Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, mae hynny'n galonogol iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credaf y byddai ein grant yn gwneud llawer i helpu i sicrhau y gall gofalwyr ifanc barhau mewn addysg. Mae hyn yn allweddol, ond mae mwy y gallwn ei wneud eto. Yn wir, mae'n ffaith frawychus fod YoungMinds yn awgrymu bod 68 y cant o ofalwyr ifanc wedi cael eu bwlio ar ryw adeg oherwydd eu cyfrifoldebau yn y cartref. Felly, maent wedi rhoi arwyddion clir nad yw gweithwyr proffesiynol, ar hyn o bryd, yn enwedig mewn ysgolion, yn gallu nodi a sylwi ar anghenion hyfforddi, nid yn unig ar gyfer y gofalwyr eu hunain, ond ar gyfer eu cyfoedion. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd y cerdyn adnabod yn cyrraedd yr holl ofalwyr ac y rhoddir digon o hyfforddiant i oedolion sy'n gweithio gyda phobl ifanc, fel y gallwn nodi pwy yw ein gofalwyr yn llawer cynt yn y system a rhoi'r cymorth sydd ei angen?