2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
6. Pa ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd o ran ymgysylltu a’r cyhoedd ynglyn â newidiadau i wasanaethau? OAQ53344
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol i GIG Cymru ar ymgysylltu ac ymgynghori pan fyddant yn ystyried gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd. Rwy'n disgwyl y byddant yn ystyried y canllawiau'n llawn ac yn cynnwys rhanddeiliaid—gan gynnwys y cyhoedd, wrth gwrs—yn llawn pan fyddant yn argymell unrhyw newidiadau.
Diolch yn fawr. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar fin trafod newidiadau pellgyrhaeddol i'r ffordd mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws y gogledd. Mae'r newidiadau yn cynnwys darparu gwasanaethau wroleg ar ddau safle yn lle tri, symud gofal strôc o ddau safle a symud gwasanaethau orthopedig o ddau le. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno fod angen i'r bwrdd iechyd fod yn gwbl dryloyw efo'r cyhoedd pan mae newidiadau mawr fel hyn yn cael eu trafod. Yn anffodus, maen nhw'n ceisio cyflwyno'r newid drwy'r drws cefn. A wnewch chi sicrhau fod ymgynghori trwyadl yn digwydd ac asesiadau effaith manwl yn cael eu gwneud cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd?
Nid wyf yn credu fy mod yn derbyn y disgrifiad fod y rhain yn newidiadau y ceisir eu cyflwyno drwy'r drws cefn. Yn y tri maes rydych wedi siarad amdanynt—niwroleg ac orthopedeg, mae pwysau mawr ar y niferoedd sy'n mynd drwy ein system ac ar ein gallu i gyrraedd y rheini. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r cynnydd yn y galw—er enghraifft, ym maes niwroleg, o ran cael y cyfarpar cywir a'r bobl gywir wedi'u recriwtio i'r gwasanaethau hynny i'w gwneud yn gadarn, ac ym maes orthopedeg, lle nad yw'n ymwneud yn unig â chael ffordd fwy effeithlon o wneud rhagor o lawdriniaethau, ond hefyd â pha ganolfannau y dylech wneud llawdriniaethau ynddynt, pa rai sy'n cael eu gwneud, ac yna hefyd, beth sydd angen i chi ei wneud o ran y bobl nad ydynt angen llawdriniaeth yn y lle cyntaf. Ym mhob un o'r meysydd hynny, mae angen siarad â staff a'r cyhoedd ynglŷn â beth allai fod yno. Gwn mai cynigion drafft yn unig sydd wedi'u cyflwyno i'r bwrdd. Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniadau terfynol ac rwy'n disgwyl y ceir ymgynghoriad llawn a phriodol.
Ar wasanaethau strôc, er hynny, mae sgwrs hirfaith wedi bod ac mae'r Gymdeithas Strôc, y prif lais dros ac ar ran cleifion, yn glir iawn eu bod eisiau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws gweddill y wlad, wneud cynnydd go iawn gydag unedau hyperacíwt—nifer llai o ganolfannau derbyn gyda gwell canlyniadau i staff. Mewn gwirionedd, mae arweinydd clinigol y gwasanaethau strôc yng Nghymru, ym Mronglais, yn glir iawn fod angen newid nifer ein gwasanaethau lle caiff pobl eu derbyn yn dilyn strôc hefyd er mwyn darparu gwell gofal. Nawr, mae honno'n sgwrs y mae angen i glinigwyr ei chael a chytuno arni, ond mae hefyd yn sgwrs y mae angen iddynt ei chael gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynnig a pham fel rhan o'r ymgysylltiad priodol hwnnw gyda'r cyhoedd. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond drwy'r gwasanaeth cyfan.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, o ran canllawiau, a ydym yn cael ein rhwystro mewn unrhyw ffordd gan y cyfyngiadau sydd ar fyrddau iechyd o ran ymgynghoriadau? Cyn y Nadolig, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar fater yn ymwneud ag ysbyty Maesteg. Ni chafodd ei fframio fel 'dyfodol ysbyty Maesteg; sut y gallwn edrych ar ei ddyfodol hirdymor, beth allwn ni ei wneud o ran ad-drefnu gwasanaethau'. Roedd yn fawr ar yr uwchdaflunydd ar neuadd y dref ym Maesteg gyda rhai cannoedd o bobl yn ei wylio: 'Cau ysbyty dydd', ac roedd llawer o bobl, gyda llaw, o dan yr argraff fod hynny'n golygu cau'r ysbyty ei hun yn hytrach na'r uned ddydd a'r gofal seibiant a ddarperir. Maent wedi oedi ar hynny oherwydd y gwrthwynebiad llethol i'r cynigion ar gyfer y dyfodol, ac maent yn bwriadu ail-ymgynghori. Ond un o'r pethau y maent yn ei ddweud wrthyf yw eu bod wedi'u cyfyngu o ran sut i fframio hynny. Mae'n rhaid iddynt ei fframio mewn ffordd sy'n dynodi cau uned yn hytrach na gofyn i bobl, 'Beth hoffech chi ei weld yma i ddiwallu anghenion modern Maesteg a chwm Afan uchaf?' ac ati. Felly, a oes problem gyda'n canllawiau sy'n cyfyngu ar y modd y gall byrddau iechyd ymgynghori â phobl ar yr hyn y maent eisiau ei weld yn y dyfodol mewn perthynas â'u cyfleusterau lleol hollbwysig?
Rwy'n barod i ystyried yn ddifrifol y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ac edrych eto ar y canllawiau i weld a oes iddynt ganlyniad anfwriadol. Ond mewn gwirionedd, y man cychwyn yw ei bod yn bwysig cael trafodaeth lawn gyda'r cyhoedd am yr hyn sy'n cael ei gynnig: beth yw'r cynnig ar gyfer y dyfodol, beth y mae hynny'n ei olygu am wasanaethau yn awr? Ac i wneud yn siŵr nad ydym yn cael sgwrs artiffisial sy'n gwneud i bobl boeni mwy am ddyfodol gwasanaethau a fydd yn cael eu diddymu, yn hytrach na'r cymysgedd yn y dyfodol lle bydd pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Felly, rwy'n fodlon siarad ag ef am yr enghraifft benodol a grybwyllwyd ganddo ac edrych i weld a oes angen newid y canllawiau neu beidio, a'r cydbwysedd sydd angen i fyrddau iechyd ei sicrhau er mwyn gallu symud mor gyflym â phosibl, ond sicrhau hefyd fod yna frys a chyflymder sy'n ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd drwy gael sgwrs go iawn ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig iddynt.