Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am arwyddo. [Arwyddo mewn BSL.] Dyna'r drafferth â chael enw hir. [Arwyddo mewn BSL.] Roedd hynny'n dweud: Janet Finch-Saunders ydw i ac rwy'n dysgu BSL. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nhîm a minnau wedi mwynhau'r pleser o ddysgu BSL. Rydym eisoes wedi pasio'r lefel gyntaf ac erbyn hyn rydym yn astudio ar gyfer y nesaf. Y rheswm am hyn yw oherwydd fy mod yn cydnabod y ffaith bod nifer o'r 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru yn dibynnu ar BSL fel iaith gyntaf ac rydym yn credu y dylai'r cymorth rydym yn ei gynnig fod yn fwy hygyrch i'r gymuned fyddar. Drwy fy rôl ar y Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi bod yn hapus iawn i gefnogi'r achos a gyflwynwyd gan Deffo! i wella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn BSL.
Yn dilyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith swyddogol yn 2004, mae'n deg dweud bod y cynnydd wedi bod yn wael. Er bod gennym rai ysgolion arloesi, fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mae cryn dipyn o amwysedd ynglŷn â lle mae'r ysgolion hyn a sut y gall plant eraill mewn ysgolion gael mynediad at hyn. Wrth gwrs, mae'n galonogol gweld bod ysgolion anghenion addysgol arbennig yn cael eu cynnwys yn y grŵp treialu. Fodd bynnag, mae'n peri pryder mawr fod BSL yn cael ei chategoreiddio fel iaith ryngwladol, gyda ieithoedd clasurol a modern eraill. Nid yn unig y mae'n anghywir i ni gategoreiddio BSL fel iaith ryngwladol yn yr achos hwn, mae'n tanseilio pa mor angenrheidiol yw'r addysg hon i'r 2,642 o blant byddar yng Nghymru. Fel y cyfryw, hoffwn weld ysgolion yn gwneud defnydd ehangach o BSL fel iaith sy'n gydradd â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae Cymwysterau Cymru wedi diystyru cyflwyno TGAU mewn BSL ar hyn o bryd, gan ddadlau na fydd BSL yn denu digon o ddisgyblion. Er eu bod yn cyfaddef y gallai'r mater fod yn destun ailasesiad yn dilyn casgliadau'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg a phartneriaid BSL, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd wneud paratoadau pellach i arloesi'r gwaith o gyflwyno TGAU mewn BSL.
Gan roi TGAU i'r naill ochr, o ran adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, mae'n hanfodol bod digon o arian ar gael i sicrhau bod rhieni a pherthnasau agos unigolion byddar yn cael hyfforddiant BSL. A wyddoch chi beth? Mae'n hynod eironig fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud wrthyf am y datganiad newyddion a nodai fod rhieni plant byddar yn wynebu 'loteri cod post', a bod rhieni plentyn pedwar mis oed sy'n fyddar yn gorfod talu £6,000 am wersi iaith arwyddion os ydynt am gyfathrebu â hi.
Mae hynny'n warthus yn yr oes sydd ohoni. Mae anghysondebau o'r fath hefyd yn treiddio i—. O, mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi neidio ymlaen, mae'n ddrwg gennyf. Yn allweddol, rwy'n credu bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r anghysondebau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld yr amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol â fy llygaid fy hun, ac er enghraifft, cydweithredodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau gyda'r gymuned fyddar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dilyn diddymu cymorth ariannol a'r effeithiau negyddol ar y rheini sydd ond yn dymuno cyfathrebu, o ran gwasanaethau cyngor, yn yr unig ffordd y gallant ei wneud.
Mae anghysondebau o'r fath yn treiddio i mewn i addysg hefyd, gan fod data a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2018 yn dangos bod saith o bob 18 ymatebwr yn credu nad oedd gwasanaethau arbenigol anghenion addysgol arbennig yn diwallu'r galw presennol am wasanaethau i rai â nam ar y clyw. Mae hyn yn peri pryder, o ystyried bod gan 3,116 o ddisgyblion yr angen cyfathrebu hwn yng Nghymru. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblemau ac wedi dyrannu £289,000 i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd lleol, rwy'n bryderus nad yw hyn yn ddigonol i sicrhau cysondeb eang ar draws y gwasanaeth, yn enwedig pan nad oes ond un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl ifanc byddar drwy Gymru gyfan. Fel y cyfryw, rwy'n erfyn arnoch i wrando ar argymhellion yr adroddiad hwn ac i ddatblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd, a hynny ar frys, fel bod gennym feincnod cenedlaethol clir a safon y gall pob sefydliad ac awdurdod weithio tuag ati. Rydym yn ffodus. Gallwn gyfathrebu yma yn y ffordd sydd hawsaf i ni ei wneud. Mae'n hen bryd i'r bobl fyddar yn ein cymuned allu gwneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn.