Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Chwefror 2019.
A bu ein hymrwymiad i'r diwydiant dur yn ddigon clir, rwy'n credu, nid yn lleiaf drwy'r ffaith bod elfennau o'r cymorth a ddarparwyd i Tata Steel gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd drwy gydweithrediad rhwng ein dwy blaid. Rydym wedi bod yn glir, rwy'n credu, cyn, yn ystod ac ers yr argyfwng yn Tata Steel yn 2016 fod sicrhau dyfodol y diwydiant yn hanfodol, yn allweddol, os ydym am i Gymru barhau i fod yn ganolfan weithgynhyrchu a diwydiant. Ac aeth Bethan Sayed mor bell â dweud nad oedd hi eisiau byw mewn Cymru nad oedd yn meddu ar gynhyrchiant dur gan mor ganolog yw'r diwydiant i'n gorffennol a'n dyfodol economaidd. Mae pob cenedl lwyddiannus yn economaidd angen sector diwydiannol er mwyn iddi allu ffynnu.
Felly, rydym wedi bod yn awyddus i roi pwysau ar, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddur, oherwydd er y byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd o bosibl, fe wyddom, os gallwn gydweithredu, fod yna feysydd y dylem wneud hynny ynddynt er budd pobl y wlad hon. Mae cydweithredu â'r Llywodraeth ar hyn a dull trawsbleidiol o weithredu wedi golygu bod cyllid allweddol ar gael, megis y £30 miliwn i gefnogi gorsaf bŵer wedi'i huwchraddio ar gyfer Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn gwella cynhyrchiant, gostwng allyriadau, helpu i reoli costau ynni, sy'n faich ariannol mawr ar y gwaith dur, fel y clywsom eisoes. A gyda llaw, rwy'n ailddatgan cefnogaeth hirsefydlog Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y credwn y gallai helpu pethau ymhellach, ond rhywbeth y mae'r Llywodraeth Lafur wedi parhau i'w wrthwynebu hyd yma.
Ond er cymaint yr ydym yn croesawu byrdwn y cynnig hwn, efallai nad yw'n adlewyrchu'n union pa mor agored i niwed yw ein sector dur a'n sector diwydiannol ehangach. Ond yn sicr, wrth gyflwyno'r cynnig heddiw, mae Dai Rees wedi mynegi pryderon rydym ninnau hefyd yn eu rhannu yma. Credaf ein bod y tu hwnt i ymddiheuro am ddefnyddio'r gair B erbyn hyn—daw i mewn i bopeth a wnawn. Rydym yn nesáu tuag at adael yr UE. Rydym yn syrthio tuag at adael heb fod cytundeb yn ei le, nac unrhyw fath o amddiffyniad na chytundeb tollau neu fynediad at y farchnad. Mae gweinyddiaeth Trump, os ydym eisiau edrych ar beth sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, yn parhau ei defnydd niweidiol a chibddall o dariffau i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn enwedig ar nwyddau fel dur. A chyn bo hir, bydd y DU mewn amgylchedd economaidd byd-eang sy'n fwyfwy bregus heb ein partneriaid Ewropeaidd i sefyll ochr yn ochr â ni. Felly, credaf fod sylfeini cadarn a chael sylfeini cadarn ar gyfer ein diwydiant dur yn bwysicach nag erioed erbyn hyn.
Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ynddi yn 2016. Unodd Tata Steel â chwmni dur Ewropeaidd mawr, ThyssenKrupp. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, gobeithio, am y math o sicrwydd hirdymor y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'u cael, y math o sicrwydd sydd eu hangen arnom bellach, am ymrwymiad y cwmni newydd i'w gweithfeydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n deg dweud y gallwn deimlo'n falch fod rhai o'r buddsoddiadau a wneir gan y sector dur i'w gweld fel pe baent ar gyfer y tymor hwy; maent yn awgrymu bod disgwyl i ddur barhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru am y degawd nesaf o leiaf. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio. Ni all fforddio tynnu ei llygaid oddi ar y bêl mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â dur. Mae ein hamgylchiadau presennol yn aneglur. Mae llawer o ddryswch ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn anelu tuag ato, diffyg sicrwydd, ac mae pethau'n edrych yn ansicr ar gyfer gweithgynhyrchu a'r sector diwydiannol cyfan ledled y DU.
Ond fel y dywedodd Dai Rees, rwy'n bryderus iawn am yr hyn y gallai newyddion sy'n dod o'r diwydiant modurol ei olygu i'r gwneuthurwyr dur sy'n ei gyflenwi. Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig ac o arwyddocâd mawr i ddyfodol economi Cymru. Felly, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, gobeithio y gall gynnig rhywfaint o sicrwydd inni y bydd hyn yn parhau'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth dros y tymor hir, fel bod dur yn parhau i gael ei gydnabod fel diwydiant angori, gan mai dyna ydyw mewn gwirionedd, a dyna sy'n rhaid iddo barhau i fod i economi Cymru yn fwy cyffredinol.