Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:01, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwerthfawrogi ein bod ni'n byw mewn oes pan ydym wedi cael cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn cael eu gwneud yn erbyn pobl, rhai ohonyn nhw yn bobl gwbl ddieuog. Canfuwyd bod llawer o'r honiadau rhyw hanesyddol hyn yn rhithdybiau llwyr, ond rwy'n siŵr bod digonedd o bobl ddieuog wedi cael eu dal ynddynt. Os yw'r wladwriaeth yn annog plant i ddechrau gwneud honiadau, yna gallem ni gael cyfres newydd o erlyniadau anghyfiawn. A ydych chi'n wirioneddol siŵr bod eich deddfwriaeth yn mynd i fod yn ddigon cadarn i atal y posibilrwydd hwn?