1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ53395
Diolch, Llywydd. Mae camau i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl ifanc yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru, mewn ysgolion a cholegau drwy'r gwasanaeth ieuenctid, yn y gweithle ac yn y GIG, a thrwy bartneriaethau â sefydliadau trydydd sector ac eraill.
Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU un o'r treialon iechyd meddwl mwyaf yn y byd yr wythnos diwethaf i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Bydd 370 o ysgolion Lloegr yn cymryd rhan yn y treialon hyn, gan brofi gwahanol ddulliau, a bydd naw o ardaloedd yn treialu ffyrdd newydd o sicrhau bod plant sy'n dechrau derbyn gofal yn cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt ar yr adeg honno pan fyddant yn arbennig o agored i niwed. Bydd ysgolion yn Lloegr hefyd yn darparu addysg iechyd meddwl o 2020 ymlaen, rhywbeth y mae Samariaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru ei wneud hefyd. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n datblygu arfer gorau ac yn gwella gwasanaethau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a fyddwch chi hefyd yn edrych ar y mentrau hyn yn Lloegr, i weld ble bydd y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg a lle mae eu harferion gorau yn dod i'r amlwg hefyd, a hefyd rhannu'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu yma yng Nghymru gyda'n cydweithwyr yn Lloegr?
Wel, Llywydd, yn sicr byddwn yn awyddus i ddysgu unrhyw wersi a geir o fentrau newydd mewn mannau eraill. Mae'n rhan o bleser datganoli ein bod ni'n gallu rhoi cynnig ar bethau mewn ffordd wahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ac yna rhannu'r dysgu rhyngom. Fel y dywed yr Aelod, mae gennym ni eisoes ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yma yng Nghymru. Fe wnaeth 11,558 o blant elwa ar y gwasanaeth cwnsela ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer. Ac unrhyw beth y gallwn ni ei rannu gydag eraill, o'n profiad ni, rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae wedi ymddangos i mi erioed mai'r dull synhwyrol o ddatganoli yw ei ystyried, fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith yn y fan yma, fel math o labordy byw lle mae arbrofion sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill ar gael i ni i gyd, i ddysgu oddi wrthynt.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc, ein bod ni'n clywed eu lleisiau nhw yn y broses honno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod ein Senedd Ieuenctid eisoes wedi nodi iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau. A hoffwn eich gwahodd chi i ymrwymo heddiw fel Llywodraeth i weithio gyda'r Senedd Ieuenctid, gan roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r awgrymiadau a ddaw ganddyn nhw, a sicrhau, wrth i ni wella gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ein pobl ifanc yng Nghymru, bod lleisiau'r bobl ifanc hynny yn gwbl ganolog. Fel y bydden nhw'n ei ddweud, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'.
Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu ein gwasanaethau cyhoeddus gyda llais y defnyddiwr yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n meddwl am y gwasanaethau hynny ac yn ceisio eu datblygu yn y dyfodol. Ceir rhai grwpiau yn y boblogaeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac mae lleisiau pobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn sicr yn y categori hwnnw. Cefais y cyfle i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, y daeth Helen Mary Jones â nhw i'r Senedd, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle hwnnw a'r wybodaeth yr oedd y bobl ifanc hynny yn gallu ei rhoi i ni. Ac ym maes iechyd meddwl, mae hynny'n arbennig o bwysig, Llywydd, gan ein bod ni'n gwybod o'r ffigurau diweddaraf yn Lloegr, er enghraifft, y bu cynnydd o chwe gwaith yn fwy yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl dros y ddau ddegawd diwethaf. Ac eto, dim ond rhyw fymryn yn fwy y mae cyflyrau iechyd meddwl â diagnosis clinigol wedi cynyddu ymhlith y grŵp hwnnw o bobl. Felly, mae rhywbeth i'w ddysgu yma o'r neges y mae pobl ifanc yn ei gyfleu i ni pan fyddant yn dweud bod ganddyn nhw anhwylder iechyd meddwl. Ac mae cyfarfod y bobl ifanc hynny wyneb yn wyneb ymhlith y ffyrdd gorau i ni allu gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny.
Rydym ni bob amser yn cael ein temtio i edrych ymhellach i ffwrdd am yr enghreifftiau gorau posibl o sut i wella ein gwasanaethau o ran iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond, wrth gwrs, yn ôl yn yr hydref, roedd yr Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, a minnau yn falch iawn o fod yn etholaeth Jayne Bryant, yn y lansiad o £13.4 miliwn o gyllid drwy'r gronfa weddnewid yng Nghanolfan Serennu, ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi ei seilio i raddau helaeth ar le, â phwyslais cymunedol, gan fanteisio ar holl adnoddau, holl alluoedd yr ardal honno, i gynorthwyo a meithrin ein pobl ifanc. Dyddiau cynnar yw hi eto, ond pe byddai hwnnw'n profi i fod yn llwyddiant—ac nid wyf i'n amau y bydd, yn rhannol oherwydd y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwthio'r agenda hon—os bydd yn profi ei fod yn gweithio, ai'r bwriad wedyn fydd cyflwyno hynny nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, nid yn unig ar draws y de-ddwyrain, ond i ddefnyddio hwnnw fel y model y byddwn ni'n ei gyflwyno ledled Cymru fel bod pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl gorau oll?
Wel, mae'r model, Llywydd, y mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn sicr yn un yr ydym ni eisiau ei ddatblygu ymhellach, gan ei fod yn darparu ar gyfer dull gwahaniaethol o ymdrin ag iechyd meddwl. Rydym ni wedi arfer yn llwyr â dulliau gwahaniaethol ym maes iechyd corfforol. Os oes gennych chi annwyd—fel sydd gen i—mae angen paracetamol arnoch chi; os oes gennych chi ffliw, mae angen gwahanol fath o ateb arnoch chi; ac os oes gennych chi niwmonia, yna gallech chi ganfod eich hun mewn uned gofal dwys. Rydym ni'n deall bod gwahanol lefelau o angen yn gofyn am wahanol fath o ymateb. Roedd yn sicr yn un o'r gwersi yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae cael gwasanaeth o'r math y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddisgrifio, pan fo sbectrwm o wahanol wasanaethau ar gael, sy'n gallu darparu'r cymorth wedi'i deilwra hwnnw a'r ymateb wedi'i deilwra i angen ein pobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, yn fodel yr ydym ni'n awyddus iawn i'w weld yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredinol yng Nghymru.