Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:46, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud yn well o lawer na'r byrddau rwyf newydd eu crybwyll. Yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, oddeutu 1.5 y cant yn unig o'u cyllideb staffio a werir ar staff asiantaeth. Felly, os gallant hwy wneud hynny, pam na all y byrddau iechyd eraill ei wneud? Mae'r arian yn cael ei wario i raddau helaeth ar staff meddygol a deintyddol, a nyrsio a bydwreigiaeth. Unwaith eto, yn Betsi Cadwaladr, mae 65 y cant o'r arian y maent wedi'i wario ar staff asiantaeth wedi mynd ar staff meddygol a deintyddol—dyna £19 miliwn. Ond nid yw Caerdydd a'r Fro, ar y llaw arall, ond wedi gwario £360,000 ar hyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau hyn? Mae'n amlwg nad cyflog yw'r achos, gan fod cyfraddau cyflog yn cael eu pennu ar sail genedlaethol i raddau helaeth. Dyma achos arall lle mae arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl angenrheidiol er mwyn datrys problem sylweddol sy'n ychwanegu at y beichiau eraill ar y gwasanaeth iechyd.