– Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6959 Darren Millar
1. Nodi bod anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA diweddaraf.
2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru.
3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru;
b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac
c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae eithaf tipyn y gallwn gytuno yn ei gylch yng nghynnig y Llywodraeth heddiw, ond ni allwn ei gefnogi oherwydd ei fod yn dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 5, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 3, a hoffem glywed mwy o fanylion am gynnig Plaid Cymru ar Fil buddsoddi rhanbarthol, sydd wedi'i gynnwys yn eu gwelliant 4.
Ddirprwy Lywydd, mae allbwn economaidd y pen yn amrywio'n fawr ledled Cymru. Ceir cyferbyniad amlwg rhwng gwerth ychwanegol gros y pen yng nghorneli gogleddol a de-ddwyreiniol Cymru, ein cymunedau yn y Cymoedd, a'n cymunedau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Os gallaf roi rhai enghreifftiau o hyn, mae gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn ychydig o dan hanner gwerth ychwanegol gros y pen Caerdydd, ac mae nifer o ranbarthau o Gymru yn llusgo ar ôl rhannau mwy cyfoethog o'r wlad. Ceir rhaniad daearyddol clir o ran cyfoeth yng Nghymru hefyd, ac yn anffodus, rhaniad trefol a gwledig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod rhanbarthau ac ardaloedd awdurdodau lleol llai cefnog Cymru yn dioddef cyfraddau twf gwael iawn, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn wrth gwrs. Mae angen inni roi strategaeth economaidd ar waith sy'n gallu cau'r bwlch a gwella ffyniant economaidd Cymru gyfan. Ar y llaw arall, gwelodd rhai rhanbarthau tlawd sy'n wynebu heriau economaidd mawr iawn yn Lloegr dwf yn eu gwerth ychwanegol gros y pen, felly nid yw'n gywir dweud, fel yng gwelliant 2—yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni—mai polisïau economaidd Llywodraeth y DU sy'n cyfrannu at yr anghydraddoldeb rhanbarthol mewnol hwn yng Nghymru. Ac mae'n amlwg fod nifer o ranbarthau tlawd yn Lloegr yn profi twf cadarn er gwaethaf heriau strwythurol tebyg, ond bod rhanbarthau tebyg o Gymru nid yn unig yn methu tyfu'n sylweddol, ond mae rhai'n crebachu hyd yn oed, sy'n destun pryder. Felly, nid wyf yn derbyn dadl Plaid Cymru fod polisïau economaidd Llywodraeth y DU rywsut yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn.
Gadewch i ni edrych yn agosach adref hefyd ar bolisi economaidd Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu nifer o ysgogiadau yma. Rydym eisoes wedi cael tair strategaeth economaidd fawr, wrth gwrs, wedi'u lansio gan Lywodraeth Cymru ers creu Senedd Cymru. Ac rwy'n cynnig heddiw fod pob un wedi methu hybu'r twf rhanbarthol, wedi methu ysgogi economi Cymru, wedi methu creu digon o swyddi sy'n talu'n dda, ac wedi methu creu cynhyrchiant. Ar hyn o bryd Cymru yw'r economi wannaf, sy'n tyfu arafaf, yn y DU, ac mae'n dal i lusgo gryn dipyn ar ôl yr Alban. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom yn y Siambr hon am weld hynny, felly nid wyf yn dweud hynny gydag unrhyw foddhad. Rydym am i hynny newid. Dylai cwmnïau sydd wedi buddsoddi yn y wlad hon fod wedi'u hintegreiddio i gadwyni cyflenwi domestig er mwyn helpu i sefydlu'r mewnfuddsoddiad mewn cymunedau lleol, a chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau'r mewnfuddsoddiad hwnnw'n iawn, sydd wedi golygu bod eu strategaeth wedi methu cau'r bwlch economaidd rhwng rhanbarthau Cymru a hefyd wedi methu cynyddu ffyniant yng Nghymru yn gyffredinol. Er enghraifft, er gwaethaf chwistrelliadau enfawr o arian cyhoeddus i'n hardaloedd menter ledled Cymru wrth gwrs, maent wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol. Diben yr ardaloedd oedd meithrin capasiti mewn sectorau penodol o economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu, ynni a gwasanaethau proffesiynol. Hefyd, roeddent i fod i ddenu cwmnïau i rannau penodol o'r economi. Cafwyd rhai enghreifftiau o feysydd llwyddiannus o fewn yr ardaloedd menter, ond mae'n ddarlun eithaf cymysg. Dyna y buaswn i'n ei ddadlau. Ond mae'r data economaidd yn nodi'n glir nad yw'r ardaloedd menter a'r cyllid sy'n gysylltiedig â hwy wedi effeithio ar dwf economaidd yn y modd y byddem wedi'i ddisgwyl.
Felly, ar y meinciau hyn, rydym hefyd yn croesawu'r cyfraniad y bydd bargeinion twf Caerdydd, bae Abertawe, gogledd Cymru a chanolbarth Cymru yn eu gwneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Mae'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf hyn yn newid y dull datblygu rhanbarthol yn llwyr yn fy marn i oherwydd bod ganddynt botensial i helpu i ddatblygu busnesau bach a chanolig, cwmnïau mwy o faint a seilwaith trafnidiaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru. Ac rwyf am roi un enghraifft: yr wythnos diwethaf, ymwelodd partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru â'r Senedd i arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau gan fusnesau ledled Powys a Cheredigion. Roedd hwnnw'n gyfle gwych yn fy marn i i danlinellu'r angen am fuddsoddiad cyhoeddus a thwf ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Diolch i'r Gweinidog am gyfarfod â'r ddirprwyaeth, am gyfarfod â busnesau, a siarad yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Mae'r bargeinion twf hyn, wrth gwrs, yn cynnig ffocws rhanbarthol cryf ac maent yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cydweithredol rhwng awdurdodau lleol cyfagos er mwyn cynyddu'r twf rhanbarthol a'r ffyniant hwnnw. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â mi a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Ac yn y cynnig hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adeiladu perthynas gadarnhaol, agored a chydweithredol gyda Llywodraeth y DU ac adrannau gwasanaeth sifil mawr y DU i helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor y mentrau bargeinion twf ledled Cymru.
Ddirprwy Lywydd, ni fyddai'r Gweinidog yn disgwyl i mi ei ganmol yn ormodol, ac wrth gloi, mae yna nifer o feysydd lle rydym yn teimlo bod yn rhaid gwella ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bolisi economaidd yn sylweddol. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru yn dechrau troi sylw Llywodraeth Cymru tuag at hybu cymorth busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru, atgyfnerthu'r mecanwaith cyllid hwnnw, gwella caffael cyhoeddus a chryfhau'r gadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, rwy'n dadlau bod yn rhaid ei ddatblygu ymhellach hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn amlinellu'n glir sut y bydd ei themâu a'i gynnwys canolog yn helpu i godi cyflogau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae angen adnoddau priodol ar y swyddfeydd rhanbarthol newydd hefyd ac mae angen i'w gynlluniau gwaith gydweddu â mesurau polisi presennol i hybu twf rhanbarthol. Ac rwy'n credu bod angen mwy o arian ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru hefyd, wrth inni symud ymlaen. Felly, er bod y cynllun gweithredu economaidd yn arwydd o newid cyfeiriad sydd i'w groesawu mewn perthynas â dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu economi Cymru, ceir llawer o feysydd sy'n rhaid eu hychwanegu at y strategaeth honno os yw Cymru i ffynnu ac os yw economi Cymru i ffynnu yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n parhau i fod â meddwl agored ynghylch gwelliant 4 Plaid Cymru, o ran y ffordd y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf cynhwysol.
2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru.
3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau.
4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn rhyngwladol.
5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad.
6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau.
7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru.
Cynigiwyd.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod polisi llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Yn is-bwynt (a) ym mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf.
Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.
Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n braf cael cymryd rhan yn y ddadl hon. A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r testun hwn o'n blaenau ni heddiw? O ystyried bod gen i'r gwaith o drio perswadio’r Ceidwadwyr i gefnogi ein gwelliant 4 ni, mi ddylwn i, mae'n siŵr, beidio â dweud unrhyw beth rhy negyddol am y Ceidwadwyr, ond mae gen i ofn bod rhaid imi ddechrau efo pwyntio allan yr eironi fod y Ceidwadwyr yn y fan hyn yn dod â chynnig o'n blaenau ni'n beirniadu Llywodraeth Cymru am fethiant i greu tegwch a chydbwysedd rhanbarthol yng Nghymru, pan mae record y Ceidwadwyr eu hunain, fel Llafur, rhaid dweud, ar lefel Prydain, yn un o fod wedi creu lefel ryfeddol a anghyfartaledd.
Mewn ffordd, beth mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud heddiw ydy fod Cymru yn neilltuol o fewn y Deyrnas Unedig o ran y math o anghyfartaledd sydd yma. Ond edrychwch ar sut mae Prydain yn anghyfartal o'i chymharu â llawer iawn o'n partneriaid Ewropeaidd ni: mae Prydain, neu'r Deyrnas Unedig, yn llawer mwy anghyfartal yn economaidd na'r Eidal, er bod yr Eidal yn cael ei hadnabod fel gwladwriaeth lle mae yna anghyfartaledd enfawr a gwahaniaeth traddodiadol rhwng y gogledd cyfoethog a'r de tlotach. Mae Prydain yn fwy anghyfartal na'r Almaen, lle mae yna'n dal, chwarter canrif a mwy ar ôl uno'r wlad honno, anghyfartaledd sylweddol o hyd rhwng yr hen ddwyrain a'r gorllewin, lle mae GDP yn y dwyrain yn dal ddim ond rhyw ddwy ran o dair o'r gorllewin. Ond dal, mae'r Deyrnas Unedig yn fwy anghyfartal na hynny.
Os ydyn ni'n edrych ar y realiti yma yn y Deyrnas Unedig ar lefel isranbarthol, mae allbwn y pen wyth gwaith yn fwy yng ngorllewin Llundain nag yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Does yna ddim gwahaniaeth tebyg i hynny nunlle arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, all y Ceidwadwyr, mae'n ddrwg gen i, ddim dadlau eu bod nhw mewn rhyw ffordd yn blaid sydd yn hybu cyfartaledd, achos mae'r Ceidwadwyr fel plaid Brydeinig a Llafur fel plaid Brydeinig wedi methu â sicrhau y math yna o gyfartaledd yr ydw i yn dymuno ei weld yn cael ei greu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gen i hyder yng ngallu Cymru i fod yn genedl-wladwriaeth sydd yn gallu anelu at greu y math o gyfartaledd sydd ond yn freuddwyd ar lefel y Deyrnas Unedig, a'r peth olaf rydw i eisiau ei weld ydy Cymru mewn rhyw ffordd yn datblygu yn wlad lle mae anghyfartaledd yn ein gwlad ni yn troi allan yn debyg i'r hyn sydd yna yn y Deyrnas Unedig yn gyflawn. Dydw i ddim—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs.
Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond rydych hefyd yn awgrymu ein bod ni ar y meinciau hyn a meinciau Llafur yn bleidiau'r DU a'ch bod chi'n blaid Gymreig, ac eto mae ein cynnig yn ymwneud â'r anghydraddoldebau yng Nghymru. Rydym yn sôn am yr anghydraddoldebau ar draws y wlad.
Mae'n ddyletswydd arnaf i dynnu sylw at yr eironi yn eich safbwynt fel plaid sydd wedi methu'n gyfan gwbl â chyflwyno'r math o gydraddoldeb ar lefel y DU y dywedwch ein bod am ei weld yng Nghymru. Nid oes cuddio rhag y ffaith bod y ddwy brif blaid yn y DU, drwy lywodraethu am ddegawdau, am genedlaethau, wedi methu sicrhau cydraddoldeb yn y DU. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen inni siarad ynglŷn â sut y gallwn ddod â'r math hwnnw o gydraddoldeb i Gymru.
Dydw i ddim yn un, gyda llaw, sydd yn licio siarad am bopeth yn mynd i'r de. Hynny ydy, mae o'n beth populist iawn i'w wneud yn y gogledd. Nid sblit de/gogledd sydd gennym ni yng Nghymru, ond mae yna wahaniaeth rhwng y dwyrain a'r gorllewin, lle mae yna gyfoeth yn y gogledd-ddwyrain ac yn y de-ddwyrain sydd angen cael ei ledaenu i rannau eraill o Gymru. Ond mae'n rhaid inni chwilio am ffyrdd o wneud hynny.
Mi soniaf i yn fyr am y regional renewal Bill yma, y Bil adnewyddu rhanbarthol, yng ngwelliant 4, yr ydym ni yn eiddgar iawn i'w weld yn digwydd. Mae ffigurau yn dangos i ni fod buddsoddiad mewn isadeiledd, mewn trafnidiaeth ac ati yn anghyson iawn yng Nghrymu ar hyn o bryd. Rydych chi wedi cyfeirio, Russell George, at ffigurau ynglŷn â'r diffyg tegwch yna rhwng buddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru. Beth fyddwn i'n dymuno ei weld ydy Bil yn cael ei ddatblygu lle y byddai yna reidrwydd ar Lywodraeth i ddangos ei bod hi'n ystyried tegwch a chyfartaledd rhanbarthol yn ei phenderfyniadau gwariant hi, yn yr un ffordd, mewn ffordd, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gorfodi'r Llywodraeth i feddwl a ydy ei phenderfyniadau hi yn llesol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mi ddylem ni fod yn meddwl yn rhanbarthol yn y ffordd yma, ac mi fyddwn i'n croesawu cael eich cefnogaeth chi i'r egwyddor o gael y math yna o Fil.
Mae'r cloc yn fy erbyn i, er fy mod i wedi cymryd ymyriad gan Russell George. Mae Siân Gwenllian yn mynd i fod yn siarad yn benodol am y cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer creu bwrlwm economaidd yng ngorllewin Cymru, ond mae'n rhaid inni fod yn glir pa fath o Gymru dŷn ni'n dymuno ei gweld. Mae'n gorfod bod yn Gymru sydd yn llewyrchus, wrth gwrs, ond sydd yn dod â'r llewyrch yna i bob rhan o'r wlad. Dyna pam dwi'n apelio arnoch chi gefnogi ein gwelliannau ni heddiw.
Roedd cefnogwyr datganoli ar ddiwedd y 1990au yn honni na ellid mynd i'r afael â methiant cymharol economi Cymru heb greu atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru. Yn anffodus, o dan weinyddiaethau Llafur Cymru olynol, nid yw hynny wedi digwydd. Mae economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi methu dal i fyny ag economi'r DU yn ei chyfanrwydd. O ganlyniad, Cymru yw'r wlad dlotaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu cau'r bwlch gwerth ychwanegol gros rhwng Cymru a Lloegr yn sylweddol, mae wedi methu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol sy'n dal i fodoli yng Nghymru.
Mae'r cyferbyniad yn amlwg iawn. Rhennir Cymru'n economaidd rhwng gogledd, de, dwyrain a gorllewin, trefol, gwledig a pha ffordd bynnag yr hoffech feddwl amdano. Yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, mae'r rhaniad yn glir. Yn 2017, roedd gwerth ychwanegol gros y pen yn llai na £15,000 yng Nghymoedd Gwent. Yng Nghasnewydd, roedd y ffigur dros £23,000 y pen. Os cymharwch werth ychwanegol gros y pen yr holl awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig, mae Blaenau Gwent ymhlith y pump isaf. Mae enillion yng Nghymru wedi aros yn is na gweddill y Deyrnas Unedig. Gan gymryd Blaenau Gwent fel enghraifft eto, telir llai na'r cyflog byw gwirfoddol i fwy na 30 y cant o weithwyr y fwrdeistref.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fentrau i geisio ymdrin â phroblem anghydraddoldeb rhanbarthol. Cafwyd teitlau mawreddog i bob un: 'Cymru'n Ennill', ' Cymru: Economi yn Ffynnu ', ' Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd ', ond nid oes yr un wedi cyrraedd y nod ac wedi cyflawni'r gweddnewidiad sydd ei angen ar economi Cymru.
Un enghraifft o'r methiant hwn yw'r adenillion gwael a gafwyd o bolisi Llywodraeth Cymru ar ardaloedd menter. Ers creu'r ardaloedd hyn yn 2012, dyrannwyd £221 miliwn o arian cyhoeddus i gefnogi'r polisi. Yng Nglyn Ebwy yn unig, gwariwyd bron i £95 miliwn ar greu, diogelu neu gynorthwyo 390 o swyddi'n unig. Er gwaethaf y chwistrelliad o arian cyhoeddus mawr, mae ardaloedd menter wedi methu cyflawni eu hamcanion allweddol.
Ddirprwy Lywydd, eu nod oedd meithrin gallu sectorau penodol o economi Cymru a denu arian i'r ardaloedd dynodedig hynny, ond maent wedi methu gwneud unrhyw effaith sylweddol ar dwf economaidd. Mae strategaethau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi addo archwilio a manteisio ar botensial creu swyddi buddsoddiadau seilwaith mawr. Fodd bynnag, mae un prosiect o'r fath gyda photensial i sicrhau manteision enfawr i'r economi yn dal i fod wedi'i fwrw o'r neilltu. Mae ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd wedi'i llethu gan ddull o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru sy'n gyfuniad o din-droi ac amhendantrwydd.
Mae'r Llywodraeth hon wedi colli ei diben a'i synnwyr o gyfeiriad. Nid yw'n syndod bod Alun Davies AC, nad yw yma ar hyn o bryd, wedi dweud ei bod, yn ei eiriau ef—ac rwy'n dyfynnu—
'yn symud i ffwrdd oddi wrth yr ymrwymiad hwnnw i ddiwygio ac… yn edrych ar y cyfenwadur lleiaf.'
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru angen strategaeth economaidd ar gyfer twf, un sy'n gwneud cynigion clir ac yn gosod targedau fel y gellir mesur y cynnydd tuag at y nodau hynny. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, bydd economi Cymru yn parhau i dangyflawni a byddwn yn parhau i nychu ar waelod y gynghrair economaidd.
Mae cydraddoldeb economaidd yn ymwneud â mwy nag arian a datblygu, ond hefyd ag addysg, cyflogaeth, gallu i ennill, incwm, tlodi a chyfoeth yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n byw o dan lefel tlodi yn llawer uwch yng Nghymru nag unrhyw genedl ddatganoledig arall yn y Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, o ran tlodi ymhlith plant dyma'r ardal waethaf yn y Deyrnas Unedig. Dosbarthiad cyfoeth—mae enillion y bobl gyfoethocaf yng Nghymru, y 10 y cant uchaf, yn is na £100,000. Felly, Ddirprwy Lywydd, credaf fod llawer o bethau y mae angen i'r Llywodraeth hon ei wneud cyn y gallwn ddweud bod gennym gydraddoldeb yng Nghymru—cydraddoldeb o ran dosbarthiad cyfoeth ymhlith pobl Cymru. Diolch i chi.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ddadl hon; nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am economi Cymru.
Ym Mhrydain, mae Llundain a de-ddwyrain Lloegr ymhlith y rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, a gorllewin Cymru a'r Cymoedd ymhlith y tlotaf. Yr unig ranbarthau a gwledydd i wneud cyfraniad net i'r Trysorlys yw Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Rydym hefyd yn gwybod bod Caerdydd yn darparu cyflogaeth sylweddol i'r ardaloedd cyfagos. Gwrandewch ar y radio yn y bore wrth deithio i Gaerdydd a siaradwch â phobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd—mae gennych dagfeydd traffig parhaus, mae gennych bobl wedi'u gwasgu ar y trenau. Pe bai Leanne Wood yma, rwy'n siŵr y byddai'n ymyrryd ac yn dweud bod ganddi hi brofiad personol o hynny. Ond a ddylai rhannau helaeth o dde Cymru fod yn cymudo i Gaerdydd yn unig?
Pe baem yn cael y drafodaeth hon 50 mlynedd yn ôl, byddem mewn gwlad lle roedd glo a dur yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl, lle byddent yn siarad am Hoover ym Merthyr ac am BP yng Nghastell-nedd Port Talbot fel cyflogwyr mawr. Mae dirywiad dur a glo a chyflogwyr mawr eraill wedi gadael bwlch enfawr yn economi Cymru, ac nid yw wedi cael ei lenwi'n ddigonol.
Gwyddom dri pheth am economi Cymru. Yn gyntaf, rydym yn wael am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawr, ond mae Admiral wedi dangos y gellir ei wneud. Yn ail, rydym yn tangyflawni o ran cyflogaeth mewn sectorau economaidd allweddol sy'n gysylltiedig â chyflogau uwch na'r cyfartaledd—TGCh a gwasanaethau proffesiynol yw dau ohonynt. Yn drydydd, nid yw'r cyfoeth economaidd hwnnw wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru.
Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi bargen ddinesig Abertawe yn frwd ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'n datblygu yn gyffredinol. Nod bargen ddinesig Abertawe yw mynd i'r afael â themâu a heriau integredig cyffredinol ynni, iechyd a lles a chyflymiad economaidd drwy harneisio pŵer trawsffurfiol rhwydweithiau digidol a sylfaen asedau bae Abertawe. Amcangyfrifir y gallai'r fargen ddinesig ddenu cyfanswm buddsoddiad o tua £3.3 biliwn o allbwn ac £1.3 biliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, a chynnal tua 39,000 o swyddi yn y rhanbarth. Hyd yn oed os yw'r fargen ddinesig yn cyflawni pob uchelgais a bod yr holl fuddsoddiadau a'r swyddi'n cael eu gwireddu, ni fydd yn datrys problemau economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe.
A gaf fi siarad, fel y gwnaf yn aml, am un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol ac sy'n meddu ar y gallu i greu cyfoeth enfawr, sef TGCh? Mae tueddiad i gwmnïau TGCh glystyru gyda'i gilydd, nid yn Nyffryn Silicon yn unig—ac os ydych chi erioed wedi edrych ar fap, nid oes dim yn arbennig am Ddyffryn Silicon ar wahân i'r ffaith bod rhai cwmnïau wedi dechrau yno a bod mwy a mwy wedi mynd yno. Nid oes unrhyw fanteision mawr yn perthyn i'r lle. Cawsom ddur yn ne Cymru am fod gennym y glo a'r mwyn haearn yma—nid oes ganddynt hwy fanteision mawr. Ond gwyddom eu bod yn clystyru gyda'i gilydd. Maent yn bodoli hefyd o amgylch prifysgol Caergrawnt—fe fyddwch yn dweud, 'Wel, ni ellir ein cymharu o ddifrif â Chaergrawnt'—ond hefyd, gemau cyfrifiadurol o amgylch Dundee. Nawr, rwy'n siŵr nad oes fawr iawn o leoedd yng Nghymru na ellir eu cymharu â Dundee. Yng Nghymru, mae mentrau canolig yn y sector wedi perfformio'n gryf gyda 92.8 y cant o gynnydd yn y trosiant rhwng 2005 a 2015. Mae angen troi rhai o'r cwmnïau TGCh canolig hyn yn gwmnïau TGCh mawr. Rydym yn gwybod bod TGCh yn sector sy'n talu cyflogau da a bod cyflwyno band eang cyflym iawn ledled rhanbarth bae Abertawe yn ei gwneud yn bosibl i gwmnïau TGCh ddatblygu.
Gydag ansawdd y graddedigion TGCh sy'n cael eu cynhyrchu ym mhrifysgolion Cymru, mae'n rhaid ei bod yn siomedig iawn fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth na gweddill y DU yn gweithio mewn cwmnïau TGCh. Os ydym i wneud dinas-ranbarth bae Abertawe a Chymru yn gartref amlwg ar gyfer TGCh, mae angen inni gadw'r graddedigion hyn. Rydym yn cynhyrchu'r graddedigion ardderchog hyn ac mae Llundain, Birmingham, Manceinion a Chaergrawnt yn cael y budd ohonynt. Mae angen i Gymru gael y budd ohonynt. Pe bai gan Gymru yr un gyfran o'i phoblogaeth yn gweithio mewn TGCh ag a geir yn y DU yn ei chyfanrwydd, byddai ganddi tua 40,000 yn fwy o weithwyr TGCh nag sydd ganddi. Byddai hynny'n cael effaith enfawr ar werth ychwanegol gros ledled Cymru.
Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly mae angen strategaeth ar gyfer buddsoddiad wedi'i dargedu er mwyn cael y swyddi cyflog uchel hyn. A yw'n bosibl? Pam fod gan Mannheim yn yr Almaen werth ychwanegol gros sydd oddeutu dair gwaith yr hyn sydd gan orllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae gan Aarhus yn Nenmarc werth ychwanegol gros sy'n agos at ddwywaith gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae'r lleoedd hyn yn llwyddiannus? Am fod ganddynt brosiectau a chynlluniau, ac maent yn dda am wneud pethau penodol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw canfod beth rydym yn ei wneud yn dda, a datblygu yn unol â hynny. Yn llawer rhy aml, rydym yn sôn am geisio cael—. Pe bawn yn gofyn beth yw prif sectorau economaidd Cymru, credaf ei fod wedi dod i gyfanswm o tua 80 y cant o economi Cymru y tro diwethaf imi edrych. Rydym angen sectorau allweddol, a hyrwyddo sectorau allweddol.
Yn olaf, os daliwch ati i wneud yr un peth, fe fyddwch yn cael yr un canlyniadau.
Ym mhwynt 1 ein cynnig, siaradwn am anghydraddoldeb cynyddol fel y'i dangosir gan werth ychwanegol gros, yna ym mhwynt 4(b) siaradwn am ein hamcan i dyfu cyflogau a thyfu ffyniant ledled Cymru. Hoffwn bwysleisio bod gwahaniaeth rhwng gwerth ychwanegol gros a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn edrych ar gynhyrchiant mewn ardal benodol. Fel y soniodd Mike, mae llawer o bobl yn cymudo i Gaerdydd o'r tu allan, a chaiff gwerth yr hyn a gynhyrchant ei gynnwys o fewn gwerth ychwanegol gros Caerdydd, yn hytrach na gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd, dyweder, yn achos rhai o'r cymudwyr hynny o'r Cymoedd. A chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio gydag ef, yn hytrach na rhywbeth y gallwn ei wrthsefyll yn synhwyrol. Roedd Mike yn iawn hefyd pan ddywedodd fod diwydiannau gwahanol—a nododd TGCh fel un sy'n talu'n dda—yn tueddu i glystyru gyda'i gilydd, ac mae'r duedd honno wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd a mwy diwethaf, ac rydym wedi gweld mwy o fanteision cydgrynhoi. Mae angen inni weithio gyda'r graen yn hynny o beth, yn hytrach na'i wrthsefyll, os ydym yn mynd i hybu cyflogau a ffyniant y bobl a gynrychiolwn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. A yw hynny'n rheswm digon da i chi gefnogi ein gwelliant heddiw sy'n galw am greu'r canolfannau cydgrynhoi hynny mewn sectorau amrywiol, mewn ardaloedd penodol o'r Gymru wledig yn benodol?
Nid wyf yn diystyru ei gefnogi; byddwn yn ystyried y ddadl ac yn gwneud penderfyniad. Ond mae'n anos creu manteision cydgrynhoi mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod y cydgrynhoad hwnnw'n galw am lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn lle cyfyng. Mae gennym hynny yng Nghaerdydd i ryw raddau, ac mae llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cymudo i Gaerdydd i swyddi sy'n talu'n eithaf da, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei gefnogi, ac mae parhau i lusgo traed fel hyn a methu gwneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yn un anghymhelliad mawr ac yn atal twf yn ninas-ranbarth Caerdydd a thu hwnt.
Yn yr un modd, rwy'n cefnogi metro de Cymru; credaf fod hwnnw'n syniad rhagorol. Edrychaf ymlaen at weld Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosibl. Eto, rydym hefyd yn gweld pobl yn cymudo i Fryste yn ne-ddwyrain Cymru, ac o ran hynny, mae dileu'r tollau ar bontydd Hafren yn hollol wych. Ac rydym yn gweld twf gwirioneddol sylweddol yng Nghasnewydd; mae mwy nag un o bob chwe chartref newydd yng Nghymru bellach yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd. Nawr, mae llawer o'r rheini'n gartrefi i bobl sy'n cymudo—unwaith eto, i swyddi sy'n talu'n gymharol dda, yn aml—yn ardal Bryste. Soniodd Mike am Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel rhai sy'n uwch na'r cyfartaledd, ond er nad yw Bryste'n rhanbarth, mae ei gwerth ychwanegol gros gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, ac unwaith eto mae'n dda ar gyfer y swyddi TG. Ac mae'n wirioneddol bwysig ar draws de Cymru—o Abertawe i Gaerdydd i Gasnewydd i Fryste—ein bod yn cysylltu'r ardal honno gyda'i gilydd fel rhanbarth yn well o lawer nag y gwnawn ar hyn o bryd, ac mae honno'n un ffordd bwysig iawn o hybu ffyniant, ar gyfer yr ardal honno o Gymru o leiaf.
A gaf fi droi'n fyr at y bargeinion dinesig? Roeddwn yn meddwl bod digwyddiad twf canolbarth Cymru yr wythnos diwethaf yn wych ac roeddwn yn falch iawn fod Russell wedi fy annog i fynd i hwnnw, a llongyfarchiadau iddo ef ac i eraill a oedd yn rhan o'r gwaith o arddangos yr holl fusnesau trawiadol hynny o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru. Ond dywedir wrthym nad oes ond tri busnes yn y rhanbarth hwnnw â mwy na 200 o weithwyr. Mae gan Geredigion a Phowys gyda'i gilydd boblogaeth lai o lawer nag unrhyw ranbarth arall rydym yn edrych arnynt ar gyfer bargeinion dinesig, ac rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen iddynt gofio hynny wrth ystyried sut i weithio gyda hwy. Ni allwn gael un templed unigol ar gyfer y modd y mae'r bargeinion hyn yn gweithio, a chredaf fod y ddau gyngor hynny angen llawer mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i weu'r fargen honno gyda'i gilydd a gwneud iddi weithio ar gyfer eu hardal leol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn gyflym, gwnaf.
Mae ganddynt ddwy brifysgol hefyd, ac efallai y gallem ddechrau defnyddio budd y prifysgolion hynny i helpu i ysgogi cyfoeth.
Cytunaf â phwynt yr Aelod. Dechreuodd y bargeinion dinesig yn ôl ym mis Gorffennaf 2012 pan gytunwyd ar yr wyth bargen gyntaf yn y DU. Nawr, roedd yr wyth yn Lloegr, ac yn cynnwys lleoedd fel Bryste a Nottingham, o faint tebyg i Gaerdydd a heb fod yn llawer mwy nag Abertawe. Pam y cymerodd gymaint o amser i'r cysyniad hwn gael ei ddatblygu yng Nghymru? Yn Lloegr, rhwng mis Gorffennaf 2012 a'r rhai cyntaf hynny, gwelsom 20 bargen arall yn dod i fodolaeth erbyn mis Gorffennaf 2014. Eto roedd hi'n fis Mawrth 2017 arnom yn gweld bargeinion Caerdydd ac Abertawe yn weithredol, ac rydym yn dal i weithio i gael bargen gogledd Cymru, a bargen canolbarth Cymru yn enwedig, i'r pwynt hwnnw. Felly, hoffwn ddweud fy mod yn falch o weld rhywfaint o ymrwymiad a chefnogaeth yn awr, ac rwy'n gobeithio y gwelwn ragor o hynny, ond pam y cymerodd gymaint o amser? A gadewch inni fwrw ymlaen a cheisio gwneud hyn ar fyrder.
Rydym newydd gael dwy araith ddiddorol iawn gan Mark Reckless a Mike Hedges, ac rwy'n cytuno â'r cyfan. Pe bai Mike Hedges yn arweinydd plaid wleidyddol, rwy'n aml yn meddwl y gallwn gael fy nhemtio i ymuno, oherwydd rwy'n aml yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yn y Siambr. Gobeithiaf nad yw'n hynny gwneud niwed angheuol i'ch gyrfa. Ond fe wnaeth rai pwyntiau cadarnhaol ac ymarferol iawn.
Mae'n rhy hawdd siarad ynglŷn â sut y mae Cymru ar waelod y gynghrair mewn cymaint o'r tablau economaidd a sut y mae wedi mynd tuag yn ôl yn yr 20 mlynedd diwethaf, a sut y ceir gwahaniaeth enfawr o ran incwm rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd, er enghraifft, a bod angen inni lenwi'r bwlch. Ond y gwir amdani yw bod angen i Gymru godi lefel creu cyfoeth yn yr economi a chodi lefelau incwm yn fwy cyffredinol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum—. Mae'n ddrwg gennyf.
Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi methu digwydd i raddau syfrdanol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr, nid wyf am lwytho'r bai i gyd ar Lywodraeth Lafur Cymru oherwydd, yn amlwg, nid yw'n meddu ar yr holl ysgogiadau a phwerau economaidd. Yn wahanol i Weriniaeth Iwerddon, er enghraifft, ni all leihau'r dreth gorfforaeth na newid strwythur y dreth i ffafrio rhai o ddiwydiannau twf y dyfodol. Ac mewn gwirionedd, dros y blynyddoedd, rwyf wedi dod i deimlo'n fwy cadarnhaol tuag at ddatganoli nag yr oeddwn 20 mlynedd yn ôl, nid yn unig oherwydd fy mod wedi fy ethol i'r lle hwn, ond o ddefnyddio datganoli mewn ffordd sy'n llawn dychymyg, a'i ymestyn mewn rhai ffyrdd hyd yn oed, gallaf weld y gallem newid y cefndir economaidd cyffredinol o ran trethiant a rheoleiddio i roi mantais gymharol i ni ein hunain—[Torri ar draws.]—o'i gymharu â'n cymdogion. Iawn, wrth gwrs.
Rydych chi'n hollol iawn i nodi'r dreth gorfforaeth fel un o'r prif bethau nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt, ond mae ganddynt gyfrifoldeb dros ardrethi busnes a gallai wneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fusnesau bach ar hyd a lled Cymru, ac eto maent wedi dewis peidio â gwneud hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Gellid dweud hynny am y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth gwrs, fod ardrethi busnes yn dreth eiddo sy'n gyfan gwbl hen ffasiwn a phrin fod unrhyw gysylltiad rhyngddi ag incwm pobl, ac felly eu gallu i dalu. Nid yw cyrraedd o lle'r ydym i lle'r hoffem fod o reidrwydd yn beth hawdd i'w wneud wrth gwrs, ond er hynny, i wlad fel Cymru sydd ar waelod y tabl o wledydd a rhanbarthau Lloegr, credaf fod angen inni gael rhyw fath o ymateb dychmygus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yn ogystal â Llywodraeth Cymru—sydd ag ysgogiadau pŵer economaidd yn ei dwylo, a byddai modd iddynt lunio rhyw fath o becyn ar gyfer Cymru, ac nid Cymru'n unig, ond ar gyfer yr Alban, ac ar gyfer rhanbarthau eraill yn Lloegr yn ogystal, i roi mantais gymharol iddynt, neu i leihau'r anfantais gymharol rydym wedi'i hetifeddu o hanes.
Fel y nododd Mike Hedges, collodd Cymru lawer o swyddi diwydiant trwm a oedd yn talu'n dda ac roeddent yn gyflogwyr llafur mawr, ac ni ddaeth dim yn eu lle a allai gymharu â hwy. Yn anffodus, nid yn unig oherwydd rheoliadau'r UE ond oherwydd—ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn yn frwd—mae gennym bolisi ynni wallgof yn y wlad hon, lle'r ydym yn mynnu ychwanegu at gostau diwydiant drwy drethi a thaliadau gwyrdd, a chaiff swyddi eu hallforio, yn enwedig mewn diwydiannau ynni-ddwys, i rannau eraill o'r byd nad ydynt yn pryderu cymaint ynghylch niwed amgylcheddol, hyd yn oed os ydych yn derbyn egwyddorion cynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl. Nid oes gennyf syniad pam y mae'n rhaid i'n diwydiant dur ymdopi â hyn. Fel y nodais sawl gwaith yn y gorffennol, nid yw'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i lefelau carbon deuocsid o amgylch y blaned, ac eto, fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig ac un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop, rydym yn rhan o'r byd na all fforddio'r math hwn o hunanfoddhad. Felly, rwy'n— [Torri ar draws.] Wel, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain; nid oes gennyf amser i fanylu arnynt yn awr, ond byddaf yn gwneud araith i'r perwyl hwnnw eto cyn hir, rwy'n siŵr.
Ond mae'r hyn a wnaeth y Llywodraeth, a'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud ar seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig y seilwaith rheilffyrdd, yn beth da iawn yn fy marn i, ac rwy'n sicr yn derbyn yr hyn a ddywedodd Mark Reckless ynglŷn â datrys y problemau traffig o amgylch Casnewydd. Os yw Cymru'n mynd i wneud ei hun yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, bydd hwylustod dod i mewn a mynd allan o Gymru yn gwbl allweddol. Ond mae'n rhaid i awyrgylch cyffredinol Cymru ddod yn fwy cadarnhaol a siriol a chyfeillgar tuag at fentrau yn fy marn i. Ceir llawer o ystadegau y gallwn eu dyfynnu ynghylch anallu cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf i ddenu entrepreneuriaid yma a busnesau a mentrau yn niwydiannau'r dyfodol, fel y nododd Mike Hedges yn gynharach. Ceir mwy o raglenwyr a chodwyr yn y DU nag yn Nyffryn Silicon a San Francisco ac yn y blaen. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr mai'r rhain yw diwydiannau'r dyfodol. Felly, mae arnaf ofn nad yr ateb yw mwy a mwy o wariant gan y Llywodraeth ond yn hytrach, llai o bwysau gan Lywodraethau ar bobl a busnesau. Dyna'r ffordd ymlaen i Gymru.
Dwi’n gobeithio y gall pawb ohonom ni gefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Yn 2017, fe wnaeth Adam Price a minnau gyhoeddi’r papur trafod yma, ‘Dyfodol y Gorllewin: Cydweithio er Lles yr Economi a’r Gymraeg’. Roedd yn amlinellu’r awydd i weld cynghorau sir y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr—yn gweithio efo’i gilydd ar faterion strategol datblygu economaidd.
Mae sefyllfa economaidd ac ieithyddol y gorllewin wedi cyrraedd pwynt argyfyngus—allfudo pobl ifanc, lefelau incwm y pen yn isel, ymhlith yr isaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi, y Gymraeg fel iaith gymunedol yn edwino, a Brexit yn bygwth dyfodol amaeth a’r cymunedau cefn gwlad a phrifysgolion yr ardal hefyd. Mae’r heriau yn fawr ac mae angen atebion brys.
Fe lwyddodd Plaid Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i neilltuo £2 filiwn tuag at y gwaith cychwynnol, ac mae egin rhanbarth economaidd y gorllewin—Arfor—bellach wedi ei sefydlu. Mae’r cysyniad yn cydio ac yn gwreiddio. Bydd yn gallu mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen, a gweledigaeth Plaid Cymru ydy creu rhanbarth economaidd gref yn y gorllewin, a fydd yn gweithredu ymyraethau economaidd effeithiol er mwyn taclo rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu’r ardal wledig, Gymreig yma. Mi fydd y rhanbarth yn cynnwys ardaloedd twf megis ardal y Fenai, sydd yn cwmpasu rhan o fy etholaeth i yn Arfon.
Mae’r Torïaid, ac, fe ymddengys, y Llywodraeth Lafur hon hefyd, yn rhoi llawer iawn o’u sylw ar y dinasoedd rhanbarth. Dydy hynny ddim yn mynd i gryfhau’r mwyafrif o ardaloedd sydd yn fregus yn economaidd yng Nghymru. Mae’n strategaeth datblygu economaidd wallus yn fy marn i, am ei bod yn un sy’n dilyn ideoleg y farchnad rydd. Pen draw creu’r dinasoedd rhanbarthol ydy sugno twf i ardaloedd sydd yn tyfu’n barod, gan amddifadu’r ardaloedd gwledig a’r ardaloedd difreintiedig o'r gefnogaeth economaidd sydd ei hangen. Ac i mi, dylai’r strategaeth economaidd fod yn cefnogi’r ardaloedd a’r boblogaeth sydd angen cefnogaeth. Ond, ar hyn o bryd, polisi 'i’r pant y rhed y dŵr' sydd ar waith: crynhoi adnoddau mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu.
Felly, diolch byth am yr egin Arfor. Mae bwrdd Arfor wedi cael ei sefydlu rhwng y bedair sir, ac fe gytunwyd ar ddatganiad o bwrpas, sef gweithio mewn partneriaeth i sefydlu fframwaith lle bydd datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn cael eu cydgysylltu. Fe fydd cynllun strategol yn cael ei baratoi fydd yn gosod gweledigaeth hirdymor a ffordd o weithio i gyflawni ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru. Yn ogystal, fe fydd ystod o brosiectau yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso er mwyn canfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o greu ffyniant economaidd ar lawr gwlad, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn datblygu.
Megis dechrau mae hyn. Mae Arfor yn wrthbwynt pwysig i’r dinasoedd rhanbarth a’r ardaloedd twf, ac mae’n haeddu cael ei chydnabod yn llawn fel y gall datblygu’n bwerdy grymus gorllewinol i’r dyfodol.
Wel, mae Neil Hamilton yn galw ar bawb ohonom i fod yn fwy siriol ac rydym wedi cyrraedd y pwynt gyda'r nos pan fo Mike Hedges yn cael ei annog i greu plaid wleidyddol newydd. Felly, credaf ei bod hi'n amlwg yn bryd i bawb ohonom bacio'n bagiau a dirwyn y ddadl hon i ben, a byddaf yn caniatáu—[Torri ar draws.]—i fy nghyd-Aelod wneud hynny wedi i'r Gweinidog siarad.
Edrychwch, fel y dywedodd Mohammed Asghar, rwy'n credu, tuag at ddechrau'r ddadl hon, mae 2019 yn nodi 20 mlynedd ers datganoli, ac rydym yn cofio rhai o'r addewidion mawr a roddwyd i ni yn ôl ar ddechrau'r broses honno. Un o'r prif addewidion, wrth gwrs, oedd y byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar ei hysgogiadau economaidd ac y byddai'n gallu hybu'r economi. Wel, a bod yn deg â'r Cynulliad cynnar hwnnw, roedd y pwerau'n gyfyngedig. Rydym yn sefyll ar groesffordd yn awr gyda datganoli pwerau treth a mwy o adnoddau at ein defnydd, ac rydym wedi bod trwy lawer o refferenda i ymestyn pwerau.
Fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl hon, mae angen inni hybu ffyniant economaidd ardaloedd tlotaf Cymru—dyna yw hanfod y ddadl hon. Ac nid oes un ateb cyflym. Nid oes lle i ystrydebau ac esgus bod gan unrhyw blaid unigol yma yr atebion i gyd, ac y byddech, drwy wneud dim mwy na newid polisïau dros nos yn cyrraedd y wlad hudol honno nad yw'n bodoli. Yr unig ffordd o ddatrys y sefyllfa hon yw drwy gefnogi mentrau bach a chanolig a hefyd drwy ddatblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth, ac nid ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn unig, ond band eang hefyd, ac nid wyf yn meddwl bod hwnnw wedi cael sylw heddiw, a sicrhau bod ein seilwaith digidol—mae'n ddrwg gennyf, Mike, fe sonioch chi amdano; un o bolisïau eich maniffesto, yn amlwg, ar gyfer y blaid newydd—datblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n seilwaith band eang mewn ardaloedd trefol a gwledig. Oherwydd, oes, mae yna ddiffyg cydraddoldeb rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru, a'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin, ond nid oes modd datrys hynny ag un ateb cyflym.
Rhaid i'r pwerau trethu newydd fod yn rhan o'r ateb, gan gynyddu atebolrwydd y lle hwn ar y naill law, a defnyddio pwerau benthyca newydd i fuddsoddi mewn seilwaith—ac wrth gwrs, mae datblygu sylfaen dreth gystadleuol a chynaliadwy sy'n annog creu cyfoeth yn allweddol, oherwydd, heb ddatblygu'r dulliau hynny o greu cyfoeth, ni fydd gennych gyfoeth i'w rannu; ni fydd gennych gyfoeth i'w drethu ac i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hollbwysig. Ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd y Gweinidog Cyllid i gadw treth incwm ar yr un lefel â lefelau Lloegr tan etholiad nesaf y Cynulliad fan lleiaf. Fel y dywedodd y Prif Weinidog tuag at ddiwedd ei gyfnod fel Gweinidog Cyllid: os ydych yn codi cyfradd sylfaenol treth incwm, rydych yn mynd ag arian oddi wrth y bobl sydd leiaf tebygol o allu ei fforddio a hynny mewn cyfnod heriol. A gwyddom nad oes digon o drethdalwyr ar y gyfradd uwch yng Nghymru ar hyn o bryd—cyfran lawer is yma nag yn Lloegr—i allu trethu'r rheini mewn unrhyw ffordd sy'n debyg i'r hyn a fyddai'n angenrheidiol er mwyn codi'r math o arian y byddai ei angen heb gynyddu twf economaidd mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni dyfu'r sylfaen drethu.
Crybwyllwyd dinas-ranbarth Caerdydd, a rhanbarth Abertawe mewn gwirionedd, ac rwy'n derbyn pwynt Mike Hedges: mae'r dinas-ranbarthau'n iawn, ond rhaid inni edrych ar y cwmnïau o fewn y dinas-ranbarthau hynny, ac nid oes unrhyw werth mewn cael llawer o fentrau bach a chanolig o'r math y mae pawb ohonom am eu hannog os oes toriad wedyn rhwng bod y cwmnïau hynny'n mynd ymlaen i fod yn gwmnïau gwirioneddol fawr ar y llwyfan Ewropeaidd, ac yn wir ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, mae angen edrych ar bob math o bethau, ac fel rwy'n dweud, nid wyf yn credu bod un polisi unigol yn bodoli a fydd yn gwella hyn. Ken Skates, Gweinidog yr economi, sy'n mynd i fod yn ymateb i'r ddadl hon, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi cwmpasu pob portffolio a phob adran weinidogol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd—mae'n un o'r dadleuon hynny. Ond mae un peth yn glir: mae angen i'r 20 mlynedd nesaf o ddatganoli gyflawni twf economaidd a ffyniant cynyddol mewn ffordd na wnaeth yr 20 mlynedd diwethaf.
Credaf ein bod yn sefyll ar groesffordd o ran datganoli pan fydd yr adegau pan allwn droi a dweud, 'Nid oes gan y lle hwn bwerau i allu cyflawni hynny', y tu ôl i ni a mater i'r bobl yn y Siambr hon fydd gwneud yn siŵr y byddwn yn cyflawni'r math o welliant yn economi Cymru y mae pawb ohonom am ei weld. Nid oes raid i chi roi ffurflen aelodaeth plaid newydd i mi eto, Mike Hedges, ond rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ac unrhyw Aelod o'r Siambr hon sydd am symud Cymru ymlaen yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n fraint ac yn anrhydedd gallu ymateb i'r Aelodau yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau a chredaf fod Nick Ramsay yn llygad ei lle: mae ffyniant yn dibynnu ar fwy na'r dulliau sydd gan un adran o fewn y Llywodraeth at ei defnydd. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon.
Ar y cychwyn, hoffwn ddweud y bydd ein dull newydd o weithredu a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, yn galluogi pob rhan o Gymru i ddatblygu eu cryfderau ac i fanteisio ar eu cyfleoedd fel eu bod yn gwneud mwy o gyfraniad i gyfoeth a lles yn genedlaethol, ond er mwyn iddynt hwythau hefyd elwa mwy drwy wneud hynny. Bydd dull mwy effeithiol a chydweithredol o weithredu ar ddatblygu economaidd rhanbarthol yn sicr o helpu i fynd i'r afael â hyn, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno prif swyddogion rhanbarthol, a pham ein bod yn sefydlu tair uned ranbarthol o dan eu harweinyddiaeth. Mae Russell George yn llygad ei le i fynnu bod ganddynt ddigon o adnoddau dynol ac ariannol, ac fe ddywedaf ragor am hynny yn y man.
Bydd yr unedau'n cefnogi gwaith i atgyfnerthu strwythurau llywodraethu rhanbarthol, aliniad effeithiol y dulliau ar draws adrannau'r Llywodraeth a datblygu cynlluniau rhanbarthol wedi'u cydgynhyrchu. Credaf mai'r prif swyddogion rhanbarthol a'u timau yw'r glud sy'n helpu i rwymo'r rhanbarthau gyda'i gilydd o amgylch achos cyffredin ac undod o ran ein diben, gan sicrhau arweinyddiaeth a chydlyniant i'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar lefel ranbarthol. Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, rôl y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn sbarduno twf rhanbarthol. Nid yw bargeinion dinesig a thwf yn ateb i bopeth, ond mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, cyhyd â'u bod wedi'u cydlynu'n effeithiol ochr yn ochr ag ymyriadau ehangach, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pob rhan o Gymru'n teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn y fenter hon, a dyna pam ein bod yn cefnogi uchelgais gogledd Cymru a chanolbarth Cymru ar gyfer eu bargeinion twf.
Ni ddylid eu gweld fel cyfryngau cyllido prosiectau yn unig, er hynny. Maent yn arfau allweddol ar gyfer darparu fframwaith sy'n caniatáu i ranbarthau ysgogi ffordd newydd o weithio'n gydweithredol, gan bennu blaenoriaethau fel un llais a chyflawni swyddogaethau hanfodol ar lefel strategol. Mae angen i bob rhanbarth nodi eu blaenoriaethau ac ysgwyddo cyfrifoldeb am ysgogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Dywedwyd llawer am yr ymdrechion yng nghanolbarth Cymru a gogledd Cymru, a hoffwn annog pob partner sy'n hyrwyddo'r bargeinion i sicrhau bod unrhyw fargen yn dangos y budd i'w rhanbarth cyfan, a'u bod yn weddnewidiol, yn uchelgeisiol ac yn wirioneddol uchelgeisiol.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Yn fyr, mae yna brosiectau, wrth gwrs, nad ydynt yn ymwneud â'r bargeinion. Argymhellais un, a awgrymwyd ddoe, ar Ynys Môn—ailagor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch—math pwysig o brosiect gweddnewidiol. Roeddwn yn siomedig fod y Llywodraeth a'ch meinciau chi wedi pleidleisio yn erbyn fy ngwelliant ddoe, ond fe roddaf un cyfle arall i chi ddweud bod y Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda ni ar roi ffocws newydd i ddatblygu'r prosiect penodol hwnnw, a fyddai'n weddnewidiol, fel rwy'n dweud, i'r rhanbarth hwnnw.
Wel, a gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn? Buaswn wrth fy modd yn gweld llawer o'n rheilffyrdd yn ailagor, gan gynnwys rheilffordd Amlwch. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn mynd ar drywydd arian Llywodraeth y DU sydd ei angen er mwyn agor llinellau rheilffyrdd mewn ffordd sy'n arwain at awdurdodau lleol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, ac wrth wneud hynny, ein bod yn datblygu dulliau strategol o weithredu er mwyn cael y cyfle gorau i sicrhau cyllid sy'n gystadleuol iawn.
Ddirprwy Lywydd, anaml y byddwch yn fy nghlywed yn cytuno mor sylfaenol â Russell George o ran yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'n strategaeth economaidd, ond fe soniodd, yn y bôn, am yr hyn sy'n ganolog i'r cynllun gweithredu economaidd, sef bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn tyfu ein cyfoeth a'n lles gyda'i gilydd, gan leihau'r anghydraddoldebau yn y ddau hefyd. Ond fel y dywedais ddoe, er mwyn dileu anghydraddoldeb ar draws economi'r DU, rydym angen modelau ariannu sy'n seiliedig ar fwy na chanlyniadau economaidd yn unig, oherwydd bydd y modelau hynny bob amser yn sicrhau bod gwariant ar seilwaith a gwariant ar ymchwil ac arloesi yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd eisoes yn gyfoethog, yn ne-ddwyrain Lloegr, ac wrth gwrs, yn y triongl euraid. Yn lle hynny, mae angen inni gael model ariannu newydd sy'n cefnogi twf cynhwysol a theg. Mae hynny'n golygu ariannu tecach nid yn unig i Gymru, ond i lawer o ranbarthau Lloegr hefyd.
Ond wrth gwrs, dylem wneud mwy na phregethu am hyn, dylem ddangos arweinyddiaeth ein hunain. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau fod cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu sefydlu ym mhortffolio'r economi a thrafnidiaeth. Cânt eu cyhoeddi y gwanwyn hwn, ac rwy'n ystyried hon yn rhan bwysig o'n dull o sicrhau dimensiwn mwy rhanbarthol i'n gwaith, a chyfran deg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar draws y rhanbarthau wrth gwrs. Nid yw'r datblygiad hwn yn galw am ddeddfwriaeth, fel sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru, ond mae'n galw am benderfyniad gweinidogol i sicrhau bargen deg ar gyfer rhanbarthau Cymru ar adeg pan ydym yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael bargen deg.
A wnewch chi dderbyn ymyriad pellach?
Gwnaf, wrth gwrs.
Gwneuthum y pwynt yn gynharach mai'r syniad y tu ôl i'n Bil adnewyddu rhanbarthol yw rhoi'r math o ffocws i Lywodraeth y mae'r Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei roi ichi. Gallech wneud hynny i gyd heb y ddeddfwriaeth, ond mae'r ddeddfwriaeth yn helpu.
Gall deddfwriaeth helpu, ond nid yw'n angenrheidiol, fel y dangoswyd gan fy mhenderfyniad i sefydlu'r cyllidebau rhanbarthol dangosol.
Ddirprwy Lywydd, fe roddaf gyfle i Rhun ap Iorwerth a Siân Gwenllian ymateb i mi, oherwydd credaf fod yna gynnig i ailddosbarthu cyfoeth o fewn Cymru, o fewn Cymru'n unig. Roedd yna sôn sut nad oes gwahaniaethau rhwng y gogledd a'r de, ond bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin, ac felly mae angen inni ledaenu cyfoeth o'r dwyrain i'r gorllewin. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd fod—. Rwy'n mynd i swnio'n fwy o genedlaetholwr na'n cyfeillion a'n cyd-Aelodau yn awr. Buaswn yn dadlau mewn gwirionedd, os oes unrhyw ailddosbarthu, unrhyw ledaenu cyfoeth, fod yn rhaid iddo fod o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru, oherwydd os ydym am dyfu cyfoeth yn ei grynswth, rhaid inni ledaenu cyfoeth i ffwrdd oddi wrth y rhan gyfoethocaf o'r DU o bell ffordd ar hyn o bryd.
Yn y pen draw, hoffwn roi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Drwy wneud hynny, fodd bynnag, y perygl yw ein bod yn mynd i efelychu'n union yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU—hynny yw, fod popeth yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr—yng Nghymru, gyda phopeth yn cael ei grynhoi mewn un cornel o Gymru. Dyna'r broblem fawr sy'n ein hwynebu.
Ddirprwy Lywydd, dyna'n union pam y dywedais ein bod yn sefydlu'r unedau rhanbarthol a'r cyllidebau rhanbarthol dangosol, er mwyn sicrhau bod gennym fodel ariannu gwahanol i'r un sy'n gweithredu o fewn Llywodraeth y DU, sydd yn ei dro yn sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi'n decach mewn seilwaith ledled Cymru. Gadewch inni wynebu'r gwir: seilwaith a'r ddarpariaeth o sgiliau sy'n hybu twf economaidd. Dyna'r ddau ffactor mawr. Felly, os oes gennych fwy o ariannu teg ar draws gwlad, bydd gennych fwy o dwf economaidd sy'n gynhwysol ar draws y wlad honno. Credaf ein bod yn dangos i'r byd pa ffordd i fynd, a dyna pam yr ydym wedi gwahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i asesu llwyddiant y cynllun gweithredu economaidd yn erbyn ein huchelgeisiau i sbarduno twf cynhwysol.
Mae'n werth dweud mewn amgylchedd ôl Brexit, wrth gwrs, ein bod yn disgwyl i Gymru beidio â cholli'r un geiniog goch o ran y buddsoddiad y byddem yn ei ddisgwyl, ac rydym am weld penderfyniadau ar ddatblygu economaidd a buddsoddi'n cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yn 2017, wrth gwrs, fe gyhoeddasom bapur ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, ac mae'r papur hwnnw yn galw am barhau i wneud penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru, gan awdurdodau lleol, a thrwy strwythurau rhanbarthol sy'n datblygu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. A gaf fi ddweud fy mod yn credu, yn gyffredinol, ar draws y Siambr, fod yr Aelodau wedi nodi pob un o'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno twf economaidd? Caiff pob un o'r ffactorau allweddol hynny eu hymgorffori o fewn y cynllun gweithredu economaidd, a hoffwn wahodd yr Aelodau nad ydynt wedi darllen y strategaeth honno i wneud hynny ar fyrder.
A gaf fi alw ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl?
Diolch. Dechreuodd Russell George drwy nodi bod polisïau Llywodraeth Cymru dros 20 mlynedd wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau yng Nghymru, a chroesawodd fargen prifddinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth bae Abertawe, bargen twf gogledd Cymru, a'r posibiliadau ar gyfer bargen twf canolbarth Cymru. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sydd nid yn unig yn ymgorffori cynnig canolbarth Cymru, ond sydd hefyd yn cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru lle bynnag y maent. Nododd y bwlch gros y pen rhwng gogledd-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru yn enwedig. Nododd fod gwerth ychwanegol gros y pen ar Ynys Môn bron yn hanner gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghaerdydd, ac yn anffodus, Ynys Môn yw'r ardal dlotaf y pen yng Nghymru o hyd o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Soniodd am gyfraddau twf gwael iawn yn y rhannau lleiaf cefnog o Gymru o'i gymharu â thwf yn rhai o'r rhannau lleiaf cefnog o Loegr, a soniodd am amlygu'r angen am strategaeth economaidd effeithiol i fynd i'r afael â hyn.
Dechreuodd Rhun ap Iorwerth gydag amddiffyniad rhyfedd o berfformiad Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y sylwadau a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn â bod cyfoeth y pen ar Ynys Môn ond yn hanner yr hyn a geir yng Nghaerdydd. Soniodd am anghydraddoldeb. Soniodd am yr angen i ddod â ffyniant i bob rhan o'r genedl Gymreig.
Nododd Mohammad Asghar fod economi Cymru wedi tangyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf, mai hi yw'r economi dlotaf yn y DU o hyd a'i bod wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, a bod teitlau gwefreiddiol cynlluniau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwrth-ddweud y methiant i gyflawni. Soniodd am lefelau incwm is a lefelau tlodi uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.
Dywedodd Mike Hedges nad oedd y bwlch yn economi Cymru wedi ei lenwi, fod tangyflawniad i'w weld mewn sectorau sy'n talu cyflogau uwch, ac os ydym yn mynd i ddal ati i wneud yr un peth, fe fyddwn yn parhau i gael yr un canlyniadau. Wel, yn hytrach na ffurfio eich plaid eich hun, rwy'n credu y gallech ymuno â ni, oherwydd dyna'n union yw ein barn ninnau hefyd. [Chwerthin.] Mike.
Rwy'n gobeithio y bydd fy mhlaid i'n cefnogi twf mewndarddol, oherwydd credaf mai dyna'r unig ffordd y gallwn symud ein heconomi yn ei blaen. A ydych yn cytuno?
Wel, mae'n mynd â mi yn ôl i ddarlithoedd economaidd ar gromliniau twf mewndarddol, ond nid af i mewn i hynny yn awr.
Soniodd Mark Reckless am y gwahaniaeth o ran diffiniad rhwng gwerth ychwanegol gros—gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul y pen o'r boblogaeth—a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn nodi lle y cynhyrchir gwerth mewn nwyddau a gwasanaethau ac nid o reidrwydd o ble y bydd pobl yn cymudo. Felly, rhaid inni edrych ar y darlun cyfan.
Siaradodd Neil Hamilton am yr angen i godi lefelau incwm yn gyffredinol. Dywedodd nad yw Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael i Iwerddon, er enghraifft, ond wrth gwrs, mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl y gwledydd a'r rhanbarthau lle mae'r un polisïau ar gyfer y DU yn weithredol. Ac yna allyrrodd ei syniadau ynghylch allyriadau, ac rwy'n deall bod yn rhaid inni edrych ymlaen at ragor o hynny yn y dyfodol. Daeth i ben drwy ddweud bod angen inni atal Llywodraethau rhag rhoi pwysau ar fusnesau a'r bobl.
Soniodd Siân Gwenllian am gydweithredu economaidd rhwng cynghorau'r gorllewin, ond wrth gwrs, mae cynghorau yng ngogledd-orllewin Cymru eisoes wedi bod mor ddoeth â chefnogi bargen twf gogledd Cymru ac yn amlwg, mae cydweithrediad a chydweithio ar draws pob rhanbarth yn dda oni bai ei fod dan fygythiad, a thynnodd sylw'n briodol at yr angen am ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru.
Soniodd Nick Ramsay am yr addewidion a wnaed ar ddechrau datganoli gyda Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am ysgogiadau economaidd, ond mae angen inni dreulio'r 20 mlynedd nesaf yn cyflawni'r hyn rydym wedi methu ei wneud yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf. Mae angen inni hybu ffyniant economaidd yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ond nid oes un ateb cyflym, yn enwedig ar ôl y ddau ddegawd diwethaf. Yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig, trafnidiaeth a rhwydweithiau digidol mewn ardaloedd trefol a gwledig, a soniodd am yr angen i ddefnyddio pwerau trethu a benthyca newydd i greu'r cyfoeth y gellir ei drethu a'i wario wedyn ar wasanaethau cyhoeddus.
Cyfeiriodd Ken Skates at y modd y bydd ei gynllun gweithredu economaidd yn cyrraedd rhannau eraill y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu eu cyrraedd yn ystod ei dau ddegawd cyntaf mewn grym. Soniodd am waith da ar y lefel ranbarthol, gan gynnwys bargeinion dinesig a bargeinion twf, am ei gyllidebau rhanbarthol dangosol sy'n cael eu datblygu. Cytunai â Russell George fod angen inni gynyddu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau a dywedodd fod angen inni symud cyfoeth o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru. Ond roeddwn i'n deall mai'r trethi a delir yn ne-ddwyrain Lloegr sydd ar hyn o bryd yn llenwi'r bwlch rhwng y swm y mae Cymru yn ei dalu i mewn a'r swm yr oedd yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Yn drasig, Cymru yw'r lleiaf cynhyrchiol o 12 rhanbarth a gwlad y DU o hyd. Hyd yn oed yn fwy brawychus, o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir y pen yng Nghymru, bu'r twf yn arafach na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr unwaith eto. Yr unig beth cadarnhaol y gallaf ei weld oedd mai yn Sir y Fflint a Wrecsam y cafwyd y twf mwyaf yng Nghymru, ond roedd yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn datganoli. A dweud y gwir, mae anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru fel y mae yn frad, gyda Llywodraethau Llafur olynol yn methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o'r wlad.
Hoffwn gloi drwy ddyfynnu erthygl ar WalesOnline ddoe yn cyfweld pobl yng Nglynebwy. Cofnodwyd yr un ymatebion gan breswylwyr, perchnogion busnesau, cynghorwyr, cadeirydd fforwm busnes ac eraill fel ei gilydd: eu bod wedi cael cerflun hyfryd, canopi gwydr hyfryd yn lle'r hen un, lifft mecanyddol sy'n cysylltu un rhan o'r dref i'r llall, canolfan hamdden newydd, coleg newydd, ond er gwaethaf y miliynau a wariwyd ar brosiectau adfywio rhanbarthol, nid oedd wedi gwneud yr hyn oedd ei angen arnynt—dod â swyddi a busnesau i mewn.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. O'r gorau, iawn.