Datrys Anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:07, 12 Chwefror 2019

Wel, Llywydd, jest i ddweud unwaith eto: fel dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, does dim un pŵer wedi mynd o'r Cynulliad hwn i San Steffan. Mae popeth sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit yn mynd i ddod yma, a dim ond gyda chytundeb yma bydd pwerau yn gallu symud i unrhyw le arall. Dŷn ni ddim wedi cytuno i ddim byd i symud, a does dim byd wedi symud.