1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2019.
3. Pa gynnydd a wnaed o ran sefydlu dull priodol ar gyfer datrys anghydfodau rhwng llywodraethau'r DU? OAQ53385
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud cymaint yr wyf i'n edrych ymlaen at ateb yr hyn sy'n gorfod bod ei gwestiwn cyntaf i Brif Weinidog, ers blwyddyn gyntaf un datganoli? A'r ateb i'w gwestiwn yw yr adroddwyd ychydig o gynnydd, ar y gorau, o ran y mater hwn yng nghyfarfod llawn diwethaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Rhagfyr. Nid yw'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol a gomisiynwyd ym mis Mawrth 2018, pryd y cynrychiolwyd Cymru gan yr Aelod yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, wedi cyflwyno adroddiad hyd yn hyn.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, gan ein bod ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr mewn anghydfodau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn aml yn rhan o'r achosion hynny o anghydfod? Ac os yw e'n cytuno â mi ynghylch hynny, pa fath o system yr hoffai ef ei gweld yn hytrach?
Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Carwyn Jones bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, fel llawer o'r prosesau rhynglywodraethol yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn dod o dan fwy o bwysau yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit, ac fel y mae adroddiad ar ôl adroddiad pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a phwyllgorau yn y fan yma wedi ei adrodd, ni all y prosesau presennol ddal pwysau'r problemau y mae Brexit yn eu hachosi i'r Deyrnas Unedig. Yr hyn sydd ei angen arnom, felly, yw cyfres o drefniadau sy'n seiliedig ar egwyddorion, cydraddoldeb o ran parch, cydraddoldeb o ran cyfranogiad, yr egwyddor ei bod bob amser yn well osgoi anghydfod pan fo'n bosibl gwneud hynny. Dylai'r egwyddorion hynny arwain at gyfres o reolau, a dylai'r rheolau hynny gynnwys elfen o arbenigedd a chymrodeddu annibynnol.
Llywydd, credaf y bydd yr Aelodau yn falch o wybod bod Cymru, yn y gwaith sy'n cael ei wneud o dan gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog helpu i'w gychwyn, yn arwain y gwaith o lunio'r egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Ac fel y gwelsom yn y cytundeb rhynglywodraethol, os byddwch chi'n cael yr egwyddorion hynny'n iawn, yna mae ymarferoldeb system datrys anghydfod bob amser yn debygol o gael ei sefydlu yn fwy cadarn.
Mae anghydfodau, yn gyffredinol, wedi eu canolbwyntio ar arian a grym. Prif Weinidog, ystyrir yn gyffredinol eich bod chi wedi cael hanes cymharol lwyddiannus o ran cytuno ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y cyllid sy'n dod i Gymru. Fe wnaeth eich rhagflaenydd, yn fy marn i, waith da wrth negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau'r Cynulliad hwn a'r setliad datganoli yng nghyd-destun Brexit. Onid yw hynny'n dangos mai negodi fydd y dull hanfodol ar gyfer datrys anghydfod yn gyffredinol?
Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac nid wyf i'n anghytuno ag ef mai negodi fydd y brif ffordd o ddatrys anghydfodau bob amser. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y cwestiwn hwn, yn y ffordd y'i cyflwynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd dim mwy o le i drafod. Ac mae'n rhaid i chi gael cyfres o drefniadau ar waith er mwyn ymdrin â'r adeg pan na fydd ymdrechion i ddatrys anghydfod—drwy ei osgoi, drwy ei ddatrys, drwy ei negodi—yn mynd â chi i'r diweddglo. Ac fel y dywedodd Carwyn Jones, ni allwn ni gael system lle mae'r corff sy'n gyfrifol am ddatrys yr anghydfod yn rhan o'r anghydfod hwnnw. Dyna'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw'n dderbyniol nawr, yn sicr nid yw'n dderbyniol yn y tymor hir. Pan ddaw trafodaethau i ben, yna mae'n rhaid i chi gael dull sy'n wirioneddol annibynnol ac y mae gan bawb sy'n rhan ohono ffydd ynddo.
Yn eich tyb chi, Prif Weinidog, ydy pwysau amser a phwysau gwaith delio efo'r ddeddfwriaeth ychwanegol sy'n deillio o Brexit—ydy hynna i gyd yn esgus digonol i ddwyn pwerau oddi wrth ein Senedd yma yng Nghymru ac yn ôl i San Steffan?
Wel, Llywydd, jest i ddweud unwaith eto: fel dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, does dim un pŵer wedi mynd o'r Cynulliad hwn i San Steffan. Mae popeth sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit yn mynd i ddod yma, a dim ond gyda chytundeb yma bydd pwerau yn gallu symud i unrhyw le arall. Dŷn ni ddim wedi cytuno i ddim byd i symud, a does dim byd wedi symud.
Ac yn yr adroddiad a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf, Llywydd, ar y mater a oedd yn destun dadl ar lawr y Cynulliad hwn, cadarnhaodd Llywodraeth y DU, yn ei ail adroddiad tri misol, yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud, nad oes yr un grym wedi gadael y Cynulliad hwn. Ni wnaed unrhyw ddefnydd o'r dull sydd yn Neddf Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ymdrin â phwerau yn dychwelyd ac nid oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r dull hwnnw, gan ein bod ni'n gallu—rydym ni wedi dangos gallu i ddatrys problemau sy'n gorwedd rhwng y gwahanol gydrannau o'r Deyrnas Unedig ar sail cytundeb, fel y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei wneud o'r cychwyn cyntaf.