Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno ac yn deall y pwynt hwnnw, ond pe bai Llywodraeth y DU yn barod i fuddsoddi yn Tata, er enghraifft, mae'n bosibl edrych ar sut y gallwn ailgylchu'r nwyon gwastraff. Gallai ddod yn hunangynhaliol, felly nid yw'n dibynnu ar brisiau olew na nwy o'r tu allan oherwydd gall wneud hynny ei hun.