Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 6 Chwefror 2019.
Wel, mae'n mynd â mi yn ôl i ddarlithoedd economaidd ar gromliniau twf mewndarddol, ond nid af i mewn i hynny yn awr.
Soniodd Mark Reckless am y gwahaniaeth o ran diffiniad rhwng gwerth ychwanegol gros—gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul y pen o'r boblogaeth—a chyflogau a ffyniant, oherwydd mae gwerth ychwanegol gros yn nodi lle y cynhyrchir gwerth mewn nwyddau a gwasanaethau ac nid o reidrwydd o ble y bydd pobl yn cymudo. Felly, rhaid inni edrych ar y darlun cyfan.
Siaradodd Neil Hamilton am yr angen i godi lefelau incwm yn gyffredinol. Dywedodd nad yw Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael i Iwerddon, er enghraifft, ond wrth gwrs, mae Cymru'n dal i lusgo ar ôl y gwledydd a'r rhanbarthau lle mae'r un polisïau ar gyfer y DU yn weithredol. Ac yna allyrrodd ei syniadau ynghylch allyriadau, ac rwy'n deall bod yn rhaid inni edrych ymlaen at ragor o hynny yn y dyfodol. Daeth i ben drwy ddweud bod angen inni atal Llywodraethau rhag rhoi pwysau ar fusnesau a'r bobl.
Soniodd Siân Gwenllian am gydweithredu economaidd rhwng cynghorau'r gorllewin, ond wrth gwrs, mae cynghorau yng ngogledd-orllewin Cymru eisoes wedi bod mor ddoeth â chefnogi bargen twf gogledd Cymru ac yn amlwg, mae cydweithrediad a chydweithio ar draws pob rhanbarth yn dda oni bai ei fod dan fygythiad, a thynnodd sylw'n briodol at yr angen am ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru.
Soniodd Nick Ramsay am yr addewidion a wnaed ar ddechrau datganoli gyda Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am ysgogiadau economaidd, ond mae angen inni dreulio'r 20 mlynedd nesaf yn cyflawni'r hyn rydym wedi methu ei wneud yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf. Mae angen inni hybu ffyniant economaidd yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ond nid oes un ateb cyflym, yn enwedig ar ôl y ddau ddegawd diwethaf. Yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig, trafnidiaeth a rhwydweithiau digidol mewn ardaloedd trefol a gwledig, a soniodd am yr angen i ddefnyddio pwerau trethu a benthyca newydd i greu'r cyfoeth y gellir ei drethu a'i wario wedyn ar wasanaethau cyhoeddus.
Cyfeiriodd Ken Skates at y modd y bydd ei gynllun gweithredu economaidd yn cyrraedd rhannau eraill y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu eu cyrraedd yn ystod ei dau ddegawd cyntaf mewn grym. Soniodd am waith da ar y lefel ranbarthol, gan gynnwys bargeinion dinesig a bargeinion twf, am ei gyllidebau rhanbarthol dangosol sy'n cael eu datblygu. Cytunai â Russell George fod angen inni gynyddu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau a dywedodd fod angen inni symud cyfoeth o dde-ddwyrain Lloegr i Gymru. Ond roeddwn i'n deall mai'r trethi a delir yn ne-ddwyrain Lloegr sydd ar hyn o bryd yn llenwi'r bwlch rhwng y swm y mae Cymru yn ei dalu i mewn a'r swm yr oedd yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Yn drasig, Cymru yw'r lleiaf cynhyrchiol o 12 rhanbarth a gwlad y DU o hyd. Hyd yn oed yn fwy brawychus, o ran gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir y pen yng Nghymru, bu'r twf yn arafach na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr unwaith eto. Yr unig beth cadarnhaol y gallaf ei weld oedd mai yn Sir y Fflint a Wrecsam y cafwyd y twf mwyaf yng Nghymru, ond roedd yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn datganoli. A dweud y gwir, mae anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru fel y mae yn frad, gyda Llywodraethau Llafur olynol yn methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o'r wlad.
Hoffwn gloi drwy ddyfynnu erthygl ar WalesOnline ddoe yn cyfweld pobl yng Nglynebwy. Cofnodwyd yr un ymatebion gan breswylwyr, perchnogion busnesau, cynghorwyr, cadeirydd fforwm busnes ac eraill fel ei gilydd: eu bod wedi cael cerflun hyfryd, canopi gwydr hyfryd yn lle'r hen un, lifft mecanyddol sy'n cysylltu un rhan o'r dref i'r llall, canolfan hamdden newydd, coleg newydd, ond er gwaethaf y miliynau a wariwyd ar brosiectau adfywio rhanbarthol, nid oedd wedi gwneud yr hyn oedd ei angen arnynt—dod â swyddi a busnesau i mewn.