Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ar y ddau bwynt—. Mae yna ddau bwynt gwahanol, ac o ran cyd-ymatebwyr, nid yw'n ymwneud ag arian yn unig. Mae'n ymwneud â chytundeb ar rôl diffoddwyr tân hefyd, er enghraifft, a chytundeb sy'n ymwneud â thelerau ac amodau ac mewn gwirionedd, sut y darparwn ac y gwnawn well defnydd o bersonél hyfforddedig o fewn system ehangach ein gwasanaethau brys.
Mae'r pwynt am ymatebwyr cyntaf yn un rydym wedi'i godi gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn y gorffennol mewn perthynas â'u cynllun ar gyfer ymatebwyr cyntaf a defnyddio pobl sydd eisiau bod yn ymatebwyr cyntaf i gynnal eu sgiliau a sicrhau bod hynny'n cael ei gynnwys a'i gynllunio'n rhan o'n system. Rwy'n hapus i ystyried hynny ac ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â ble mae'r gwasanaeth ambiwlans arni mewn perthynas â hynny, oherwydd nid wyf eisiau colli golwg ar y bobl sydd eisiau cyfrannu ac a fyddai'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn mewn amryw o gymunedau ledled y wlad.FootnoteLink