Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ddadl hon; nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am economi Cymru.
Ym Mhrydain, mae Llundain a de-ddwyrain Lloegr ymhlith y rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, a gorllewin Cymru a'r Cymoedd ymhlith y tlotaf. Yr unig ranbarthau a gwledydd i wneud cyfraniad net i'r Trysorlys yw Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Rydym hefyd yn gwybod bod Caerdydd yn darparu cyflogaeth sylweddol i'r ardaloedd cyfagos. Gwrandewch ar y radio yn y bore wrth deithio i Gaerdydd a siaradwch â phobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd—mae gennych dagfeydd traffig parhaus, mae gennych bobl wedi'u gwasgu ar y trenau. Pe bai Leanne Wood yma, rwy'n siŵr y byddai'n ymyrryd ac yn dweud bod ganddi hi brofiad personol o hynny. Ond a ddylai rhannau helaeth o dde Cymru fod yn cymudo i Gaerdydd yn unig?
Pe baem yn cael y drafodaeth hon 50 mlynedd yn ôl, byddem mewn gwlad lle roedd glo a dur yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl, lle byddent yn siarad am Hoover ym Merthyr ac am BP yng Nghastell-nedd Port Talbot fel cyflogwyr mawr. Mae dirywiad dur a glo a chyflogwyr mawr eraill wedi gadael bwlch enfawr yn economi Cymru, ac nid yw wedi cael ei lenwi'n ddigonol.
Gwyddom dri pheth am economi Cymru. Yn gyntaf, rydym yn wael am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawr, ond mae Admiral wedi dangos y gellir ei wneud. Yn ail, rydym yn tangyflawni o ran cyflogaeth mewn sectorau economaidd allweddol sy'n gysylltiedig â chyflogau uwch na'r cyfartaledd—TGCh a gwasanaethau proffesiynol yw dau ohonynt. Yn drydydd, nid yw'r cyfoeth economaidd hwnnw wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ledled Cymru.
Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi bargen ddinesig Abertawe yn frwd ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'n datblygu yn gyffredinol. Nod bargen ddinesig Abertawe yw mynd i'r afael â themâu a heriau integredig cyffredinol ynni, iechyd a lles a chyflymiad economaidd drwy harneisio pŵer trawsffurfiol rhwydweithiau digidol a sylfaen asedau bae Abertawe. Amcangyfrifir y gallai'r fargen ddinesig ddenu cyfanswm buddsoddiad o tua £3.3 biliwn o allbwn ac £1.3 biliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, a chynnal tua 39,000 o swyddi yn y rhanbarth. Hyd yn oed os yw'r fargen ddinesig yn cyflawni pob uchelgais a bod yr holl fuddsoddiadau a'r swyddi'n cael eu gwireddu, ni fydd yn datrys problemau economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe.
A gaf fi siarad, fel y gwnaf yn aml, am un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol ac sy'n meddu ar y gallu i greu cyfoeth enfawr, sef TGCh? Mae tueddiad i gwmnïau TGCh glystyru gyda'i gilydd, nid yn Nyffryn Silicon yn unig—ac os ydych chi erioed wedi edrych ar fap, nid oes dim yn arbennig am Ddyffryn Silicon ar wahân i'r ffaith bod rhai cwmnïau wedi dechrau yno a bod mwy a mwy wedi mynd yno. Nid oes unrhyw fanteision mawr yn perthyn i'r lle. Cawsom ddur yn ne Cymru am fod gennym y glo a'r mwyn haearn yma—nid oes ganddynt hwy fanteision mawr. Ond gwyddom eu bod yn clystyru gyda'i gilydd. Maent yn bodoli hefyd o amgylch prifysgol Caergrawnt—fe fyddwch yn dweud, 'Wel, ni ellir ein cymharu o ddifrif â Chaergrawnt'—ond hefyd, gemau cyfrifiadurol o amgylch Dundee. Nawr, rwy'n siŵr nad oes fawr iawn o leoedd yng Nghymru na ellir eu cymharu â Dundee. Yng Nghymru, mae mentrau canolig yn y sector wedi perfformio'n gryf gyda 92.8 y cant o gynnydd yn y trosiant rhwng 2005 a 2015. Mae angen troi rhai o'r cwmnïau TGCh canolig hyn yn gwmnïau TGCh mawr. Rydym yn gwybod bod TGCh yn sector sy'n talu cyflogau da a bod cyflwyno band eang cyflym iawn ledled rhanbarth bae Abertawe yn ei gwneud yn bosibl i gwmnïau TGCh ddatblygu.
Gydag ansawdd y graddedigion TGCh sy'n cael eu cynhyrchu ym mhrifysgolion Cymru, mae'n rhaid ei bod yn siomedig iawn fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth na gweddill y DU yn gweithio mewn cwmnïau TGCh. Os ydym i wneud dinas-ranbarth bae Abertawe a Chymru yn gartref amlwg ar gyfer TGCh, mae angen inni gadw'r graddedigion hyn. Rydym yn cynhyrchu'r graddedigion ardderchog hyn ac mae Llundain, Birmingham, Manceinion a Chaergrawnt yn cael y budd ohonynt. Mae angen i Gymru gael y budd ohonynt. Pe bai gan Gymru yr un gyfran o'i phoblogaeth yn gweithio mewn TGCh ag a geir yn y DU yn ei chyfanrwydd, byddai ganddi tua 40,000 yn fwy o weithwyr TGCh nag sydd ganddi. Byddai hynny'n cael effaith enfawr ar werth ychwanegol gros ledled Cymru.
Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly mae angen strategaeth ar gyfer buddsoddiad wedi'i dargedu er mwyn cael y swyddi cyflog uchel hyn. A yw'n bosibl? Pam fod gan Mannheim yn yr Almaen werth ychwanegol gros sydd oddeutu dair gwaith yr hyn sydd gan orllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae gan Aarhus yn Nenmarc werth ychwanegol gros sy'n agos at ddwywaith gwerth ychwanegol gros gorllewin Cymru a'r Cymoedd? Pam y mae'r lleoedd hyn yn llwyddiannus? Am fod ganddynt brosiectau a chynlluniau, ac maent yn dda am wneud pethau penodol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw canfod beth rydym yn ei wneud yn dda, a datblygu yn unol â hynny. Yn llawer rhy aml, rydym yn sôn am geisio cael—. Pe bawn yn gofyn beth yw prif sectorau economaidd Cymru, credaf ei fod wedi dod i gyfanswm o tua 80 y cant o economi Cymru y tro diwethaf imi edrych. Rydym angen sectorau allweddol, a hyrwyddo sectorau allweddol.
Yn olaf, os daliwch ati i wneud yr un peth, fe fyddwch yn cael yr un canlyniadau.