Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan ac wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n teimlo na all fod llawer o amheuaeth ynglŷn ag ymrwymiad yr Aelodau i'r diwydiant dur yng Nghymru, fel y gwelwyd yn rheolaidd yn y Siambr hon mewn dadleuon ac yn ystod cwestiynau'n gyffredinol.
Yn amlwg, mae cyfraniad Dai Rees bob amser yn flaenaf ymysg y cyfraniadau hynny, felly roedd yn gwbl briodol mai David Rees a agorodd y ddadl hon heddiw. Hoffwn ymuno â Jack Sargeant i dalu teyrnged i David Rees am ei waith yn y grŵp trawsbleidiol a'i ymrwymiad cyffredinol. Drwy gyfraniadau David, credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli'n dda iawn pa mor bwysig yw gwaith dur Port Talbot i'w etholaeth a'i benderfyniad i ymladd er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r diwydiant yn gwneud popeth y gellid ei wneud, gan weithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu i sicrhau bod y swyddi hynny'n cael eu diogelu a'u datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n sicr yn ymrwymiad a chryfder teimlad y gallaf yn hawdd ei ddeall, a minnau'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd gyda gwaith dur Llanwern, a hefyd gweithredwyr dur pwysig yn fy etholaeth, fel Cogent a Liberty Steel. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hynny er mwyn datblygu'r diwydiant a dod â buddsoddiad newydd a swyddi newydd ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n fater o weithio gyda'r diwydiant, y Llywodraeth ar wahanol lefelau, yr undebau llafur a'r gweithlu. Dyna'r negeseuon a glywsom heddiw a'r negeseuon rydym yn ei clywed yn rheolaidd iawn, rwy'n credu, ac yn briodol felly.
Ceir rhai themâu cyffredin iawn o fewn y ddadl gyffredinol, Ddirprwy Lywydd. Un newydd, mae'n debyg, yw pwysigrwydd Brexit ac osgoi risgiau enfawr Brexit 'dim bargen'. Ceir problemau mawr iawn ynghlwm wrth Brexit ynddo'i hun, ond ceir llawer mwy o risg ynghlwm wrth Brexit 'dim bargen', a gwnaethpwyd hynny'n gwbl eglur gan UK Steel yn ddiweddar, ond ymhellach yn ôl, hefyd, gan yr undebau llafur, gan Aelodau yma a gan Ken Skates fel y Gweinidog perthnasol. Ni all fod fawr o amheuaeth nad yw'r ansicrwydd andwyol, fel y'i disgrifir, Ddirprwy Lywydd, yn ansefydlogi'r diwydiant yn aruthrol ac o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ceir pryderon penodol mewn perthynas â'r diwydiant modurol, fel y clywsom, y sefyllfa gyda thariffau, gydag arian cronfeydd ymchwil a llawer o bethau eraill hefyd. Yn amlwg, gorau po gyntaf i bawb y cawn ryw raddau o sicrwydd ynglŷn â'r materion hynny.
Mae cost uchel ynni hefyd bob amser yn codi ei ben, a hynny'n gwbl briodol, yn y dadleuon hyn, a gwnaeth hynny eto heddiw. Ddirprwy Lywydd, credaf fod pawb ohonom yma yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth hwnnw, yr annhegwch yn y gystadleuaeth rhwng diwydiant dur y DU a'r diwydiant dur mewn gwledydd eraill a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hynny'n derfynol. Rydym wedi gweld buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni; rydym yn gweld symudiadau pwysig tuag at gynhyrchu ynni gan y diwydiant ei hun, fel y clywsom, ac mae hwnnw'n fater pwysig i Liberty Steel yng Nghasnewydd, er enghraifft, lle mae ganddynt gynlluniau pwysig ar gyfer gorsaf bŵer bresennol Aber-wysg. Felly, mae'r diwydiant yn cymryd y camau y mae'n gallu eu cymryd ei hun, ond mae angen cymorth gan Lywodraeth y DU.
Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog i'r holl faterion hynny a sicrwydd eto o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant, i weithio gyda'r undebau llafur, i weithio gydag Aelodau yma i ymateb i'r heriau hyn. Unwaith eto, fel y dywedodd y Gweinidog, mae caffael yn fater arall hollol ganolog i allu sicrhau'r cynnydd angenrheidiol, ac rwy'n croesawu datblygiad newydd y polisi a'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n addawol iawn a bydd pawb ohonom am weld y rheini'n cael eu cyflawni.
Ddirprwy Lywydd, mae'r buddsoddiad gan Tata, wyddoch chi, yn ddatganiad gwych o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac mae pawb ohonom yn croesawu hynny, ac mae'r gweithlu'n croesawu hynny'n fawr. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud, o ran gweithredu gan y Llywodraeth, yw chwarae ein rhan. Fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod hi'n barod i wneud ei rhan. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn i'w chwarae hefyd, ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan yn ogystal.