5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:15, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan y ddeiseb nifer o amcanion: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL, cyflwyno BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol, sicrhau gwell mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL, a sicrhau bod mwy o wasanaethau ac adnoddau ar gael drwy gyfrwng BSL ar gyfer pobl ifanc fyddar. Bydd gweddill y cyfraniad hwn yn canolbwyntio ar bob un o amcanion y ddeiseb yn eu tro, er mwyn amlinellu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, y casgliadau y daethom iddynt a'r ymatebion a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Yn gyntaf, mae'r ddeiseb yn galw am fwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL. Mae Deffo! wedi pwysleisio pa mor hollbwysig yw hyn fel y gall rhieni a brodyr a chwiorydd gyfathrebu â phlant byddar a'u cefnogi o fewn eu teuluoedd. Dywedasant wrth y pwyllgor y gall cost fod yn broblem sylweddol, gyda dosbarthiadau BSL sylfaenol ar gyfer oedolion yn costio £300 y person a chyrsiau uwch yn costio hyd at £1,600. Ychydig iawn o gyfleoedd a geir hefyd i deuluoedd ddysgu BSL gyda'i gilydd, gan fod y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau sydd ar gael yn cael eu darparu drwy ganolfannau addysg oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor sawl gwaith mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu'r dosbarthiadau hyn. Fodd bynnag, ymddengys mai diffyg darpariaeth yw canlyniad hyn, oherwydd ei fod yn dod yn ddewis o fewn cyllidebau addysg oedolion lleol. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn dangos, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes unrhyw gyrsiau iaith arwyddion ar gael i rieni a phlant am ddim neu am gost isel.

Nodaf fod y comisiynydd plant hefyd wedi argymell y dylai'r holl deuluoedd sydd â phlant byddar allu cael mynediad at BSL, ac mae'r pwyllgor wedi clywed bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn siomedig nad yw hyn wedi digwydd.

Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod statws presennol BSL, a'r ffaith ei bod yn cael ei hystyried yn ddewis yn hytrach nag angen meddygol, yn golygu mai dyma'r math o ddarpariaeth sy'n tueddu i gael ei golli mewn cyfnodau o bwysau ariannol. Maent wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith leiafrifol, ac y dylai awdurdodau lleol ei hystyried yn iaith gyntaf i lawer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Maent o'r farn y byddai hon yn ffordd o wella a diogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu BSL. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn cytuno. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol fod teuluoedd plant byddar yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng BSL. O ganlyniad, rydym o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy drwy arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar, fel ffordd o ail-fframio'r sgwrs ar beth a olygir wrth ddarpariaeth ddigonol. At hynny, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant byddar a'u teuluoedd. Credwn y byddai hyn yn helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad gennym yn hyn o beth, a''i bod hefyd wedi cydnabod bod aelodau o'r gymuned fyddar yn wynebu nifer o broblemau mewn perthynas â BSL, gan gynnwys prinder dehonglwyr. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth BSL yng Nghymru ac ystyried datblygu siarter genedlaethol o'r math a argymhellir gan y pwyllgor. Byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y gwaith hwn y prynhawn yma, ac yn ei hannog i sicrhau bod y gwaith yn datblygu'n gyflym er mwyn dechrau gwella'r cymorth sydd ar gael ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd.

Gan symud ymlaen, mae'r ail alwad yn y ddeiseb yn galw am gynnwys BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae'r deisebwyr wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor nad oes gan y rhan fwyaf o blant byddar mewn ysgolion prif ffrwd fynediad at BSL yn yr ysgol, ond eu bod yn dysgu Saesneg â chymorth arwyddion yn lle hynny. Nid yw hyn yn trosglwyddo y tu allan i'r ysgol, ac felly mae plant byddar yn dal i orfod dysgu BSL er mwyn cyfathrebu ag aelodau eraill o'r gymuned fyddar. Pe bai BSL yn cael ei chynnwys o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, mae Deffo! yn dadlau y byddai'n helpu dysgwyr eraill i gyfathrebu â phobl fyddar neu drwm eu clyw mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destunau eraill, yn ogystal â gwella eu cyfathrebu'n raddol mewn bywyd bob dydd.

Drwy gydol ein hystyriaeth o'r ddeiseb, mae Deffo! wedi mynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'u profiad o geisio ymgysylltu â'r Llywodraeth ar y mater hwn, ac ynglŷn â'r hyn a ystyriant yn ddiffyg ymgysylltiad â phrosesau megis adolygiad Donaldson. Wedi dweud hynny, yn ystod yr amser hwn, cawsant gyfle i gyfarfod â'r Gweinidog blaenorol ac mae'r pwyllgor wedi croesawu'r ffaith bod BSL wedi'i chynnwys ym maes ieithoedd a chyfathrebu y cwricwlwm newydd.