Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, gan ein bod ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr mewn anghydfodau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn aml yn rhan o'r achosion hynny o anghydfod? Ac os yw e'n cytuno â mi ynghylch hynny, pa fath o system yr hoffai ef ei gweld yn hytrach?