5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:39, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am eu hymdrechion i dynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gwneud digon a sut y gallwn wella bywydau pobl fyddar, yn enwedig plant a phobl ifanc.

Mae yna lawer o ddeddfau ac egwyddorion cydnabyddedig sy'n ymddangos yn ddi-gwestiwn bellach, ond ni fyddent yn bodoli heb bobl fel Catherine Robins-Talbot a Deffo!, sy'n ymgyrchu'n galed i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi cael eu clywed ers blynyddoedd yn cael llais na fydd yn cael ei anwybyddu. Daw'r gymdeithas i wybod am ran o'u cymuned nad oeddent yn gwybod amdani o'r blaen a gwneuthurwyr polisi yn newid o fod yn ddifater i fod wedi’u hargyhoeddi.

Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Gwn fod adnoddau'n gyfyngedig, ond mae'n ymwneud â blaenoriaethau a lle mae pobl fyddar ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel yr unig bobl yma a all gweithredu ar hyn.

Aeth bron i ddwy flynedd heibio ers y tro cyntaf i AS yn San Steffan ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan ddefnyddio BSL, mewn ymdrech i gynnwys BSL ar y cwricwlwm cenedlaethol yn Lloegr. Aeth 16 mlynedd heibio bellach ers i BSL gael ei chydnabod fel iaith. Ceir dros 150,000 o ddefnyddwyr BSL yn y DU—ac mae mwy na 87,000 ohonynt yn fyddar. Felly, y cwestiwn i mi yw pam nad yw BSL eisoes ar y cwricwlwm yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Pe bai'r deisebwyr yn teimlo bod y ddarpariaeth ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru yn foddhaol, ni fyddent wedi mynd i'r drafferth o gyflwyno deiseb i'r Cynulliad ac argymell atebion.

Ym mharagraff 20 yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, rwy'n nodi bod y Llywodraeth yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw cefnogi teuluoedd pan fo plentyn yn fyddar neu'n drwm ei glyw. Ond mae'n rhaid i mi gwestiynu cysondeb Llywodraeth sy'n datgan ei hawydd yn gyson i gefnogi'r rheini sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n gweithredu ar hynny, ond nid y rheini nad oes ganddynt ddewis ond cyfathrebu drwy gyfrwng BSL.

Mae ein traddodiad o fod yn gymuned a chymdeithas glos sy'n brwydro yn erbyn helbulon ac annhegwch yn ein gwneud yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, a dylai sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i roi o'u gorau i Gymru, a sicrhau bod Cymru yn rhoi o'i gorau iddynt hwy fod yn rhan yr un mor bwysig o'r profiad o fod yn Gymry ag unrhyw agwedd arall ar ein diwylliant Cymreig balch. 

Pa reswm yn y byd na ddylai fod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, fel bod ein holl bobl ifanc yn gwybod bod BSL yn bodoli ac yn cael cyfle i'w hastudio fel opsiwn TGAU iaith, a fydd yn ôl pob tebyg yn cynnig mwy o bethau cadarnhaol i'n cymdeithas a'n cymunedau na rhai opsiynau iaith eraill? Ni ddylid ystyried byddardod a dibyniaeth ar BSL fel angen dysgu ychwanegol. Nid oes gan ddefnyddwyr BSL anhawster dysgu. Yr unig anhawster y maent yn ei wynebu yw'r ffaith nad oes digon o'r boblogaeth sy'n gallu clywed yn deall yr iaith y maent yn ei siarad a'n bai ni yw hynny nid eu bai hwy. Nid hwy ddylai orfod wynebu canlyniadau negyddol cymdeithas sy'n dewis peidio ag ymwneud â hwy i bob pwrpas, a bydd methiant i gefnogi'r argymhellion yn llawn yn gyfystyr â dweud, 'Rydych ar eich pen eich hun. Gobeithiwn fod gennych rieni cyfoethog sy'n gallu fforddio'r cymorth ychwanegol rydych ei angen, oherwydd ni chewch fawr ddim os o gwbl gennym ni.' 

Rydym wedi gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio ar gyfer ardaloedd chwarae cynhwysol, lle gall plant ag anableddau corfforol chwarae ochr yn ochr â phlant heb anableddau corfforol, a rhan o'r cyfiawnhad dros ariannu'r rheini oedd y bydd yn codi ymwybyddiaeth o anabledd ac na ddylai fod yn broblem yn y Gymru fodern. Yn sicr, gellir cyflawni'r un peth ar gyfer plant byddar, pe bai BSL yn cael ei chyflwyno i bob plentyn yn yr ysgol. Faint o blant byddar sy'n osgoi defnyddio mannau chwarae oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu pan fydd plentyn chwareus arall yn ceisio siarad â hwy? Faint yn fwy o blant byddar a fyddai'n cael cyfarfod a chwarae â phlant sy'n gallu clywed, ac ehangu eu cylch o ffrindiau, pe bai BSL sylfaenol iawn hyd yn oed ar y cwricwlwm cenedlaethol? Pwy all ddychmygu'r canlyniadau cadarnhaol y byddai hynny'n eu rhoi i blant byddar yn ddiweddarach mewn bywyd? 

Mae llawer o bolisïau a deddfau wedi'u creu i sefydlu hawliau cyfartal i nifer o grwpiau eraill, ond ymddengys nad oes gennym yr un hawliau cyfartal ar gyfer pobl fyddar. Mae'r bobl ifanc hyn ein hangen ni, ac rydym ni angen eu doniau hwy, doniau na wnaed defnydd teg ohonynt ers gormod o amser. Byddai Cymru'n elwa, a byddai pobl fyddar yn elwa pe baem yn agor ein llygaid i weld yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Dyna pam fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn newid ei hymateb ac yn derbyn argymhelliad 3 yn ddiamwys ac yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yn ddi-oed. Diolch.