– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 6 Chwefror 2019.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y diwydiant dur, a galwaf ar David Rees i wneud y cynnig. David.
Cynnig NDM6950 David Rees, John Griffiths, Bethan Sayed, Russell George, Suzy Davies, Jayne Bryant, Huw Irranca-Davies, Caroline Jones
Cefnogwyd gan Alun Davies, Dawn Bowden, Jack Sargeant, Mike Hedges, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Fel y gŵyr yr Aelodau, y gwaith dur ym Mhort Talbot yw curiad calon fy etholaeth i, fy nhref enedigol, ac mae'r ffwrneisi chwyth yn anadlu'r tân a ddaw o'r ddraig Gymreig hon. I fod yn onest, ni allaf ddychmygu nenlinell Port Talbot heb y ffwrneisi chwyth hynny'n rhan ohoni. Dyna yw hi wedi bod erioed i mi. Felly, mae dur yn rhan o fy DNA ac yn agos iawn at fy nghalon.
Ddirprwy Lywydd, mae'n teimlo fel ddoe pan oeddem yn trafod dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yma yn y Siambr—ac rwy'n cofio, yn y Siambr yn Nhŷ Hywel, pan gawsom ein galw yn ôl—ond mae bron i dair blynedd er pan oedd y diwydiant yn y sefyllfa enbyd honno. Roedd Tata ar werth, yn ystyried cau gweithfeydd Port Talbot, ac roedd y marchnadoedd byd-eang yn taro cynhyrchwyr dur—pob un ohonynt—yn galed. A heddiw, rwy'n falch o ddweud bod y diwydiant mewn sefyllfa well. Rhaid canmol camau gweithredu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y pwynt hwn. Hefyd, gwelsom Tata yn buddsoddi yn eu gweithfeydd, gan gynnwys Port Talbot. Heddiw ddiwethaf cawsom gyhoeddiad gan y cyngor lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot ynglŷn â chymeradwyo cynlluniau i leihau allyriadau llwch yn y ffatri. Mwy o fuddsoddi yn y gwaith ym Mhort Talbot. Ond mae hefyd yn edrych ar wella sgiliau ac adeiladu'r gweithlu yn ogystal, gan gynnwys rhaglen brentisiaethau fywiog yn y gwaith hwnnw—arwydd clir fod gan Tata hyder yn nyfodol ein gwaith dur. Mae'r diwydiant dur yng Nghymru, nid yn unig ym Mhort Talbot, yn rhan hanfodol o economi Cymru, a rhaid inni ei warchod.
Fodd bynnag, er ein bod wedi gobeithio bod dyfodol dur yn ddiogel yn dilyn gweithredoedd y sector a Llywodraeth Cymru, rydym bellach yn wynebu adegau mwy heriol. Mae'r costau ynni uchel yn parhau i greu heriau economaidd anodd o fewn y diwydiant, ac yn awr mae ansicrwydd Brexit yn gwneud yr heriau hynny'n fwy ac yn ddyfnach. Mae'n hollbwysig i bob plaid weithio gyda'i gilydd ar yr adeg hon i sicrhau dyfodol y diwydiant dur wrth iddo wynebu cyfnod ansicr unwaith eto, a sicrhau ein bod yn diogelu economïau lleol Port Talbot, Llanelli, Caerdydd, Casnewydd a Shotton, heb sôn am ddiogelu ein nenlinellau diwydiannol.
Yn ystod y cyfnod anodd diweddar sydd wedi wynebu ein cymunedau dur, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi canolbwyntio ar sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru, un sy'n targedu cadw cynhyrchiant dur a swyddi dur. Maent wedi buddsoddi ym mhob un o'r tri phrif gynhyrchwr dur, wedi darparu cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu, wedi rhoi ymrwymiad i ddatgarboneiddio, ac wedi parhau i roi cymorth i weithwyr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos na fydd yn cefnu ar y diwydiant dur yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru ddatrys yr heriau i'r sector gan Brexit a chostau ynni uchel. Mae'n bryd bellach i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad i gynhyrchwyr dur a'u gweithwyr. Maent eisiau sicrwydd na chaiff y diwydiant dur ei anghofio yn ystod Brexit ac y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn gwireddu ei haddewidion ynglŷn â mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng costau ynni yn y DU ac yn yr UE. Dyma'r meysydd y byddaf yn canolbwyntio arnynt heddiw, ond rwy'n siŵr y bydd mwy. Fel arall, fe fyddaf yma drwy'r prynhawn. Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny, Ddirprwy Lywydd.
Gwta bythefnos yn ôl, mynychodd cynhyrchwyr dur a chynrychiolwyr undebau llafur gyfarfod y grŵp dur trawsbleidiol yma yn y Cynulliad a gadeirir gennyf. Yn y cyfarfod hwnnw, clywsom dystiolaeth ddamniol gan y sector am yr anfanteision y maent yn eu hwynebu bob dydd mewn perthynas â chostau ynni. Gwaethygwyd hyn ymhellach yr wythnos hon gan adroddiad blynyddol UK Steel ar gostau ynni yma yn y DU o gymharu â Ffrainc a'r Almaen. Yn 2017, ymrwymodd maniffesto'r Torïaid Lywodraeth San Steffan i geisio darparu'r costau ynni isaf yn Ewrop ar gyfer defnyddwyr domestig a diwydiannol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r diwydiant yn dal i aros. Yn 2018, rhyddhaodd yr un Lywodraeth Dorïaidd ei strategaeth ddiwydiannol, a oedd unwaith eto'n addo gwneud y DU yn lle gorau ar gyfer dechrau a thyfu busnes, ac eto is-destun yn y ddogfen honno oedd dur.
Cafwyd peth gweithredu ers hynny o ran effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw wella a wneir ar effeithlonrwydd ynni yn gwneud iawn am orfod talu 50 i 100 y cant yn fwy am eich trydan na'ch cystadleuwyr. Yn ein grŵp trawsbleidiol, dywedwyd wrthym fod costau ynni yn y DU 110 y cant yn uwch na Ffrainc a 55 y cant yn uwch na'r Almaen. Ceir pryderon fod hyn yn mynd i waethygu yn hytrach na gwella. Roedd angen cymorth o £65 y MWh i gau'r bwlch sydd yno heddiw, heb sôn am beth allai ddigwydd yn y dyfodol.
Rydym wedi dadlau ers blynyddoedd lawer mai'r cyfan y mae ein gweithwyr dur yn gofyn amdano yw chwarae teg, er mwyn eu gwneud yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang. Yn fy marn i, ein gweithwyr dur yw'r gorau yn y byd, ac mae eu hymrwymiad i'r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos y gallant chwarae eu rhan. Ond maent angen i Lywodraeth y DU wneud eu rhan yn awr. Maent am i Lywodraeth y DU ymateb i adroddiad UK Steel ar gostau ynni. Mae hwnnw'n amlinellu naw mesur i Lywodraeth y DU eu gweithredu ar unwaith er mwyn rhoi cyfle teg i'r diwydiant mewn economi fyd-eang sy'n newid.
Er mwyn rhoi cymhelliant i Lywodraeth y DU weithredu, gwnaeth pum cwmni dur mwyaf y DU ymrwymiad pendant ac uniongyrchol y byddai'r holl arbedion ar gostau trydan yn cael eu buddsoddi'n ôl yn y diwydiant yn y DU, gan wneud y gost yr un fath â'r Almaen, a sicrhau £55 miliwn o fuddsoddiad y flwyddyn y tu hwnt i fusnes fel arfer. Dyna gynnydd o 30 y cant. Gyda'r ymrwymiad hwn gan y sector dur, i mi, mae'n gwbl amlwg y dylai Llywodraeth y DU ddangos yr un ymrwymiad. Byddai cyllid o'r fath yn darparu cyllid ymchwil a datblygu hanfodol ar gyfer y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig gan y byddwn yn gweld colli tua £40 miliwn y flwyddyn o'r grant ymchwil glo a dur a weinyddir gan yr UE, a fydd, fel y soniais yr wythnos diwethaf, yn cael ei ad-dalu i Drysorlys Llywodraeth y DU. Talwyd yr arian hwn i'r UE gan y diwydiant dur a glo ac mae'n arian y mae ganddynt hawl iddo a dylent gael mynediad llawn ato, ac eto mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod clustnodi hwn ar gyfer y diwydiannau hynny. Mae ymchwil a datblygu'n hanfodol wrth inni symud ymlaen i sicrhau ein bod yn aros ar y blaen i gystadleuwyr byd-eang. Yn y DU, rydym wedi gweld cynlluniau ymchwil a datblygu gwych yn mynd rhagddynt, yn enwedig yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau am sôn am beth o hynny, yn enwedig gan ei fod yn fy etholaeth. Nawr, rwy'n ystyried hyn yn gwbl warthus. Rwyf am barhau i ymladd ochr yn ochr â'r diwydiant i sicrhau bod yr arian hwn—arian a ddaw o'r diwydiant ei hun—yn mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant. Dyna lle mae'n perthyn, dyna lle y dylai aros ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae'n fy arwain at y gair B. Roeddwn wedi gobeithio ei osgoi yr wythnos hon, ond dyna ni.
Ddydd Llun, cyhoeddodd UK Steel ei adroddiad, 'Implications of a No-Deal Brexit for UK Steel Companies'—ofnau gwirioneddol ynglŷn â Brexit 'dim bargen'. Ac rwy'n derbyn nad ydym yno eto, ond mae'n edrych yn fwy tebygol. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd saith maes allweddol a gâi eu heffeithio i raddau amrywiol o ganlyniad i Brexit: symud nwyddau, tariffau UE, cytundebau masnach rydd a thariffau y tu allan i'r UE, rheolau tarddiad—ac rydym yn anghofio am y rheini weithiau—rhwymedïau masnach, mesurau diogelwch ac ymchwil a datblygu. Nid wyf yn mynd i drafod pob un o'r rheini yn y cyfraniad hwn, ond fe ganolbwyntiaf ar dri, sef y rhai mwyaf amlwg: symud nwyddau, rheolau tarddiad a mesurau diogelwch. A byddant yn effeithio'n uniongyrchol ar y diwydiant dur yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot, oherwydd aiff 30 y cant o ddur Port Talbot i'r diwydiant modurol, ac mae 80 y cant o hwnnw wedi'i leoli yn y DU, sy'n swnio'n gadarnhaol—mae yma yn y DU, felly nid oes raid inni boeni amdano—ond pan ystyriwch fod y ceir hynny'n cael eu hallforio i'r UE, ac y bydd tariffau ar y ceir hynny, gallwch weld yr effaith. Gwelsom benderfyniad Nissan y penwythnos hwn i leihau neu gael gwared ar gynhyrchiant X-Trail yma, a gallai Nissan fod yn gleient posibl i Tata. Gwn eu bod yn gwneud y Juke, ond yma mae gennym sefyllfa lle rydym eto'n gweld y diwydiant modurol yn symud o'r DU.
Nawr, mae goblygiadau hynny i ddur Cymru sy'n cael ei werthu ar y farchnad fyd-eang yn fawr, oherwydd rydym am weld mwy o ddur Cymru ar y farchnad fyd-eang o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n mynd i fod yn heriol. Nawr, bydd tariffau'r UE ar y dur a allforir os na chawn gytundeb, ac amcangyfrifir y bydd y tariff rhwng 4 a 5 y cant. Ar hyn o bryd rydym yn allforio 2.6 miliwn tunnell i'r UE, a bydd Twrci am fachu peth o'r farchnad honno. Rydym yn allforio 300,000 tunnell o ddur iddynt, a gallent osod 15 y cant yn fwy o dariffau ar ben hynny. Felly, os oes cytundeb, ni fydd unrhyw risg. Os nad oes cytundeb, rydym yn wynebu trafferthion difrifol, a byddwn hefyd yn wynebu tariffau'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill, a hyd yn oed yn wynebu tariffau'r UE, oherwydd ni fydd gennym unrhyw amddiffyniad mwyach. Mae'r rhain yn bosibiliadau gwirioneddol drychinebus.
Byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at gydrannau UK Steel neu gydrannau wedi'u cynhyrchu yn y DU—oherwydd peidiwch ag anghofio, mae dur yn mynd i mewn i gydrannau ac agweddau eraill, a daw rheolau tarddiad i mewn—. Felly, bydd gweithgynhyrchwyr yr UE yn edrych ar faint yn union o ddur sydd yn eu cydrannau, oherwydd lle bydd y rheolau tarddiad yn weithredol, a fydd yn rhaid iddynt gynyddu dur o'r UE ar draul dur o'r DU? Gallech ddweud bod gan Tata leoedd yn y ddau, ond rydym yn edrych ar y diwydiant yma yng Nghymru, a bydd yn effeithio ar y diwydiant yma yng Nghymru. Nawr, gwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu atgynhyrchu cytundebau masnach rydd yr UE sy'n bodoli eisoes, ac o ganlyniad, mae 50 y cant o gar a gynhyrchir yn y DU wedi'i wneud o ddur y DU. Bydd tariff arno, a rhaid inni edrych ar hynny'n ofalus iawn.
Ddirprwy Lywydd, mae angen inni amddiffyn mesurau diogelwch, ynghyd â thariffau amrywiol. Rwy'n pryderu ychydig am y Bil Masnach a'r rhwymedïau masnach yn hwnnw, oherwydd mae 97 y cant o'n hallforion presennol yn mynd allan o dan gytundebau masnach rydd yr UE ac os nad oes gennym amddiffyniad o ran hynny, byddwn yn wynebu heriau gwirioneddol. I gloi fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, mae dur y DU ar ymyl y dibyn unwaith yn rhagor, mae arnaf ofn. Rwy'n falch fod hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod yn rhagweithiol, ond rwy'n poeni bod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â'n diwydiant. I mi, mae'n bryd iddynt sefyll a gweithredu i achub ein diwydiant dur. Ni wnaethant hynny y tro diwethaf, ac mae'n bryd iddynt wneud hynny yn awr. Dyna mae ein gweithwyr dur gwych ei eisiau, dyna mae ein cynhyrchwyr ei eisiau, a dyna mae ein cymunedau lleol yn ei haeddu.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod gennym y gweithwyr dur gorau yn y byd yma, ac maent yn haeddu'r sylw rydym yn ei roi iddynt yn awr? Oherwydd rydym yn sôn am ddiwydiant sylfaenol i economi'r DU, yn enwedig yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, ac er ein bod bellach yn cydnabod efallai y peryglon sy'n deillio o gymunedau cyfan yn dibynnu ar un diwydiant, megis mewn lleoedd fel Port Talbot, nid yw ystyried colli cynhyrchiant fel difrod ystlysol mewn byd sy'n newid yn opsiwn o gwbl.
I mi, credaf mai'r risgiau o ddympio dur a methu rheoli costau y gellir eu rheoli yw'r peryglon mwyaf eglur a phosibl, ynghyd â'r syrthni neu'r rhwystrau a allai effeithio ar y cyfle i Gymru naddu lle iddi ei hun yn y byd arloesi sy'n symud yn gyflym. Dyna agwedd ar Brexit y credaf y byddai'n gamgymeriad ei anwybyddu ar adeg pan fo'r brif stori'n ymwneud â thariffau. Fel y soniodd David, mae effaith dosbarthiad gwlad tarddiad ar gyfer dur a chynnyrch yn ben tost ôl-Brexit enfawr ac mae angen inni gael iachâd ar ei gyfer cyn iddo heintio gweddill yr economi. Ac er y gallai gweithwyr fod wedi gweld diffyndollaeth yr Unol Daleithiau yn fwy o fygythiad i gynhyrchiant yn ffatri Ford yn fy ardal na Brexit ar y cychwyn, gyda diwydiant dur y DU mor ddibynnol bellach ar ddiwydiant modurol ffyniannus, a all ymladd brwydr ar ddau ffrynt mewn gwirionedd? Credaf fod papur briffio UK Steel, a oedd yn dangos peth dewrder heddiw, yn eithaf clir pam fod Brexit 'dim bargen' yn newyddion drwg i ddur.
Oherwydd nid yw Llywodraeth y DU—wyddoch chi, nid hi sy'n gyfrifol am y ffaith bod Tsieina'n gallu cynhyrchu dur am bris sy'n is nag unman ar y blaned, buaswn yn dychmygu. Felly, rwy'n falch nad yw'r ddadl hon wedi'i fframio mewn ffordd sy'n dweud yn syml, 'Gadewch inni feio Llywodraeth y DU'. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig, ar wahân i ddisgwyl cytundeb ymadael, cytundeb ar hynny, yn disgwyl i gytundebau masnach atal cystadleuaeth annheg hefyd ac unrhyw ddympio dur yma. Oherwydd Cymru, fel y clywsom, sy'n cynhyrchu dros hanner y dur yn y DU, a chymunedau Cymru, felly, sy'n fwyaf agored i niwed.
Y gost arall y gellir ei rheoli, wrth gwrs, yw ynni, a chrybwyllodd David Rees honno hefyd. Ond mae yna gwestiwn difrifol yma ynglŷn â sut i flaenoriaethu. Rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi croesawu cyfyngiad diweddar Llywodraeth y DU ar daliadau ynni domestig—rhaid dweud wrth y defnyddwyr yn awr lle y gallant ddod o hyd i'r bargeinion rhataf—a digwyddodd hynny fwy neu lai ar yr un pryd ag yr oedd pob un ohonom yn y Siambr hon yn codi i ddweud, 'Gadewch inni gael morlyn llanw Bae Abertawe', ac rwy'n dal i gredu bod hwnnw'n syniad gwych, ond er gwaethaf ei fanteision niferus, nid oedd yn cynhyrchu trydan rhad. Mae'r un pwyntiau yn hofran dros Wylfa, a Hinkley Point ar y pryd wrth gwrs. Rydym yn gofyn yn awr am drydan rhatach ar gyfer diwydiant trwm; mae gwir angen hynny arno, ond heb unrhyw reolaeth dros brisiau olew, sy'n effeithio ar brisiau tanwydd, sut y gallwn helpu Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.]—gadewch i mi orffen hyn—i flaenoriaethu'r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ar ei bolisi ynni?
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno ac yn deall y pwynt hwnnw, ond pe bai Llywodraeth y DU yn barod i fuddsoddi yn Tata, er enghraifft, mae'n bosibl edrych ar sut y gallwn ailgylchu'r nwyon gwastraff. Gallai ddod yn hunangynhaliol, felly nid yw'n dibynnu ar brisiau olew na nwy o'r tu allan oherwydd gall wneud hynny ei hun.
Rydych wedi rhagweld yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, David. Oherwydd, yn y cyfamser, bydd y sector yn dymuno gwybod beth y gall yr holl weithredwyr yn y gofod hwn ei wneud i oresgyn y ffaith eu bod yn talu ddwywaith cymaint am eu trydan ag y mae gwneuthurwyr dur Ffrengig. Felly, mae'n galonogol iawn mewn gwirionedd fod Tata yn arwain ar hyn—maent eisoes wedi mynd gryn bellter i ailgylchu ynni o fewn y safle ei hun, ac wrth gwrs, os yw Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU yn wir, yn aros gyda'r rhaglen, bydd arian yn mynd tuag at sicrhau bod yr orsaf bŵer yn cael ei chwblhau ac yn cyfrannu at gynhyrchiant ynni sy'n llawer rhatach, ac yn fwy cynaliadwy wrth gwrs.
Yn bersonol, hoffwn weld ychydig mwy o gynnydd ar gytundebau sector dur y DU—wyddoch chi, cafodd ei gyflwyno fel rhywbeth pwysig o'r diwedd. Ond rwyf am ddod yn ôl at y cyfle hanfodol a mwy optimistaidd efallai i Gymru gael ei gweld fel canolfan ymchwil a datblygu, rhagoriaeth ac arloesedd yn y diwydiant dur. Gallwn edrych ar wlad fach fel Israel, nad yw fawr mwy o ran poblogaeth na ni, ac mae hi ar y blaen ym mhob maes arloesi ar draws nifer o sectorau er ei bod yn wynebu her ddyfnach o ran hunaniaeth a diogelwch nag y mae Brexit yn ei chreu i ni.
Er fy mod yn rhannu pryderon David Rees am gronfa ymchwil yr UE ar gyfer glo a dur, rwy'n cytuno â chi mewn gwirionedd—am ei fod wedi'i godi o'r sector hwnnw, dylid ei ddychwelyd i'r sector hwnnw. Ond rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer hynny. Dyma lle rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu, a'r sector yng Nghymru ei hun. Mae gennym gronfa ynni diwydiannol y DU, cronfa her weddnewidiol newydd y diwydiannau sylfaenol gwerth £66 miliwn sydd ar fin cael ei chyhoeddi, a hoffem pe bai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar yr holl gyfleoedd hynny i wthio ei hagenda datgarboneiddio ei hun yn ogystal â helpu'r diwydiant dur yn uniongyrchol.
Ac er bod y Llywodraeth yn llusgo'i thraed o bosibl mewn perthynas ag argymhellion adolygiad Reid a fyddai'n helpu i godi ein statws fel cenedl ymchwil o ansawdd, rydym eisoes yn gwybod bod y fargen ddinesig wedi ymrwymo i ganolfan arloesi dur genedlaethol, gan adeiladu ar lwyddiant sefydliad dur a metelau Prifysgol Abertawe. Ac er fy mod yn derbyn, Weinidog, na allwch ildio'n ddi-gwestiwn ar bethau fel hyn, ni allwch adael i ffrygydau bach dros dir ddal cynnydd mawr yn ôl. Rydym yn edrych ar ddarlun mawr sy'n wynebu heriau mawr. Credaf y gallech sgorio rhai pwyntiau drwy fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau llai a allai fod yn bygwth cynaliadwyedd dur yma yng Nghymru. Diolch i chi.
Diolch, David Rees, am gyflwyno'r cynnig. Siaradaf ar ran Bethan Sayed, sy'n un o gyflwynwyr y cynnig, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi.
A bu ein hymrwymiad i'r diwydiant dur yn ddigon clir, rwy'n credu, nid yn lleiaf drwy'r ffaith bod elfennau o'r cymorth a ddarparwyd i Tata Steel gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd drwy gydweithrediad rhwng ein dwy blaid. Rydym wedi bod yn glir, rwy'n credu, cyn, yn ystod ac ers yr argyfwng yn Tata Steel yn 2016 fod sicrhau dyfodol y diwydiant yn hanfodol, yn allweddol, os ydym am i Gymru barhau i fod yn ganolfan weithgynhyrchu a diwydiant. Ac aeth Bethan Sayed mor bell â dweud nad oedd hi eisiau byw mewn Cymru nad oedd yn meddu ar gynhyrchiant dur gan mor ganolog yw'r diwydiant i'n gorffennol a'n dyfodol economaidd. Mae pob cenedl lwyddiannus yn economaidd angen sector diwydiannol er mwyn iddi allu ffynnu.
Felly, rydym wedi bod yn awyddus i roi pwysau ar, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddur, oherwydd er y byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd o bosibl, fe wyddom, os gallwn gydweithredu, fod yna feysydd y dylem wneud hynny ynddynt er budd pobl y wlad hon. Mae cydweithredu â'r Llywodraeth ar hyn a dull trawsbleidiol o weithredu wedi golygu bod cyllid allweddol ar gael, megis y £30 miliwn i gefnogi gorsaf bŵer wedi'i huwchraddio ar gyfer Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn gwella cynhyrchiant, gostwng allyriadau, helpu i reoli costau ynni, sy'n faich ariannol mawr ar y gwaith dur, fel y clywsom eisoes. A gyda llaw, rwy'n ailddatgan cefnogaeth hirsefydlog Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y credwn y gallai helpu pethau ymhellach, ond rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur wedi parhau i'w wrthwynebu hyd yma.
Ond er cymaint yr ydym yn croesawu byrdwn y cynnig hwn, efallai nad yw'n adlewyrchu'n union pa mor agored i niwed yw ein sector dur a'n sector diwydiannol ehangach. Ond yn sicr, wrth gyflwyno'r cynnig heddiw, mae Dai Rees wedi mynegi pryderon rydym ninnau hefyd yn eu rhannu yma. Credaf ein bod y tu hwnt i ymddiheuro am ddefnyddio'r gair B erbyn hyn—daw i mewn i bopeth a wnawn. Rydym yn nesáu tuag at adael yr UE. Rydym yn syrthio tuag at adael heb fod cytundeb yn ei le, nac unrhyw fath o amddiffyniad na chytundeb tollau neu fynediad at y farchnad. Mae gweinyddiaeth Trump, os ydym eisiau edrych ar beth sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, yn parhau ei defnydd niweidiol a chibddall o dariffau i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn enwedig ar nwyddau fel dur. A chyn bo hir, bydd y DU mewn amgylchedd economaidd byd-eang sy'n fwyfwy bregus heb ein partneriaid Ewropeaidd i sefyll ochr yn ochr â ni. Felly, credaf fod sylfeini cadarn a chael sylfeini cadarn ar gyfer ein diwydiant dur yn bwysicach nag erioed erbyn hyn.
Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ynddi yn 2016. Unodd Tata Steel â chwmni dur Ewropeaidd mawr, ThyssenKrupp. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, gobeithio, am y math o sicrwydd hirdymor y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'u cael, y math o sicrwydd sydd eu hangen arnom bellach, am ymrwymiad y cwmni newydd i'w gweithfeydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n deg dweud y gallwn deimlo'n falch fod rhai o'r buddsoddiadau a wneir gan y sector dur i'w gweld fel pe baent ar gyfer y tymor hwy; maent yn awgrymu bod disgwyl i ddur barhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru am y degawd nesaf o leiaf. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio. Ni all fforddio tynnu ei llygaid oddi ar y bêl mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â dur. Mae ein hamgylchiadau presennol yn aneglur. Mae llawer o ddryswch ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn anelu tuag ato, diffyg sicrwydd, ac mae pethau'n edrych yn ansicr ar gyfer gweithgynhyrchu a'r sector diwydiannol cyfan ledled y DU.
Ond fel y dywedodd Dai Rees, rwy'n bryderus iawn am yr hyn y gallai newyddion sy'n dod o'r diwydiant modurol ei olygu i'r gwneuthurwyr dur sy'n ei gyflenwi. Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig ac o arwyddocâd mawr i ddyfodol economi Cymru. Felly, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, gobeithio y gall gynnig rhywfaint o sicrwydd inni y bydd hyn yn parhau'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth dros y tymor hir, fel bod dur yn parhau i gael ei gydnabod fel diwydiant angori, gan mai dyna ydyw mewn gwirionedd, a dyna sy'n rhaid iddo barhau i fod i economi Cymru yn fwy cyffredinol.
Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac mae'n bleser gennyf gymryd rhan. Mae dur yn y gwaed yn fy rhanbarth. Roedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol, a thrawsnewidiodd dde Cymru yn bwerdy'r byd. Heb y gwaith dur, ni fyddai rhannau mawr o Orllewin De Cymru yn bodoli. Tyfodd Port Talbot allan o'r chwyldro i ddod yn un o gynhyrchwyr dur pwysicaf Prydain. Roedd lleoliad y gwaith dur yn rhoi mantais iddo wrth i gynhyrchiant newid o ddefnyddio mwyn haearn Prydain heb fod o ansawdd cystal i ddeunydd o ansawdd gwell o ffynonellau tramor.
Mae hanes y gweithfeydd haearn yn ardal Port Talbot yn ymestyn yn ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, pan roddodd Arglwydd Gogledd Corneli hawliau i fynachod o Abaty Margam echdynnu mwynau haearn a phlwm o'i diroedd. Hefyd, rhoddodd tirfeddiannwr cyfagos, Philip de Cornelly, hawliau i'r mynachod gynhyrchu haearn o'r mwynau a echdynnwyd o'i diroedd. Parhaodd cynhyrchiant haearn ar hyd y canrifoedd tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol, pan grëwyd doc newydd i hwyluso mewnforio mwynau ac allforio cynnyrch gorffenedig. Enwyd y doc ar ôl ei adeiladwr, Christopher Rice Mansel Talbot, a daeth i gael ei alw'n Port Talbot. Tua 180 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Port Talbot yn dal yn ddibynnol ar gynhyrchiant dur. Wrth fyw dan gysgod y gwaith dur, mae'r gwaith nid yn unig yn dominyddu'r gorwel ond holl ysbryd ein tref. Ar un adeg byddech naill ai'n gweithio yn y gwaith neu'n adnabod rhywun a weithiai yno. Y dyddiau hyn, efallai fod llai o bobl yn gweithio yn y gwaith dur, ond mae'n dal yn gyfrifol am gyflogi llawer o bobl yn y rhanbarth oherwydd y gadwyn gyflenwi ehangach sydd wedi ymddangos o amgylch Port Talbot.
Mae'r gostyngiad mewn cynhyrchiant dur wedi bod yn destun pryder mawr yn y blynyddoedd diwethaf wrth i'r farchnad fyd-eang orlifo gan ddur israddol o Tsieina ac wrth i'r UDA ddechrau rhyfel masnach ar gais ei Harlywydd diffyndollol. Felly roedd yn rhyddhad mawr pan ddaeth y rhôl gyntaf o ddur torchog oddi ar y llinell gynhyrchu yn dilyn ailosod ffwrnais chwyth 5 ym Mhort Talbot.
Mae buddsoddiad Tata Steel o £50 miliwn yn tanlinellu ymrwymiad y cwmni i'r gwaith, y bobl sy'n gweithio yno a'r gymuned ehangach. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru a Llywdoraeth y DU weithio gyda'i gilydd yn awr i sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith. Mae Tata wedi dangos eu hymrwymiad, a rhaid i'r Llywodraeth wneud yr un peth. Mae dur yr un mor hanfodol i seilwaith y DU ag ydyw i Bort Talbot, ac mae'n rhaid i'r Llywodraethau yma yng Nghaerdydd ac ar ben arall yr M4 wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y DU yn parhau i gynhyrchu dur.
Ar ôl Brexit rhaid inni gael chwarae teg mewn perthynas â thariffau. Rhaid i'r UE wrthsefyll yr awydd i gosbi'r DU am fod â'r hyfdra i adael. A siarad yn rhesymegol, mae tariffau'n niweidio'r ddwy ochr. Rwy'n annog Llywodraeth y DU i geisio cytundebau masnach teg, di-dariff â gweddill y byd, gan agor marchnadoedd newydd ar gyfer ein dur Cymru o ansawdd uchel. Efallai na allwn gystadlu â dur o Tsieina ar sail pris, ond yn sicr gallwn ragori arnynt o ran ansawdd. Mae Tata wedi adnewyddu eu ffydd ym Mhort Talbot, a mater i Lywodraeth y DU bellach yw sicrhau chwarae teg a chreu dyfodol cadarn i'r gwaith dur yng Ngorllewin De Cymru.
Mae angen inni gael ynni rhatach, mynediad rhydd at farchnadoedd rhyngwladol ac ymrwymiad i ddefnyddio dur o Gymru mewn prosiectau seilwaith newydd. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud ei rhan a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gweithfeydd dur yn cael eu diogelu. Mae fy nghymdogion a'u teuluoedd yn ddibynnol ar gyflogaeth gwaith dur Port Talbot. Mae Tata yn gwneud eu rhan, a'r gweithwyr hefyd, ac mae'r gweithwyr yn gweithio oriau hir iawn i sicrhau dyfodol. Tro'r ddwy Lywodraeth yw hi yn awr i weithio gyda'i gilydd, ac ar ôl Brexit, rhaid inni oll gydweithio a sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled.
A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddweud fy mod yn falch iawn o gefnogi'r cynnig heddiw? A diolch i David Rees, fy nghyd-Aelod, am gyflwyno'r ddadl hon, ond nid yn unig am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond am eich ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru drwy eich gwaith yn y Siambr a'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw dros y diwydiant dur yn gyffredinol, ond yn enwedig y gwaith dur yn Shotton yn fy etholaeth, sy'n cynhyrchu llawer o gynnyrch dur o ansawdd, fel duroedd galfanedig, metelig a chyn-orffenedig.
Ddirprwy Llywydd, rhaid imi ddweud pan welais fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, aeth â mi yn ôl i'r dyddiad y'i cyflwynwyd a fy ymgyrch isetholiadol y llynedd, pan wneuthum ymrwymiad i sefyll dros ddur, dros y diwydiant dur. Felly, credaf ei bod yn braf dweud, flwyddyn yn ddiweddarach, y gallaf ddod yma a sefyll dros ein diwydiant dur yng Nghymru. Aeth â mi yn ôl i'r ymgyrch Achub ein Dur a'r gwaith a wnaeth fy nhad ar y pryd i sefyll dros y diwydiant a'r gweithwyr, yn enwedig ar y safle hwnnw yn Shotton. Roedd datblygiadau yn y diwydiant dur yn un o'r materion gwleidyddol uchaf eu proffil yn 2016, ac yn briodol felly, a chofiaf ef yn glir yn gweithio ddydd a nos, yn cysylltu â swyddogion undebau llafur ac yn lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn galed i gefnogi'r diwydiant pwysig. Mae pawb a gefnogodd yr ymgyrch honno yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant i Shotton, ond i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, fel y mae David Rees wedi'i nodi'n briodol ar sawl achlysur.
Fel y gŵyr pawb ohonom, wynebodd Glannau Dyfrdwy eu diwrnod tywyllaf ym mis Mawrth 1980, pan gafodd Dur Prydain wared ar 6,500 o swyddi yng ngwaith dur Shotton ar ôl degawd o wrthsefyll pwysau undebau a gwleidyddion. Dyma oedd y nifer fwyaf o ddiswyddiadau diwydiannol ar un diwrnod yng ngorllewin Ewrop, a chafodd teuluoedd cyfan eu gwneud yn ddi-waith; cafodd cymunedau eu dinistrio. Mae'r effaith ar y diwydiant i'n hardal ni a Chymru gyfan yn enfawr. Canfu uned ymchwil economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru yn £3.2 biliwn y flwyddyn, a oedd yn cynnal gwerth ychwanegol gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cynnal 1.22 o swyddi ychwanegol ar draws economi Cymru.
Ddirprwy Lywydd, gadewch inni beidio ag anghofio bod dur ym mhob un cynnyrch neu ym mhob un broses yn ein byd fel y mae, felly mae'r diwydiant dur yn haeddu pob cymorth y gall ei gael. Ac rwy'n falch o Lywodraeth Cymru, ac yn credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o gefnogi'r diwydiant dur, ac o dan arweiniad Mark a Ken, gwn y bydd yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n amlwg i mi nad pan fydd argyfwng yn digwydd yn unig y dylid rhoi cymorth, ac fel y dywedodd sawl Aelod o bob rhan o'r Siambr, gall Llywodraeth y DU ddysgu, ac fe ddylai ddysgu, o wersi'r gorffennol.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn roi amser i sôn am y gweithwyr yn y diwydiant dur, yn enwedig y rhai sy'n gweithio yn Shotton. Cefais y pleser o ymweld â'r safle ar sawl achlysur, a gwn ein bod wedi mynd â sawl Aelod o fy mhlaid i fyny i'r safle y llynedd hefyd. Ac mae'n amlwg i mi fod y gweithwyr yn hynod o falch o'r hyn y maent yn ei wneud a beth y maent yn ei gyflawni yno bob dydd, ac rwy'n falch o'r cyfraniad y mae'r diwydiant yn ei wneud i fy nghymuned ac i Gymru gyfan. Felly, i gloi, mae fy neges derfynol i weithwyr y diwydiant dur: fe fyddwn ni yn y Siambr hon yn ymladd drosoch yn y cyfnod anodd hwn, a diolch ichi am bopeth a wnewch i wella economi Cymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r cynnig hwn i'w groesawu'n fawr ac mae'n cyd-fynd yn agos â safbwynt Llywodraeth Cymru ar y diwydiant dur, ac felly mae'n bleser gennyf ei gefnogi. Mwynheais yr ystyriaethau niferus a roddwyd i hanes ein gweithgarwch dur yma yng Nghymru, gyda David Rees, Jack Sargeant a Caroline Jones yn rhoi asesiadau gwych o werth cymdeithasol yn ogystal ag economaidd ein gweithfeydd dur. Credaf fod David Rees wedi croesawu gwaith Llywodraeth Cymru yn achub ein dur, ond hefyd gwnaeth y pwynt pwysig iawn ein bod, unwaith eto, yn sefyll ar ymyl y dibyn. Rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon y prif heriau sy'n effeithio ar y sector dur, ac mae'r rhain yn cynnwys, wrth gwrs, prisiau trydan diwydiannol anghystadleuol, gorgapasiti byd-eang ac arferion masnachu dur rhyngwladol sy'n annheg. Mae'r materion hyn yn parhau i fod yn destun pryder enfawr i'r sector, ond fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, ceir cryn ansicrwydd bellach ynghylch Brexit. Mae tariffau adran 232 yr Unol Daleithiau ar ddur wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y sector dur yn cael ei ddiogelu rhag arferion masnachu rhyngwladol annheg. Rydym wedi sicrhau bod pryderon cynhyrchwyr dur yng Nghymru wedi'u lleisio ar y lefel uchaf yn San Steffan.
Ar ôl y DU ac Iwerddon, y brif farchnad ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU yw Ewrop wrth gwrs. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n hanfodol felly nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru o dan anfantais yn sgil rhwystrau masnach diangen megis tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu, neu rwystrau technegol i fasnach. Mae'r sector dur yn ddibynnol iawn ar fasnach rydd, ond yr un mor bwysig, mae'n ddibynnol ar y rheolau megis rhwymedïau masnach sy'n sail i'r fasnach rydd hon. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, yr effeithir ar y diwydiant dur gan unrhyw aflonyddu ar ei gadwyn gyflenwi o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys, yn bwysig, yn y sector modurol, fel y nododd Suzy Davies a Rhun ap Iorwerth. Yn wir, roedd y ddwy rhôl gyntaf o ddur a ddaeth o ffwrnais chwyth 5 yr wythnos diwethaf yn mynd i weithgynhyrchwyr modurol yng ngorllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr. A chlywais bryderon y sector drosof fy hun yr wythnos diwethaf yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddur. Mae'r sector wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol ag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU er mwyn lleisio ei bryderon ac i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod rhwymedïau masnach yn gadarn yn y DU yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU ar Brexit, ac rydym yn dadlau'r achos dros ddarparu cymaint o sicrwydd ag y bo modd i ddiwydiannau Cymru, gan gynnwys y diwydiant dur wrth gwrs. Mae effaith y gwahaniaeth rhwng pris trydan diwydiannol yn y DU o gymharu â gwledydd eraill, yn enwedig Ffrainc a'r Almaen, yn fater arall yr ydym yn parhau i'w ddwyn i sylw Llywodraeth y DU ac mae'r Aelodau wedi nodi hynny y prynhawn yma. Mae hyn o'r pwys mwyaf os yw'r sector i gystadlu'n deg yn rhyngwladol ac er mwyn denu buddsoddiad mewn gweithfeydd ac ymchwil a datblygu. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos mai gan y DU y mae'r prisiau trydan diwydiannol uchaf yn yr UE. I ddefnyddwyr diwydiannol mawr, mae'r prisiau'n 90 y cant—90 y cant yn uwch na chanolrif yr UE.
Nawr, roedd yn bleser ymweld â Tata Steel Port Talbot yr wythnos diwethaf wrth ochr y Prif Weinidog i ddathlu aildanio ffwrnais chwyth 5. Mae cwblhau'r prosiect hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol y gwaith ac yn ei weithlu, ac yn dangos ymrwymiad Tata Steel i gynnal cynhyrchiant dur yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi llofnodi cytundeb diffiniol i ymrwymo i fenter ar y cyd â Thyssenkrupp. Ar hyn o bryd mae hyn yn amodol ar archwiliad rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym yn parhau ein hymgysylltiad â Tata Steel UK ynghylch y potensial pellach o gefnogi cysylltiadau er mwyn galluogi i'w gwaith ddod yn fwy cynaliadwy yn hirdymor. Hyd yma, rydym wedi cynnig £17 miliwn o gyllid ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru sy'n cefnogi datblygu sgiliau yn y gweithlu ac wrth gwrs, buddsoddiad o £8 miliwn yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot.
Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon, ochr yn ochr â Tata Steel, yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu lefelau ymchwil a datblygu ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y busnes, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys dros £600,000 o arian ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes datblygu cynnyrch newydd yn unig. Ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio, yn rhannol, i helpu Cymru i ddatblygu llwyfannau a phartneriaethau newydd rhwng Llywodraeth, prifysgolion, colegau, busnesau ac ati a allai ein galluogi i dargedu cyllid a ddyfernir yn fwy cystadleuol yng nghyllid her strategaeth ddiwydiannol y DU. Ceir synergeddau amlwg rhwng ein cynllun gweithredu economaidd a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae trydedd don cronfa her y strategaeth ddiwydiannol yn cynnwys dwy her sy'n arbennig o berthnasol i'r sector dur: yn gyntaf, her gwerth £170 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol, ac fel y dywedodd Suzy Davies, her gwerth £66 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y rhain a chyfleoedd eraill sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Mae sector dur y DU wedi nodi caffael sector cyhoeddus fel cam gweithredu allweddol craidd y gallai'r Llywodraeth ei roi ar waith i gryfhau'r sector ac i wella ei allu i gystadlu, ac ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddwyd nodyn cyngor caffael i gefnogi cyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru, ac fe'i cynlluniwyd i annog y defnydd ehangaf posibl o ddur o Gymru a'r DU mewn contractau sector cyhoeddus.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n cydnabod yn llwyr yr heriau parhaus y mae cwmnïau dur yng Nghymru yn eu hwynebu, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan Brexit, ond yn yr un modd, gallaf sicrhau'r sector dur y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio wrth ei ochr i sicrhau dyfodol hirdymor i bob gwaith dur yng Nghymru, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.
Diolch. A gaf fi alw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan ac wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n teimlo na all fod llawer o amheuaeth ynglŷn ag ymrwymiad yr Aelodau i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y gwelwyd yn rheolaidd yn y Siambr hon mewn dadleuon ac yn ystod cwestiynau'n gyffredinol.
Yn amlwg, mae cyfraniad Dai Rees bob amser yn flaenaf ymysg y cyfraniadau hynny, felly roedd yn gwbl briodol mai David Rees a agorodd y ddadl hon heddiw. Hoffwn ymuno â Jack Sargeant i dalu teyrnged i David Rees am ei waith yn y grŵp trawsbleidiol a'i ymrwymiad cyffredinol. Drwy gyfraniadau David, credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli'n dda iawn pa mor bwysig yw gwaith dur Port Talbot i'w etholaeth a'i benderfyniad i ymladd er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r diwydiant yn gwneud popeth y gellid ei wneud, gan weithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu i sicrhau bod y swyddi hynny'n cael eu diogelu a'u datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicr yn ymrwymiad a chryfder teimlad y gallaf yn hawdd ei ddeall, a minnau'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd gyda gwaith dur Llanwern, a hefyd gweithredwyr dur pwysig yn fy etholaeth, fel Cogent a Liberty Steel. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hynny er mwyn datblygu'r diwydiant a dod â buddsoddiad newydd a swyddi newydd ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n fater o weithio gyda'r diwydiant, y Llywodraeth ar wahanol lefelau, yr undebau llafur a'r gweithlu. Dyna'r negeseuon a glywsom heddiw a'r negeseuon rydym yn ei clywed yn rheolaidd iawn, rwy'n credu, ac yn briodol felly.
Ceir rhai themâu cyffredin iawn o fewn y ddadl gyffredinol, Ddirprwy Lywydd. Un newydd, mae'n debyg, yw pwysigrwydd Brexit ac osgoi risgiau enfawr Brexit 'dim bargen'. Ceir problemau mawr iawn ynghlwm wrth Brexit ynddo'i hun, ond ceir llawer mwy o risg ynghlwm wrth Brexit 'dim bargen', a gwnaethpwyd hynny'n gwbl eglur gan UK Steel yn ddiweddar, ond ymhellach yn ôl, hefyd, gan yr undebau llafur, gan Aelodau yma a gan Ken Skates fel y Gweinidog perthnasol. Ni all fod fawr o amheuaeth nad yw'r ansicrwydd andwyol, fel y'i disgrifir, Ddirprwy Lywydd, yn ansefydlogi'r diwydiant yn aruthrol ac o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ceir pryderon penodol mewn perthynas â'r diwydiant modurol, fel y clywsom, y sefyllfa gyda thariffau, gydag arian cronfeydd ymchwil a llawer o bethau eraill hefyd. Yn amlwg, gorau po gyntaf i bawb y cawn ryw raddau o sicrwydd ynglŷn â'r materion hynny.
Mae cost uchel ynni hefyd bob amser yn codi ei ben, a hynny'n gwbl briodol, yn y dadleuon hyn, a gwnaeth hynny eto heddiw. Ddirprwy Lywydd, credaf fod pawb ohonom yma yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth hwnnw, yr annhegwch yn y gystadleuaeth rhwng diwydiant dur y DU a'r diwydiant dur mewn gwledydd eraill a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hynny'n derfynol. Rydym wedi gweld buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni; rydym yn gweld symudiadau pwysig tuag at gynhyrchu ynni gan y diwydiant ei hun, fel y clywsom, ac mae hwnnw'n fater pwysig i Liberty Steel yng Nghasnewydd, er enghraifft, lle mae ganddynt gynlluniau pwysig ar gyfer gorsaf bŵer bresennol Aber-wysg. Felly, mae'r diwydiant yn cymryd y camau y mae'n gallu eu cymryd ei hun, ond mae angen cymorth gan Lywodraeth y DU.
Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog i'r holl faterion hynny a sicrwydd eto o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant, i weithio gyda'r undebau llafur, i weithio gydag Aelodau yma i ymateb i'r heriau hyn. Unwaith eto, fel y dywedodd y Gweinidog, mae caffael yn fater arall hollol ganolog i allu sicrhau'r cynnydd angenrheidiol, ac rwy'n croesawu datblygiad newydd y polisi a'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n addawol iawn a bydd pawb ohonom am weld y rheini'n cael eu cyflawni.
Ddirprwy Lywydd, mae'r buddsoddiad gan Tata, wyddoch chi, yn ddatganiad gwych o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac mae pawb ohonom yn croesawu hynny, ac mae'r gweithlu'n croesawu hynny'n fawr. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud, o ran gweithredu gan y Llywodraeth, yw chwarae ein rhan. Fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod hi'n barod i wneud ei rhan. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn i'w chwarae hefyd, ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan yn ogystal.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.