Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Chwefror 2019.
Mae Iaith Arwyddo Prydain yn iaith bwysig, sydd ddim yn cael ei chydnabod yn ddigonol. Ar hyn o bryd, does dim darpariaeth na hawliau digonol i gefnogi pobl fyddar ar unrhyw gam o’u taith drwy fywyd, gan ddechrau yn y blynyddoedd cyntaf.
Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy’n clywed. Felly, mae rhieni newydd yn aml heb brofiad o fyddardod, ac yn gorfod dysgu sut i gyfathrebu a chefnogi anghenion penodol eu plentyn o’r newydd. Mae'n syfrdanol nad oes darpariaeth o wersi am ddim ar gael, ac felly'n aml mae'n her i deuluoedd sicrhau cyfleoedd i helpu eu plant. Ac mae'n wir dweud bod hyn yn ffurf ar amddifadedd iaith. Ni ddylai unrhyw blentyn beidio â chael hawl i’w iaith. Mae’n anochel y bydd datblygiad cynharaf plentyn yn cael ei effeithio gan wacter cyfathrebu, efo diffyg gallu cyfathrebu yn arwain at deimladau o fod yn ynysig, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd emosiynol a meddyliol unigolyn, ac o bosib cyfleoedd bywyd ehangach.
Dydy pethau ddim yn gwella pan â plentyn byddar i’r ysgol. Mae Deffo! yn dweud, ar gyfartaledd, fod plant byddar sy'n cael eu haddysg yn y brif ffrwd yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn 16 oed ag oed darllen o naw mlwydd oed. Yn aml, mae llefaredd a sgiliau darllen gwefus yn wael. Hefyd, mae bwlch cyrhaeddiad cyson wedi bodoli yng nghyrhaeddiad plant byddar o'u cymharu â phlant sy’n siarad, sydd ar ei fwyaf eang yn ystod y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. Ac mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae'r dysgwyr byddar yn eu hwynebu yn amlach na pheidio. Mae hyn yn destun pryder i'r comisiynydd plant, sydd wedi mynegi bod diffyg ymrwymiad i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr byddar a’u cyfoedion sy’n clywed yn fater sydd angen sylw gan y Llywodraeth a chan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc sydd yn fyddar, gan gynnwys cyfleoedd dysgu BSL hygyrch a fforddiadwy, ar ystod o lefelau.
Ac mae'r diffyg ffocws yma i gael ei weld hefyd o edrych ar awdurdodau lleol, efo dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i siartr BSL Prydeinig gan y British Deaf Association. Felly, mae’n bryd hoelio’r ffocws ar ddatblygu siartr cenedlaethol ein hunain ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau cyson i blant byddar a’u teuluoedd.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn datblygiad plant byddar a’u teuluoedd drwy’r holl siwrnai addysg, a gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth briodol ar gael achos mae’r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Ar hyn o bryd, mae gormod o blant byddar sydd yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf yn cael eu cefnogi yn yr ysgol gan staff sydd â lefel rhy syml o arwyddo. Ac mae angen meddwl o ddifrif ynglŷn ag ysgogi athrawon i ennill cymwysterau BSL ar y lefelau priodol.
Ac i droi, felly, at y cwricwlwm newydd, mae yna gyfle fan hyn i annog llawer mwy o ddefnydd o BSL yn yr ysgolion. Ac fel dŷn ni'n ei wybod, dydy BSL ddim ar gyfer plant byddar yn unig, ac fe allai dysgu BSL yn yr ysgol roi cyfle ychwanegol i blant, ar draws, i ddysgu iaith arall.
Wedi ystyried yr holl dystiolaeth, a'r ystadegau, mae’n glir bod gwaith angen ei wneud gennym ni fel gwleidyddion i godi statws pwysigrwydd adnoddau a gwasanaethau BSL, fel bod y gefnogaeth briodol ar gael ar bob lefel, o fabandod hyd at fywyd fel oedolion. Ac mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru hefyd i ateb gofynion y ddeiseb. Diolch.