Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:35, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Welwch chi, Lywydd, rwy'n cael hyn braidd yn anodd, oherwydd, ar y naill law, dywed y Gweinidog wrthym nad oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng effaith yr hyn sy'n digwydd yn Ysbyty Gwynedd a'r hyn sy'n digwydd yn y ddwy uned damweiniau ac achosion brys arall, ac ar y llaw arall, mae'n dweud wrthyf fod y ffactorau'n wahanol, a bod angen inni eu hystyried. Nawr, yn sicr, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw un ar reng flaen y gwasanaethau hynny'n methu gwneud eu gwaith yn iawn. Efallai y dylem ofyn i ni'n hunain a oes unigolion yn y Siambr hon sydd, yn hyn o beth, yn gwneud eu gwaith yn iawn neu fel arall, ond nid wyf o reidrwydd am fynd i'r lefel honno. Mewn perthynas â damweiniau ac achosion brys, a'r ddau ysbyty penodol hyn, mae'n amlwg nad yw beth bynnag y mae'r Gweinidog yn ei wneud o dan fesurau arbennig, fel y saif pethau, yn gweithio, oherwydd fel arall byddent yn dysgu o'r arferion da y mae'r Gweinidog yn iawn i dynnu sylw atynt mewn mannau eraill yng Nghymru. O ystyried y pwerau sydd ganddo o dan y mesurau arbennig, a yw'r Gweinidog yn derbyn ei bod bellach yn bryd gwneud rhywbeth mwy radical, fod angen inni edrych ar y system gyfan drwyddi draw mewn perthynas â'r ddau ysbyty, ac edrych ar bopeth sy'n digwydd gyda derbyniadau a derbyniadau diangen, hyd at yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty'n ddiangen? Ni all fod yn wir fod Ysbyty Gwynedd yn gallu ymdopi, ac na all y ddau ysbyty arall ymdopi. Credaf ei bod yn bryd i'r Gweinidog gamu i mewn ac edrych ar hyn mewn ffordd radical a chyson.