Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Chwefror 2019.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n adnabod unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y cynnig y byddwn yn ei gyflwyno. Byddwn yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Ni ellir taro unrhyw oedolyn yn y wlad hon, a chyflwyno amddiffyniad o'r fath; pam y dylid caniatáu i blentyn gael ei daro ac yna cyflwyno'r amddiffyniad hwnnw? Dyma'r sefyllfa sy'n bodoli eisoes mewn gwledydd di-rif ledled y byd, gwledydd lle nad yw'r un o'r posibiliadau codi bwganod y mae'r Aelod yn eu nodi wedi digwydd, ac nid ydym yn disgwyl i'r un ohonynt ddigwydd yma yng Nghymru.