Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 6 Chwefror 2019.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn fyddar iawn ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hefyd, fel llywydd Grŵp Pobl Drwm eu Clyw Abertawe? A chyn i unrhyw un ddweud, 'Pam ddim Iaith Arwyddion Cymru?', mae iaith arwyddion yn ddisgrifiadol. Rydych yn cyfieithu'r arwydd i unrhyw iaith arall rydych yn gyfarwydd â hi. Nid yw'n defnyddio gwyddor, ond mae ganddi arwyddion i ddisgrifio'r hyn y mae rhywun eisiau ei ddweud.
Gan droi at argymhelliad 1:
'Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth.'
I lawer o blant byddar, iaith arwyddion yw eu hiaith gyntaf, honno yw eu hiaith yn y system addysg a'r ffordd y maent yn siarad ac yn dysgu. Dylid trin iaith arwyddion fel iaith gyfartal yn y system addysg, a heb fod yn wahanol i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg yn fater o gydraddoldeb addysgol.
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dweud felly ein bod yn argymell y dylid sicrhau bod cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain ar gael i blant ar bob lefel o addysg. Yn rhan o hyn, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio'r posibilrwydd o greu TGAU mewn iaith arwyddion iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru. Unwaith eto, gobeithiaf y bydd yr argymhelliad hwnnw'n cael ei ddatblygu. Mae'n crynhoi'r hyn sydd ei angen, sef TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, fel y gellir cydnabod hyfedredd ynddi. Dylid ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg fel cymhwyster TGAU. Byddai hyn yn golygu, pan fo swyddi'n galw am radd C neu well mewn Cymraeg neu Saesneg, dylai ddweud 'neu Iaith Arwyddion Prydain' hefyd. Mae hyn yn sicrhau cyfle cyfartal i rai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif gyfrwng cyfathrebu.
Nid y gymuned fyddar yn unig sydd angen Iaith Arwyddion Prydain, ond gweddill y boblogaeth, sydd angen gallu cyfathrebu gydag unigolion byddar. Mae'r ddeiseb yn galw am well mynediad at ddosbarthiadau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer rhieni a brodyr a chwiorydd i'w helpu i gyfathrebu ag aelod byddar o'r teulu. Yn sicr, mae hwn yn gais rhesymol. Rhieni sy'n gallu clywed sydd gan y mwyafrif helaeth o blant sy'n cael eu geni'n fyddar, neu sy'n mynd yn fyddar yn ifanc iawn o ganlyniad i glefydau fel llid yr ymennydd, clwy'r pennau a'r frech goch. Mae plentyn byddar yn sioc i rieni a brodyr a chwiorydd ac maent eisiau dysgu sut i gyfathrebu â'r aelod byddar o'r teulu fel nad ydynt yn cael eu gadael allan.
Trof yn awr at argymhelliad olaf y pwyllgor:
'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gynllunio'r Gweithlu ar gyfer gwasanaethau arbenigol AAA, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o gynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaethau hyn. Fel rhan o hyn, rydym yn cefnogi'r syniad o gyflwyno cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain safonol gofynnol ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc byddar.'
Mae hyn yn hynod bwysig, oherwydd os yw pobl yn gweithio gyda phlant byddar, mae'n rhaid iddynt gael o leiaf yr un lefel o iaith â'r plant y maent yn gweithio gyda hwy. Mae pa bynnag gymwysterau a chymorth rydym yn dweud y dylid eu darparu yn ddiystyr os nad oes gennym bobl gymwys i addysgu a chefnogi dysgwyr. Gallwn basio a chytuno ar bob math o bethau yma mewn perthynas â phwysigrwydd y cymorth hwn, ond os nad oes bod gennym bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy'n gallu darparu'r cymorth, nid yw'n mynd i ddigwydd.
Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bobl ifanc fyddar mewn Iaith Arwyddion Prydain. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor nad yw llawer o bobl ifanc fyddar yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfeiriasant at arolwg a oedd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl fyddar yn ei chael yn anodd cael mynediad at ofal iechyd megis meddygfeydd meddygon teulu. Mae meddygfeydd sydd ond yn trefnu apwyntiadau dros y ffôn, neu sydd eisiau i gleifion ffonio ac yna'n eu ffonio'n ôl, yn achosi problemau enfawr i bobl fyddar nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Rwyf wedi siarad â phobl fyddar sydd wedi mynd i'r feddygfa ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ffonio. Maent yn dweud, 'Wel, ni allaf glywed', a'r ateb yw, 'Wel, dyna'r ffordd rydym yn gweithio.' Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd ddangos cefnogaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd sylweddoli bod pobl fyddar yn bodoli ac nad yw dweud wrth bawb, 'Ffoniwch, ac fe wnawn eich ffonio'n ôl', yn gweithio i bobl nad ydynt yn gallu clywed.
Mae angen gwneud llawer i helpu'r gymuned fyddar. Byddai derbyn yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor Deisebau a'u rhoi ar waith yn fan cychwyn da. Yn sicr, ni fyddai'n ddiwedd ar y mater, oherwydd mae'r gymuned fyddar yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin yn deg dros nifer o flynyddoedd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod hynny, Ddirprwy Lywydd. Ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn dechrau camu i'r cyfeiriad hwnnw yn awr.