Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:33, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, er fy mod yn dal i fod braidd yn ddryslyd yn ei gylch. Roeddwn yn credu mai holl bwynt y mesurau arbennig oedd sicrhau bod y Llywodraeth yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd. Ond ar wahân i hynny, a boed hynny fel y bo, rwyf hefyd yn synnu braidd wrth glywed y Gweinidog yn dweud bod y ffactorau'n gymhleth, ac yn sgil hynny, nad ydynt yn gwybod beth yn union sy'n digwydd, oherwydd mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Adam Price, yr wythnos diwethaf, honnodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad manwl i gyflwr unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae eich cymheiriaid Llafur yn Llundain yn galw amdano, er bod y system yn Lloegr, yn anffodus, yn perfformio'n well na system Cymru ar gyfartaledd. Un o'r rhesymau a roddodd y Prif Weinidog nad oedd angen ymchwiliad, wrth gwrs, oedd:

'Rydym ni'n ymwybodol o'r pethau y mae angen eu gwneud.'

Dyna'n union a ddywedodd, a:

'Y dasg yw bwrw ati a gwneud yn siŵr bod y gwelliannau cyffredinol yn cael eu rhannu mewn mannau eraill ac ym mhob man'.

Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon a minnau yn awyddus i eilio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud ynglŷn â'r gwaith rhagorol a wna'r staff rheng flaen, mewn amgylchiadau anodd iawn weithiau. Ond naill ai mae'r Prif Weinidog yn iawn a'n bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ac os felly, buaswn yn awgrymu y dylai'r Gweinidog a'i swyddogion fwrw ati i'w wneud, neu nid ydym yn gwybod, ac os felly, mae angen inni ddod i wybod.