Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 6 Chwefror 2019.
Nid wyf yn diystyru ei gefnogi; byddwn yn ystyried y ddadl ac yn gwneud penderfyniad. Ond mae'n anos creu manteision cydgrynhoi mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod y cydgrynhoad hwnnw'n galw am lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd mewn lle cyfyng. Mae gennym hynny yng Nghaerdydd i ryw raddau, ac mae llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cymudo i Gaerdydd i swyddi sy'n talu'n eithaf da, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei gefnogi, ac mae parhau i lusgo traed fel hyn a methu gwneud penderfyniad ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yn un anghymhelliad mawr ac yn atal twf yn ninas-ranbarth Caerdydd a thu hwnt.
Yn yr un modd, rwy'n cefnogi metro de Cymru; credaf fod hwnnw'n syniad rhagorol. Edrychaf ymlaen at weld Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosibl. Eto, rydym hefyd yn gweld pobl yn cymudo i Fryste yn ne-ddwyrain Cymru, ac o ran hynny, mae dileu'r tollau ar bontydd Hafren yn hollol wych. Ac rydym yn gweld twf gwirioneddol sylweddol yng Nghasnewydd; mae mwy nag un o bob chwe chartref newydd yng Nghymru bellach yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd. Nawr, mae llawer o'r rheini'n gartrefi i bobl sy'n cymudo—unwaith eto, i swyddi sy'n talu'n gymharol dda, yn aml—yn ardal Bryste. Soniodd Mike am Lundain a de-ddwyrain Lloegr fel rhai sy'n uwch na'r cyfartaledd, ond er nad yw Bryste'n rhanbarth, mae ei gwerth ychwanegol gros gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, ac unwaith eto mae'n dda ar gyfer y swyddi TG. Ac mae'n wirioneddol bwysig ar draws de Cymru—o Abertawe i Gaerdydd i Gasnewydd i Fryste—ein bod yn cysylltu'r ardal honno gyda'i gilydd fel rhanbarth yn well o lawer nag y gwnawn ar hyn o bryd, ac mae honno'n un ffordd bwysig iawn o hybu ffyniant, ar gyfer yr ardal honno o Gymru o leiaf.
A gaf fi droi'n fyr at y bargeinion dinesig? Roeddwn yn meddwl bod digwyddiad twf canolbarth Cymru yr wythnos diwethaf yn wych ac roeddwn yn falch iawn fod Russell wedi fy annog i fynd i hwnnw, a llongyfarchiadau iddo ef ac i eraill a oedd yn rhan o'r gwaith o arddangos yr holl fusnesau trawiadol hynny o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru. Ond dywedir wrthym nad oes ond tri busnes yn y rhanbarth hwnnw â mwy na 200 o weithwyr. Mae gan Geredigion a Phowys gyda'i gilydd boblogaeth lai o lawer nag unrhyw ranbarth arall rydym yn edrych arnynt ar gyfer bargeinion dinesig, ac rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen iddynt gofio hynny wrth ystyried sut i weithio gyda hwy. Ni allwn gael un templed unigol ar gyfer y modd y mae'r bargeinion hyn yn gweithio, a chredaf fod y ddau gyngor hynny angen llawer mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i weu'r fargen honno gyda'i gilydd a gwneud iddi weithio ar gyfer eu hardal leol.