Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y copi ymlaen llaw a gafodd fy swyddfa.
Yn amlwg, bu cynnydd mewn rhai meysydd, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd, bobol bach, roedd angen peth cynnydd arnom ni o ran y mater pwysig iawn hwn. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn briodol iawn, er bod perfformiad o gymharu â'r targed o bedair awr wedi gwella mewn rhai ysbytai, mewn rhai eraill mae'n druenus o annigonol, gan gynnwys, yn fwyaf difrifol, yn y gogledd mewn dau o'r ysbytai, sydd ar waelod y tabl cynghrair mewn bwrdd iechyd sydd, wrth gwrs, ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi.
A gaf i roi enghraifft o'r math o ofal a ddarperir yn Ysbyty Glan Clwyd i chi? Daw hyn o e-bost a anfonwyd ataf gan fy etholwr, John Cook, am ei fab Gareth Cook a oedd, yn anffodus, angen rhywfaint o sylw yn yr adran achosion brys yno yn ôl ym mis Tachwedd. Aeth yno dair gwaith mewn un wythnos, i raddau helaeth oherwydd, y tro cyntaf cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, a'r ail dro hefyd cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, oherwydd pwysau ar welyau yn yr ysbyty. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Rwyf wedi crybwyll y diffyg hylendid sylfaenol, preifatrwydd a pharch i gleifion sy'n deillio o'r amodau ofnadwy. I egluro'r pwynt hwn, cyfeiriaf at gleifion yn chwydu a hwythau'n agos iawn at ei gilydd. Mae Gareth yn sôn am brofiad o rannu bae pedair cadair gyda thri arall. Ymhlith y grŵp hwn roedd person dall oedrannus a dyn iau a oedd yn alcoholig ac yn amlwg yn anniddig. Yng nghanol y nos, dyma'r alcoholig yn estyn siswrn ac yn pwnio'r dyn dall a'i ddeffro.
Yn ogystal â hynny, caiff golygfeydd eraill eu disgrifio o ddau ŵr bonheddig oedrannus, un yn 94 a'r llall yn ei 80au, yn treulio dyddiau—nid oriau, dyddiau—ar gadeiriau, gan rannu un bae gwely sengl gyda thri arall, a phob un ohonyn nhw, eto, yn agos iawn at ei gilydd.
Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn ddisgrifiadau annerbyniol o'r math o ofal yr hoffech chi a minnau ac unrhyw un arall yn y Siambr ei weld yn cael ei ddarparu, ond rwyf yn bryderus iawn mai dyna'r math o ofal, yn anffodus, y mae nifer o bobl yn dyst iddo yn ein hysbytai, yn enwedig yn y gogledd. Ond rwy'n gwybod nad yw'r mathau hynny o olygfeydd yn gyfyngedig i'r fan honno, ac fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bryderon, gan ei fod yn ymddangos i mi mai rhan fawr o'r broblem yw nifer y gwelyau sydd ar gael yn ein hysbytai, sy'n cadw gormod o bobl yn ein hadrannau achosion brys am gyfnod rhy hir.
Rydym ni'n gwybod fod y ffigurau am y cyfnodau 12 awr a mwy y mae pobl yn eu treulio yn ein hysbytai mewn gwirionedd yn gwaethygu. Maen nhw wedi gwaethygu ym mis Rhagfyr, ac roedden nhw'n waeth ym mis Tachwedd nag yr oedden nhw 12 mis cyn hynny. Felly, er fy mod i'n deall bod cynnydd o ran trosglwyddo gofal, ac y bu rhywfaint o gynnydd o ran rhai o'r targedau eraill, yn amlwg, ni ddylai pobl fod yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys oni bai y ceir sefyllfa eithriadol pan fo angen iddyn nhw fod yno.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arian ychwanegol a fuddsoddwyd y gaeaf hwn. Rwy'n falch o weld yr arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Byddwn yn ddiolchgar iawn i wybod, Gweinidog, sut y rhannwyd yr arian hwnnw fesul ardal bwrdd iechyd, gan ei fod yn ymddangos i mi nad yw bob amser wedi'i dargedu i'r mannau lle mae'r angen mwyaf, lle mae'r problemau mwyaf yn ymddangos. Felly, fe fyddai'n ddiddorol gwybod os wnewch chi roi dadansoddiad inni yn eich ymateb heddiw.
Rwy'n awyddus iawn hefyd i glywed ychydig yn fwy am y cydweithio yma y mae'r GIG yn ei ddatblygu gyda'r Groes Goch, Ambiwlans Sant Ioan, a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n wych bod y cydweithredu hwnnw wedi dechrau. Rwy'n gwybod fod cleifion, yn sicr yn fy rhan i o'r wlad, yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth y mae'r groes goch wedi bod yn ei rhoi, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio'n hynod o dda. Ond, yn amlwg, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wybod yw: a fydd y rhain yn nodweddion parhaol yn ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol ac, os felly, a oes trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gwaith craffu priodol ar y systemau a'r trefniadau newydd hynny, ac a thelir amdanyn nhw'n briodol?
A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn manteisio ar y brechiad rhag y ffliw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y tymor ffliw yn eich datganiad, ac rydym ni'n gwybod y dechreuodd ychydig yn hwyrach eleni na mewn blynyddoedd blaenorol ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i hynny gynyddu eto. Nawr, dim ond tua hanner ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y gorffennol mewn gwirionedd sydd wedi bod yn cael eu pigiadau. Nid yw hynny'n amlwg yn ddigon da. Mae angen inni gael cyfradd uwch o weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn manteisio ar hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n mynd i gyflwyno targedau newydd, mesurau newydd sy'n gallu ysgogi ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ddiogelu eu hunain er mwyn diogelu pobl eraill.
Ac yn olaf, a gaf i eich holi ynglŷn â holl fater y gwasanaeth ambiwlans a'i dargedau—? Rydym ni'n gwybod y bu rhai newidiadau i'w croesawu o ran y targedau synhwyrol sydd wedi'u pennu bellach ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, ond un peth sy'n dod i fy nghlyw yn rheolaidd yw'r pryder nad yw rhai pobl sy'n dangos symptomau o drawiad cardiaidd, trawiad ar y galon, yn cael eu hystyried fel y categori uchaf o alwadau, ac nad oes angen i ambiwlans ymateb iddyn nhw o fewn wyth munud i amser yr alwad. Rwy'n credu bod hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Yn anffodus, mae rhai pobl, wedi colli partneriaid, wedi colli aelodau o'r teulu o ganlyniad i'r targed hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i adolygu'r trefniant penodol hwnnw o ran gofal cardiaidd yn y dyfodol. Diolch.