Mynd i'r Afael ag Apwyntiadau a Gollwyd yn y GIG

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:10, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn achosion brys, mae'r gyfradd o bobl sy'n colli apwyntiadau dros 10 y cant bellach. Sylwais yn Lloegr mai un peth y maent yn ei wneud wrth anfon negeseuon testun—ac efallai ein bod ni yn ei wneud, ond os gallech fy ngoleuo—yw rhoi syniad bras o'r gost i'r GIG pan fo claf yn colli apwyntiad, a gwneud hynny wedyn ar sail unigol a chyfunol. Oherwydd pe bai pobl yn sylweddoli faint mae'n ei gostio—mae'r gost cyfle'n sylweddol iawn—rwy'n credu y byddent yn ailfeddwl. Ond nid yw'r ffaith bod dros 10 y cant o gleifion yn colli apwyntiad yn dderbyniol.