Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Chwefror 2019.
Ar ôl y DU ac Iwerddon, y brif farchnad ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU yw Ewrop wrth gwrs. Pan fyddwn yn gadael yr UE, mae'n hanfodol felly nad yw'r diwydiant dur yng Nghymru o dan anfantais yn sgil rhwystrau masnach diangen megis tollau ychwanegol, tariffau, cwotâu, neu rwystrau technegol i fasnach. Mae'r sector dur yn ddibynnol iawn ar fasnach rydd, ond yr un mor bwysig, mae'n ddibynnol ar y rheolau megis rhwymedïau masnach sy'n sail i'r fasnach rydd hon. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio, Ddirprwy Lywydd, yr effeithir ar y diwydiant dur gan unrhyw aflonyddu ar ei gadwyn gyflenwi o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys, yn bwysig, yn y sector modurol, fel y nododd Suzy Davies a Rhun ap Iorwerth. Yn wir, roedd y ddwy rhôl gyntaf o ddur a ddaeth o ffwrnais chwyth 5 yr wythnos diwethaf yn mynd i weithgynhyrchwyr modurol yng ngorllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr. A chlywais bryderon y sector drosof fy hun yr wythnos diwethaf yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddur. Mae'r sector wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol ag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU er mwyn lleisio ei bryderon ac i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod rhwymedïau masnach yn gadarn yn y DU yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU ar Brexit, ac rydym yn dadlau'r achos dros ddarparu cymaint o sicrwydd ag y bo modd i ddiwydiannau Cymru, gan gynnwys y diwydiant dur wrth gwrs. Mae effaith y gwahaniaeth rhwng pris trydan diwydiannol yn y DU o gymharu â gwledydd eraill, yn enwedig Ffrainc a'r Almaen, yn fater arall yr ydym yn parhau i'w ddwyn i sylw Llywodraeth y DU ac mae'r Aelodau wedi nodi hynny y prynhawn yma. Mae hyn o'r pwys mwyaf os yw'r sector i gystadlu'n deg yn rhyngwladol ac er mwyn denu buddsoddiad mewn gweithfeydd ac ymchwil a datblygu. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n dangos mai gan y DU y mae'r prisiau trydan diwydiannol uchaf yn yr UE. I ddefnyddwyr diwydiannol mawr, mae'r prisiau'n 90 y cant—90 y cant yn uwch na chanolrif yr UE.
Nawr, roedd yn bleser ymweld â Tata Steel Port Talbot yr wythnos diwethaf wrth ochr y Prif Weinidog i ddathlu aildanio ffwrnais chwyth 5. Mae cwblhau'r prosiect hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol y gwaith ac yn ei weithlu, ac yn dangos ymrwymiad Tata Steel i gynnal cynhyrchiant dur yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Tata Steel ei fod wedi llofnodi cytundeb diffiniol i ymrwymo i fenter ar y cyd â Thyssenkrupp. Ar hyn o bryd mae hyn yn amodol ar archwiliad rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym yn parhau ein hymgysylltiad â Tata Steel UK ynghylch y potensial pellach o gefnogi cysylltiadau er mwyn galluogi i'w gwaith ddod yn fwy cynaliadwy yn hirdymor. Hyd yma, rydym wedi cynnig £17 miliwn o gyllid ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru sy'n cefnogi datblygu sgiliau yn y gweithlu ac wrth gwrs, buddsoddiad o £8 miliwn yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot.
Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon, ochr yn ochr â Tata Steel, yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu lefelau ymchwil a datblygu ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y busnes, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys dros £600,000 o arian ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes datblygu cynnyrch newydd yn unig. Ac mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio, yn rhannol, i helpu Cymru i ddatblygu llwyfannau a phartneriaethau newydd rhwng Llywodraeth, prifysgolion, colegau, busnesau ac ati a allai ein galluogi i dargedu cyllid a ddyfernir yn fwy cystadleuol yng nghyllid her strategaeth ddiwydiannol y DU. Ceir synergeddau amlwg rhwng ein cynllun gweithredu economaidd a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae trydedd don cronfa her y strategaeth ddiwydiannol yn cynnwys dwy her sy'n arbennig o berthnasol i'r sector dur: yn gyntaf, her gwerth £170 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol, ac fel y dywedodd Suzy Davies, her gwerth £66 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y rhain a chyfleoedd eraill sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Mae sector dur y DU wedi nodi caffael sector cyhoeddus fel cam gweithredu allweddol craidd y gallai'r Llywodraeth ei roi ar waith i gryfhau'r sector ac i wella ei allu i gystadlu, ac ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddwyd nodyn cyngor caffael i gefnogi cyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru, ac fe'i cynlluniwyd i annog y defnydd ehangaf posibl o ddur o Gymru a'r DU mewn contractau sector cyhoeddus.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n cydnabod yn llwyr yr heriau parhaus y mae cwmnïau dur yng Nghymru yn eu hwynebu, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan Brexit, ond yn yr un modd, gallaf sicrhau'r sector dur y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio wrth ei ochr i sicrhau dyfodol hirdymor i bob gwaith dur yng Nghymru, ac rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.