n derbyn nad fy llais i yw'r mwyaf darbwyllol. Mae meddyg teulu yn fwy tebygol o wrando ar feddyg teulu arall ynglŷn â'r ffordd y maent wedi newid eu hymarfer, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gwahanol, nag unrhyw wleidydd yn y lle hwn. Ac mae gennym amrywiaeth o arweinwyr ym maes ymarfer cyffredinol sy'n gwneud y gwaith hwnnw ac yn dangos gwir arweinyddiaeth ymhlith eu cymheiriaid. Felly, er yr heriau sy'n ein hwynebu, mae lle i fod yn optimistaidd ynglŷn â'r llwybr rydym arno, ac yn wir, ynglŷn â'r clod o weld GIG Lloegr yn efelychu rhannau sylweddol o'r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru.