Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 6 Chwefror 2019.
Yn fyr, mae yna brosiectau, wrth gwrs, nad ydynt yn ymwneud â'r bargeinion. Argymhellais un, a awgrymwyd ddoe, ar Ynys Môn—ailagor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch—math pwysig o brosiect gweddnewidiol. Roeddwn yn siomedig fod y Llywodraeth a'ch meinciau chi wedi pleidleisio yn erbyn fy ngwelliant ddoe, ond fe roddaf un cyfle arall i chi ddweud bod y Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda ni ar roi ffocws newydd i ddatblygu'r prosiect penodol hwnnw, a fyddai'n weddnewidiol, fel rwy'n dweud, i'r rhanbarth hwnnw.