Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Chwefror 2019.
Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â diffyg cyfeiriad cenedlaethol mewn perthynas â sicrhau bod darpariaeth BSL ar gael yn eang mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad yn awgrymu y bydd hyn yn parhau i fod yn ôl disgresiwn ysgolion unigol ac awdurdodau lleol i raddau helaeth. A siarad yn blwmp ac yn blaen, ar hyn o bryd mae'n anodd gweld bod hyn yn addo unrhyw gam sylweddol ymlaen o ran gwella gallu disgyblion i gael mynediad at BSL drwy'r cwricwlwm. Rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth bellach i sut y gellir annog ysgolion yn benodol i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn yng ngoleuni'r ffaith bod BSL wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu TGAU mewn BSL. Ar ôl i Mike Hedges godi'r mater hwn, ysgrifennodd y Prif Weinidog blaenorol at Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yr ymateb yn awgrymu nad yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod hi'n bosibl datblygu TGAU o'r fath i'w ddefnyddio yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn ystyried datblygu TGAU mewn BSL. Rydym yn deall bod Cymwysterau Cymru yn agored i fabwysiadu unrhyw TGAU a ddatblygir a byddem yn eu hannog hwy a'r Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym er mwyn osgoi sefyllfa lle mae disgyblion byddar yng Nghymru ar ei hôl hi o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr.
Roedd mynediad at staff â chymwysterau priodol hefyd yn peri pryder sylweddol i Deffo! Roeddent yn tynnu sylw at nifer o ystadegau, gan gynnwys y ffaith nad yw disgyblion ond yn cael tair awr o gyswllt gydag athro i rai byddar bob wythnos ar gyfartaledd, llai o lawer na'r targed o 270 awr y flwyddyn, a bod nifer sylweddol o athrawon sydd wedi cymhwyso'n briodol yn mynd i ymddeol yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae Deffo! yn credu bod cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio yn lle llawer o'r rhain. Wrth ymateb, cyfeiriodd Gweinidogion at ddyletswyddau awdurdodau lleol i nodi, asesu a darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Unwaith eto, fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wireddu hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n glir sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu'n ddigonol yn ymarferol.
Yn ein pedwerydd argymhelliad, mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i edrych ar broblemau cynllunio'r gweithlu ac ystyried cynaliadwyedd hirdymor y cymorth ar gyfer disgyblion byddar. Mae ymateb y Gweinidog yn cyfeirio at ddarparu arian ychwanegol ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyfeirio at hyn fel ateb tymor byr i broblem gynyddol, ac rydym yn annog y Llywodraeth i barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru weithlu addysg sydd wedi'i hyfforddi'n briodol mewn perthynas ag anghenion disgyblion byddar.
Elfen olaf y ddeiseb yw galwad am wneud mwy o wasanaethau ac adnoddau yn hygyrch drwy gyfrwng BSL. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor fod llawer o bobl ifanc fyddar yn methu cael mynediad at wasanaethau sydd â'r addasiadau rhesymol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Er enghraifft, nododd tystion mai un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl fyddar a geir drwy Gymru gyfan. Mae Deffo! eisiau i ddefnyddwyr BSL allu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu dewis iaith. Dywedasant wrth y pwyllgor fod methu cael mynediad at wasanaethau o'r fath yn eu digalonni.
Mae Gweinidogion wedi nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer i ddeddfu mewn perthynas â darparu ieithoedd heblaw'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y bydd ein hargymhelliad blaenorol mewn perthynas â datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn os caiff ei datblygu. Gallai fframwaith o'r fath helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a darparu mwy o atebolrwydd lle nad yw darpariaeth o'r fath yn bodloni safonau addas. Unwaith eto, rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gadarn ac ystyrlon.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Deffo! unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb ac i bawb arall sydd wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'r materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon yn niferus ac yn amrywiol, ac maent yn herio pob un ohonom yma i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc byddar Cymru yn gallu cael mynediad at yr addysg a'r gwasanaethau eraill y dylai fod ganddynt hawl iddynt. Rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio, os cânt eu datblygu, y bydd y camau hyn yn arwain at welliannau ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.