Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ie, ac mae honno'n her go iawn. Mae'n ymwneud yn rhannol ag effeithlonrwydd, ond mae hefyd, a dweud y gwir, yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau o amser pobl, ac nid arian yn unig. Mae rhai byrddau iechyd yn darparu amcangyfrif o faint y mae apwyntiad yn ei gostio, ac mae gan y rhan fwyaf o'r ysbytai rwyf wedi bod ynddynt—ac rwy'n tueddu i fynychu tipyn ohonynt dros yr amser rwy'n ei dreulio yn y swydd—arwyddion rheolaidd sy'n dangos y gost i'r gwasanaeth iechyd pan fo claf yn colli apwyntiad. Mae digon o wybodaeth ar gael ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd am realiti'r gost. Credaf mai'r her yw sut y gallwn sicrhau dull mwy cyson o ddefnyddio pethau fel negeseuon testun i atgoffa pobl, a lle i hysbysu pobl am y gost o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd ac yn wir, o beidio â'i ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ogystal.