Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:44, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar wariant GIG Cymru ar staff asiantaeth, fod y swm o arian sy'n cael ei wario wedi cynyddu 171 y cant dros saith mlynedd, ac yn £135 miliwn yn 2017-18. Mae hon yn ffordd ddrud iawn o recriwtio staff. Yn Betsi Cadwaladr yn 2017, roeddent yn gwario 7 y cant o gyfanswm eu cyllideb staff ar staff asiantaeth, ac yn Hywel Dda roedd yn 10 y cant. Dengys y ffigurau diweddaraf fod Betsi Cadwaladr yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth, a Hywel Dda yn gwario £23 miliwn. Yr ymateb a welais hyd yma gan Lywodraeth Cymru yw y bydd yr adroddiad hwn yn llywio gweithgarwch yn y dyfodol i gryfhau arweinyddiaeth er mwyn llywio'r gwaith o sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol a datblygu un ffynhonnell ar gyfer casglu data. Yn hytrach na iaith rheoli, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno y dylid rhoi camau gweithredu ymarferol ar waith i leihau'r ffigurau hyn fel y gellid gwario'r arian mewn ffyrdd eraill sy'n fwy buddiol i gleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?