Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 6 Chwefror 2019.
Rwy'n barod i ystyried yn ddifrifol y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac edrych eto ar y canllawiau i weld a oes iddynt ganlyniad anfwriadol. Ond mewn gwirionedd, y man cychwyn yw ei bod yn bwysig cael trafodaeth lawn gyda'r cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei gynnig: beth yw'r cynnig ar gyfer y dyfodol, beth y mae hynny'n ei olygu am wasanaethau yn awr? Ac i wneud yn siŵr nad ydym yn cael sgwrs artiffisial sy'n gwneud i bobl boeni mwy am ddyfodol gwasanaethau a fydd yn cael eu diddymu, yn hytrach na'r cymysgedd yn y dyfodol lle bydd pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Felly, rwy'n fodlon siarad ag ef am yr enghraifft benodol a grybwyllwyd ganddo ac edrych i weld a oes angen newid y canllawiau neu beidio, a'r cydbwysedd sydd angen i fyrddau iechyd ei sicrhau er mwyn gallu symud mor gyflym â phosibl, ond sicrhau hefyd fod yna frys a chyflymder sy'n ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd drwy gael sgwrs go iawn ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig iddynt.