Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 6 Chwefror 2019.
Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad oren a'r sgwrs ynglŷn ag a ddylech roi syniad o pryd y bydd ambiwlans yn cyrraedd, a'r cyngor oedd na ddylid gwneud hynny. Mae prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans hefyd yn gweithio i ddatblygu'r adolygiad oren i geisio gwella profiad pobl tra bônt yn aros.
Er hynny, buaswn yn hapus i siarad â'r Aelod yn uniongyrchol am y profiad a gafodd, i geisio deall a oes mwy o bethau y gallai'r gwasanaeth ambiwlans ei wneud, hyd yn oed os yw'n sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallai'r unigolyn ei wneud os ydynt yn gallu cludo rhywun yn ddiogel i ganolfan y maent yn debygol o orfod mynd iddi beth bynnag os yw'r ambiwlans yn cyrraedd.