Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 6 Chwefror 2019.
Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond rydych hefyd yn awgrymu ein bod ni ar y meinciau hyn a meinciau Llafur yn bleidiau'r DU a'ch bod chi'n blaid Gymreig, ac eto mae ein cynnig yn ymwneud â'r anghydraddoldebau yng Nghymru. Rydym yn sôn am yr anghydraddoldebau ar draws y wlad.