– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 12 Chwefror 2019.
Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddarparu gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal heb ei drefnu'r gaeaf hwn. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad miloedd o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn. Rwyf wedi cael y cyfle i weld staff rheng flaen ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl, a hynny o dan bwysau. Rwyf wedi sôn o'r blaen am y broses gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, a oedd yn cynnwys arweinyddion o fyrddau iechyd lleol yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut roedden nhw wedi paratoi. Cytunwyd ar y cynlluniau lleol mewn partneriaeth rhwng y maes iechyd a llywodraeth leol. Rwyf wedi cefnogi sefydliadau lleol drwy roi £39 miliwn yn ychwanegol, a hynny yn gynharach nag o'r blaen, ar sail canfyddiadau o'n hadolygiad yn 2017-18 a sylwadau gan glinigwyr.
Rwy'n falch o adrodd fod pethau wedi gwella yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol hwn a gwersi a ddysgwyd o'r gaeafau blaenorol. Rwy'n ffyddiog, heb y rhain, y byddai'r gaeaf yr ydym ni wedi ei weld hyd yma wedi bod yn llawer caletach ar staff ac wedi cael effaith negyddol ar brofiad cleifion a staff. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dweud wrthym ni fod nifer yr oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o gerbydau ambiwlans wedi gostwng 30 y cant, o gymharu Rhagfyr 2018 â Rhagfyr 2017.
Mae ysbytai ledled Cymru wedi dweud eu bod wedi treulio cryn dipyn yn llai o amser yn y categorïau uwchgyfeirio uchaf ym mis Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 o gymharu â mis Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018. Pan oedd ysbytai yn gweld y pwysau cynyddol hynny, y gaeaf hwn fe wnaethon nhw ddod drostynt ac isgyfeirio ynghynt, ac mae hynny'n arwydd gwirioneddol o wella cydnerthedd y gwasanaethau rheng flaen.
Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol. Roedd hyd cyfartalog arosiadau ar gyfer cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty fel achosion brys ym mis Rhagfyr 2018 ar ei isaf ers mwy na chwe blynedd. Bu gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a bu gwelliannau mewn amseroedd aros; roedd nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos ar gyfer gofal dewisol ar ddiwedd mis Tachwedd 2018 yn 41 y cant yn is nag ym mis Tachwedd 2017, a bellach mae pob bwrdd iechyd mewn sefyllfa well nag yr oedd y llynedd.
Rwyf hefyd yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am nifer o gynlluniau cyflawni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y gaeaf hwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cydweithredu ag Ambiwlans Sant Ioan ar fenter cymorth cwympiadau, gan ymateb i 773 o bobl sydd wedi cwympo y gaeaf hwn. Roedd dros 85 y cant o'r galwadau hynny yn cynnwys cleifion dros 65 oed. Mae sylwadau gan gleifion yn dangos bod 94 o bobl yn fodlon ar yr ymateb a ddarparwyd.
Ers canol mis Rhagfyr, mae byrddau iechyd lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi dros 14,000 o gleifion mewn wyth adran achosion brys ledled y wlad. Diben y cynllun arbrofol yw gwella lles a phrofiad cleifion. Mae'n cefnogi cleifion a'u teuluoedd mewn adrannau achosion brys ac yn cludo cleifion adref. Mae'r cludiant cartref yn cynnwys helpu i adsefydlu cleifion drwy eu cysylltu eto i wasanaethau cymunedol. Mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl unig.
Mae'r arbrawf Adre o'r Ysbyty, sy'n cael ei gynnig ar y cyd â Gofal a Thrwsio Cymru, yn canolbwyntio ar wella ansawdd tai i gefnogi llai o oedi wrth drosglwyddo gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleihau cyfraddau aildderbyn. Mae cydweithio ac integreiddio gyda'r trydydd sector yn elfen allweddol o 'Cymru Iachach', ac mae'n galonogol gweld rhagor o gynnydd yn hyn o beth.
Rydym ni hefyd yn treialu modelau integredig newydd o ofal y gaeaf hwn drwy ddefnyddio fferyllwyr mewn adrannau achosion brys. Unwaith eto, mae arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae fferyllwyr penodedig bellach yn gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol, gyda rhai ysbytai eisoes yn dweud eu bod yn gweld hyd at 100 o gleifion yr wythnos, i helpu cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion yn yr adrannau achosion brys.
Fodd bynnag, mae'r gaeaf hwn hefyd wedi bod yn anodd i wasanaethau a staff ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bu achlysuron lle bu cleifion yn aros yn hwy am gyngor, gofal neu driniaeth nag y buasem ni neu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddymuno. Mae afiechydon stumog gaeaf fel norofeirws yn rhoi straen ychwanegol ar ein GIG, ac ers mis Hydref 2018 cafwyd 103 achos o haint gastroberfeddol mewn ysbytai a chartrefi gofal ledled Cymru.
Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y tymor ffliw diwethaf wedi gweld y nifer uchaf o ymgynghoriadau â meddygon teulu ac achosion o'r ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009. Rydym ni wedi cynyddu profion yn dilyn cyflwyno'r profion ffliw cyflym a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Y gaeaf hwn, rydym ni wedi gweld mwy o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau mewn ysbytai o gymharu â'r un pryd y llynedd.
Er gwaethaf y nifer uchaf erioed o bobl mewn adrannau achosion brys mawr, gwellodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr mewn saith o 13 o ysbytai. Fodd bynnag, mae'n glir nad yw perfformiad, yn benodol mewn tri safle yn ddigon da, ac mae hynny wedi effeithio ar y darlun cenedlaethol cyffredinol o ran perfformiad.
Gan edrych ymlaen at y tymor canolig, rydym ni'n goruchwylio nifer o raglenni i gefnogi darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy. Bydd y model gofal sylfaenol newydd yn darparu ymateb 24/7, gyda'r gwasanaeth 111 yn elfen allweddol. Wrth gyflwyno'r gwasanaeth 111 dros y ddwy i dair blynedd nesaf, bydd yn gwella mynediad trwy well arwyddion, cyngor clinigol a thriniaeth gan ddefnyddio rhif ffôn am ddim a chyfleoedd digidol eraill. Bydd mwy o weithio rhanbarthol a chenedlaethol i ddiwallu'r galw am gyngor a thriniaeth gritigol yn ystod oriau brig, a bydd y gwasanaeth 111 ar gael yn genedlaethol erbyn 2022.
Mae rhaglen weithredu'r adolygiad oren, yr wyf wedi tynnu sylw Aelodau ati mewn datganiad blaenorol, ar y gweill ers tro ac mae disgwyl iddi redeg tan fis Tachwedd 2019. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynglŷn â'r cynnydd yn y rhaglen honno dros yr haf. Mae fframwaith ansawdd a darparu ar gyfer adrannau achosion brys yn cael ei ddatblygu ac mae'n cynnwys treialu mesurau newydd a ddatblygwyd ochr yn ochr â chlinigwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma fydd cam cyntaf y gwaith ehangach i ddatblygu canlyniadau clinigol a mesurau profiad ledled y system gofal heb ei drefnu.
Gan adeiladu ar adolygiad manwl ynglŷn â sut yr ydym ni'n rhyddhau pobl ag anghenion cymhleth o ysbytai, byddwn yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal mynediadau diangen i ysbytai a lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal ysbyty ar gyfer pobl hŷn yn 2019-20. Byddaf hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y dull 'gartref yn gyntaf' hwn yn yr haf. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hangen i weithio ledled ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Ac yn olaf, byddwn ni'n lansio fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu i ddisgrifio ein disgwyliadau polisi ar gyfer byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn ystod yr haf 2019. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o fanylion pan gaiff ei gyflwyno.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y copi ymlaen llaw a gafodd fy swyddfa.
Yn amlwg, bu cynnydd mewn rhai meysydd, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd, bobol bach, roedd angen peth cynnydd arnom ni o ran y mater pwysig iawn hwn. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn briodol iawn, er bod perfformiad o gymharu â'r targed o bedair awr wedi gwella mewn rhai ysbytai, mewn rhai eraill mae'n druenus o annigonol, gan gynnwys, yn fwyaf difrifol, yn y gogledd mewn dau o'r ysbytai, sydd ar waelod y tabl cynghrair mewn bwrdd iechyd sydd, wrth gwrs, ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi.
A gaf i roi enghraifft o'r math o ofal a ddarperir yn Ysbyty Glan Clwyd i chi? Daw hyn o e-bost a anfonwyd ataf gan fy etholwr, John Cook, am ei fab Gareth Cook a oedd, yn anffodus, angen rhywfaint o sylw yn yr adran achosion brys yno yn ôl ym mis Tachwedd. Aeth yno dair gwaith mewn un wythnos, i raddau helaeth oherwydd, y tro cyntaf cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, a'r ail dro hefyd cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, oherwydd pwysau ar welyau yn yr ysbyty. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Rwyf wedi crybwyll y diffyg hylendid sylfaenol, preifatrwydd a pharch i gleifion sy'n deillio o'r amodau ofnadwy. I egluro'r pwynt hwn, cyfeiriaf at gleifion yn chwydu a hwythau'n agos iawn at ei gilydd. Mae Gareth yn sôn am brofiad o rannu bae pedair cadair gyda thri arall. Ymhlith y grŵp hwn roedd person dall oedrannus a dyn iau a oedd yn alcoholig ac yn amlwg yn anniddig. Yng nghanol y nos, dyma'r alcoholig yn estyn siswrn ac yn pwnio'r dyn dall a'i ddeffro.
Yn ogystal â hynny, caiff golygfeydd eraill eu disgrifio o ddau ŵr bonheddig oedrannus, un yn 94 a'r llall yn ei 80au, yn treulio dyddiau—nid oriau, dyddiau—ar gadeiriau, gan rannu un bae gwely sengl gyda thri arall, a phob un ohonyn nhw, eto, yn agos iawn at ei gilydd.
Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn ddisgrifiadau annerbyniol o'r math o ofal yr hoffech chi a minnau ac unrhyw un arall yn y Siambr ei weld yn cael ei ddarparu, ond rwyf yn bryderus iawn mai dyna'r math o ofal, yn anffodus, y mae nifer o bobl yn dyst iddo yn ein hysbytai, yn enwedig yn y gogledd. Ond rwy'n gwybod nad yw'r mathau hynny o olygfeydd yn gyfyngedig i'r fan honno, ac fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bryderon, gan ei fod yn ymddangos i mi mai rhan fawr o'r broblem yw nifer y gwelyau sydd ar gael yn ein hysbytai, sy'n cadw gormod o bobl yn ein hadrannau achosion brys am gyfnod rhy hir.
Rydym ni'n gwybod fod y ffigurau am y cyfnodau 12 awr a mwy y mae pobl yn eu treulio yn ein hysbytai mewn gwirionedd yn gwaethygu. Maen nhw wedi gwaethygu ym mis Rhagfyr, ac roedden nhw'n waeth ym mis Tachwedd nag yr oedden nhw 12 mis cyn hynny. Felly, er fy mod i'n deall bod cynnydd o ran trosglwyddo gofal, ac y bu rhywfaint o gynnydd o ran rhai o'r targedau eraill, yn amlwg, ni ddylai pobl fod yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys oni bai y ceir sefyllfa eithriadol pan fo angen iddyn nhw fod yno.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arian ychwanegol a fuddsoddwyd y gaeaf hwn. Rwy'n falch o weld yr arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Byddwn yn ddiolchgar iawn i wybod, Gweinidog, sut y rhannwyd yr arian hwnnw fesul ardal bwrdd iechyd, gan ei fod yn ymddangos i mi nad yw bob amser wedi'i dargedu i'r mannau lle mae'r angen mwyaf, lle mae'r problemau mwyaf yn ymddangos. Felly, fe fyddai'n ddiddorol gwybod os wnewch chi roi dadansoddiad inni yn eich ymateb heddiw.
Rwy'n awyddus iawn hefyd i glywed ychydig yn fwy am y cydweithio yma y mae'r GIG yn ei ddatblygu gyda'r Groes Goch, Ambiwlans Sant Ioan, a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n wych bod y cydweithredu hwnnw wedi dechrau. Rwy'n gwybod fod cleifion, yn sicr yn fy rhan i o'r wlad, yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth y mae'r groes goch wedi bod yn ei rhoi, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio'n hynod o dda. Ond, yn amlwg, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wybod yw: a fydd y rhain yn nodweddion parhaol yn ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol ac, os felly, a oes trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gwaith craffu priodol ar y systemau a'r trefniadau newydd hynny, ac a thelir amdanyn nhw'n briodol?
A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn manteisio ar y brechiad rhag y ffliw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y tymor ffliw yn eich datganiad, ac rydym ni'n gwybod y dechreuodd ychydig yn hwyrach eleni na mewn blynyddoedd blaenorol ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i hynny gynyddu eto. Nawr, dim ond tua hanner ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y gorffennol mewn gwirionedd sydd wedi bod yn cael eu pigiadau. Nid yw hynny'n amlwg yn ddigon da. Mae angen inni gael cyfradd uwch o weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn manteisio ar hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n mynd i gyflwyno targedau newydd, mesurau newydd sy'n gallu ysgogi ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ddiogelu eu hunain er mwyn diogelu pobl eraill.
Ac yn olaf, a gaf i eich holi ynglŷn â holl fater y gwasanaeth ambiwlans a'i dargedau—? Rydym ni'n gwybod y bu rhai newidiadau i'w croesawu o ran y targedau synhwyrol sydd wedi'u pennu bellach ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, ond un peth sy'n dod i fy nghlyw yn rheolaidd yw'r pryder nad yw rhai pobl sy'n dangos symptomau o drawiad cardiaidd, trawiad ar y galon, yn cael eu hystyried fel y categori uchaf o alwadau, ac nad oes angen i ambiwlans ymateb iddyn nhw o fewn wyth munud i amser yr alwad. Rwy'n credu bod hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Yn anffodus, mae rhai pobl, wedi colli partneriaid, wedi colli aelodau o'r teulu o ganlyniad i'r targed hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i adolygu'r trefniant penodol hwnnw o ran gofal cardiaidd yn y dyfodol. Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe wnaf i ddechrau â'ch pwynt olaf, oherwydd yr ymdriniwyd ag ef yn yr adolygiad galwadau oren. Cynhaliwyd adolygiad o'r amodau mewn dosbarthiadau gwahanol, gyda galwadau coch, oren 1 ac oren 2, ac nid yw'r clinigwyr a gynhaliodd yr adolygiad yn cefnogi eich barn bersonol chi. Rydym ni'n defnyddio tystiolaeth briodol yn sylfaen i gategoreiddio amodau gofal iechyd, ond hefyd i edrych ar welliannau yn y categori oren beth bynnag. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau'r haf hwn ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran darparu hynny ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl cyflwyno adroddiad eto ar ddiwedd y cyfnod gweithredu ar gyfer yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwnnw. Fel y nodais yn fy natganiad, mae'r gwaith i fod i fynd rhagddo tan fis Tachwedd y flwyddyn galendr hon.
O ran eich pwynt ehangach am y pigiad ffliw, unwaith eto, rwy'n disgwyl, yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r gaeaf hwn, y byddwn ni'n edrych eto ar y llwyddiant cyffredinol wrth berswadio'r cyhoedd a'n staff i fanteisio ar y cyfle a gynigir i gael eu diogelu gan y pigiad ffliw. Fe wnawn ni edrych eto ar y rhannau mwyaf llwyddiannus o'n system, ar gyfer gweithwyr yn ogystal â'r gallu i ddarbwyllo pobl i gael eu pigiadau ffliw, boed mewn meddygfeydd teulu neu mewn fferyllfeydd. Yn wir, y bore yma roedd yn rhaid imi alw yn fy meddygfa deuluol fy hun, ac roedd y wal yn blastr o bosteri ynglŷn â chael brechiad rhag y ffliw ar gyfer y bobl hynny sydd mewn mwy o berygl. Felly, yn sicr, roedd yr wybodaeth a oedd yn cael ei darparu yn y fan honno yn y ddwy iaith yn weladwy iawn, iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ac a gaiff ei drafod eto gyda chyflogwyr, ynglŷn â llwyddiant, neu fel arall, darbwyllo staff i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw ym mhob rhan o'n system. A byddwch yn gwybod y gaeaf hwn, wrth gwrs, ein bod ni wedi rhoi cyfle i staff gofal preswyl gael brechiad rhag y ffliw gan y gwasanaeth iechyd hefyd, felly byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch llwyddiant a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud ar ddiwedd y gaeaf hwn hefyd.
O ran y Groes Goch, rwy'n falch bod croeso cyffredinol iddo, ac mae wedi cael croeso gwresog iawn, iawn gan staff a'r bobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth eu hunain hefyd. Mae'n gynllun treialu, ac mae'n gynllun treialu sydd i fod yn weithredol ar ddiwedd mis Mawrth, ac yna byddwn yn gwerthuso i ddeall yr effaith a gafodd. Wedyn bydd angen inni—wedyn bydd angen imi wneud penderfyniad ynghylch p'un ai i ailgomisiynu hynny, a fydd hynny yn ailgomisiynu rheolaidd, a fydd yn ailgomisiynu tymhorol os bydd y dystiolaeth yn cefnogi hynny yn y gaeaf, neu a yw'n rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Bydd angen i ni ddeall gan y Groes Goch beth yw eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, os yw'r gwerthusiad yn dangos ei fod yn werth ei gynnal.
O ran eich sylw ehangach am arian, fe wnes i gadarnhau mewn datganiad blaenorol mai o'r gyfran o'r arian a roddwyd, y gogledd gafodd y gyfran uchaf o'r arian a gyhoeddwyd. Rwy'n fodlon iawn ailgylchredeg i Aelodau y gyfran o'r arian hwnnw rhwng gwahanol fyrddau iechyd a'u partneriaid.
O ran eich sylw ehangach am y profiad o ofal wrth ichi ddechrau eich cyfraniadau a'ch sylwadau, Ni wnaf i geisio dweud bod y darlun a roesoch chi yn eich etholaeth yn un y byddem yn dymuno i unrhyw un ei gael mewn unrhyw adran achosion brys mewn unrhyw ran o'r wlad. A'r her i ni yw nid dim ond deall fod hynny wedi digwydd, ond ein gallu i wneud rhywbeth yn wahanol am y peth. Nawr, i mi, nid yw hynny dim ond ynglŷn â'r drws ffrynt, ac rydym ni'n ymarfer hyn yn rheolaidd—nid yw'n ymwneud ag ambiwlansys a'r drws ffrynt yn unig. Ac mewn gwirionedd, nid yw bob amser ynglŷn â nifer y gwelyau. Ac un o'r pethau diddorol am y sgwrs gyda'r coleg meddygaeth frys fu eu pwyslais ar, ie, yr angen am fwy o staff, ond mewn gwirionedd, eu pwyslais mawr arall fu mwy o adnoddau i'r maes gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod y bobl sy'n feddygol heini mewn unrhyw un o'r ysbytai bron bob amser yn cyfateb i'r pwysau sydd ganddyn nhw wrth y drws ffrynt, ac mewn gwirionedd mae gallu cael rhai o'r bobl hynny sy'n feddygol heini allan o'r ysbyty angen cymorth gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i hynny ddigwydd.
Nawr, i mi, y rhwystredigaeth yw pa mor gyflym y gallwn ni wneud hyn, gan gadw mewn cof y galw yr ydym ni'n parhau i weld yn dod drwy'r drws ffrynt. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi llwyddo i gefnogi mwy o bobl y tu allan i adrannau brys y gaeaf hwn. Pe na byddem ni wedi gwneud hynny, byddai gennym ni fwy o bobl yn ein hadrannau achosion brys. Mae angen inni wneud mwy yn gynyddol bob gaeaf dim ond i ateb y galw y gwyddom ni'n sy'n bodoli yn ein system gyfan. Ond nid adrannau achosion brys yn unig sy'n gweld y pwysau hynny, ond ein cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol hefyd.
Felly, os hoffech chi roi'r manylion gan eich etholwr imi, rwy'n hapus i sicrhau eu bod nhw'n cael sylw, ond bydd y pwyslais ar y system gyfan ac, yn benodol, ar sut yr ydym ni'n cefnogi pobl i adael yr ysbyty a chael cefnogaeth, fel nad ydyn nhw'n cael eu haildderbyn ac nad ydyn nhw'n dychwelyd i'r ysbyty heb gael y cymorth a'r gofal priodol y tu allan i'n system ysbytai.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac, wrth wneud hynny, ategu ei werthfawrogiad am y gwaith rhagorol y mae ein staff yn ei wneud, weithiau o dan amgylchiadau anodd iawn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn, fel rwy'n dweud.
Mae hi, fel y dywedodd Darren Millar, yn gadarnhaol i weld rhai tueddiadau. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o fanylion am rai o'r penawdau y mae'n sôn amdanyn nhw. Felly, mae'r datganiad yn sôn bod ysbytai ledled Cymru yn dweud iddyn nhw dreulio llawer llai o amser yn y categori uchaf o uwchgyfeirio ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Ionawr eleni. Mae'n dda clywed hynny yn amlwg, ond fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion gan y Gweinidog. Efallai y gallai ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd mae 'llawer llai o amser' yn derm eithaf amwys a byddai'n ddiddorol gwybod a oedd y gwelliant yna mewn perfformiad yn gyson ar draws yr holl ysbytai yng Nghymru, a oedd amrywiadau, ac os oedd amrywiadau, beth oedd i gyfrif amdanyn nhw a sut gellid mynd i'r afael â nhw.
Felly, cwestiwn pellach ynglŷn â manylion ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal. Unwaith eto, mae'n braf iawn clywed y bu lleihad, ond byddai'n ddefnyddiol, o safbwynt craffu, i wybod gostyngiad o beth i beth, ac eto, pa un a yw'r perfformiad yn gyson drwy'r holl wasanaeth neu, fel yr ydym ni'n amau, a oes yna wahaniaethau sylweddol. Ac eto, os oes gwahaniaethau, beth sydd i gyfrif am hynny. Ac fe ddylwn i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, nad wyf yn disgwyl i'r Gweinidog fod â hyn i gyd ar flaenau ei fysedd, er fy mod yn siŵr y bydd ganddo rywfaint ohono. Ond byddai'n ddefnyddiol cael y manylder hwnnw.
Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad y trydydd sector, lle bo'n briodol, i helpu yn y maes hwn o waith. Fe wnaf i ddweud, fodd bynnag, wrth y Gweinidog ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y gwasanaethau trydydd sector hyn unwaith—. Oherwydd rwy'n sylweddoli i'r Gweinidog ddweud wrth Darren Millar, bod rhai o'r rhain yn gynlluniau treialu, ac mae angen inni weld a ydyn nhw'n gweithio ac yna a yw'r Llywodraeth eisiau eu comisiynu'n barhaol. Ond mae hi'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n trafod gyda'r trydydd sector fod hynny'n cael ei wneud yn gynaliadwy a bod y patrwm cyllido yn ddigon i'r sefydliadau allu cynnal eu hunain yn ogystal â darparu gwasanaeth penodol. Er enghraifft, bûm mewn rhai trafodaethau gyda gwasanaeth hosbis yn y cartref yn fy rhanbarth fy hun lle mae cyllid sy'n cael ei gynnig iddyn nhw gan y bwrdd iechyd ar sail ddigyfnewid, er gwaethaf y ffaith fod cyflogau nyrsio teg, yn gwbl briodol, yn cynyddu. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog edrych ar sut y mae'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn ymgysylltu gyda'r trydydd sector ac a yw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwasanaethau hynny, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint, fel y dywedodd Darren Millar, yn wirioneddol gynaliadwy.
Roedd datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at y sefyllfa o ran damweiniau ac achosion brys, ond mae hynny'n bur gyffredinol, er fy mod i'n sylweddoli ein bod ni wedi trafod hyn eisoes. Ond y gwir amdani yw, ynte, fod bron i 4,000 o bobl—3,887—wedi gorfod aros yn hwy mewn canolfannau damweiniau ac achosion brys mawr fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd hynny'n fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod y ffigurau yn cael eu hystumio gan berfformiadau arbennig o wael mewn lleoedd penodol—cyfeiriodd Darren Millar at y gogledd—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig yn fwy heddiw ynglŷn â'r hyn y mae yntau a'i swyddogion yn ei wneud i fynd i'r afael â'r perfformiad hwnnw yn y tair canolfan hynny lle'r ydym ni'n gwybod fod yna faterion difrifol iawn.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n weddol amlwg i ddweud bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae'n ymddangos ein bod ni'n clywed bod rhai pethau fel ffliw a norofeirws i fod i beri syndod inni, tybed a all y Gweinidog ein sicrhau ni—ac edrychaf ymlaen at weld y fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael fframwaith polisi cenedlaethol—. Ond a wnaiff y Gweinidog sicrhau, yn y fframwaith hwnnw, ein bod yn ystyried y ffaith bod y pwysau hwn yn dod bob blwyddyn? Mae rhai blynyddoedd yn waeth nag eraill; mewn rhai blynyddoedd mae'r ffliw yn waeth, mewn rhai blynyddoedd mae'r norofeirws yn waeth. Ond mae angen inni ddeall y bydd y pwysau ychwanegol hynny yno bob amser. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau ni y bydd y fframwaith polisi hwnnw yn ystyried yr amrywiad hwnnw mewn pwysau fel nad ydym ni'n chwilio am argyfyngau pan, mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yw dim byd ond y tywydd, a'r ffaith ein bod ni'n byw yng Nghymru? Diolch.
Os caf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, rydym ni'n cydnabod ein bod ni'n byw yng Nghymru a bod y tywydd yn amrywio ac felly hefyd y pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae tywydd oer yn tueddu i beidio ag arwain at gynnydd mawr yn nifer y derbyniadau ar y pryd; mewn gwirionedd mae hi oddeutu wythnos neu fwy yn ddiweddarach pan fo'r tywydd oer yn cynhyrchu'r effaith o ran y nifer ychwanegol o bobl yn mynd i ysbytai. Gwyddom fod wythnos gyntaf mis Ionawr bron bob amser yn gyfnod o bwysau mawr iawn ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol ac ysbytai. Ceir rhannau mewn gwirionedd lle y gallwn ni eu rhagweld a rhai lle na allwn ni'n fanwl gywir. Gwyddom, wrth i fwy ohonom ni fyw'n hwy, y gallwn ni ddisgwyl y bydd mwy o bwysau ar draws y system gyfan ac, yn benodol, drwy'r gaeaf. Dyna pam mai un o'r pethau calonogol ynghylch y gwahaniaeth eleni yw nifer y bobl dros 85 oed yn gostwng o ran derbyniadau brys, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn, ond mae'n dangos bod angen inni wneud mwy fyth i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, a dyna pam y mae hi mor ddealladwy, y ceir nid yn unig cyfeiriad polisi ond amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn dweud bod angen iddyn nhw nid yn unig siarad am y ffordd yr ydym ni eisiau i fwy gael ei wneud yno ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn darparu adnoddau i'r timau hynny i ddarparu'r gofal yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei ddarparu'n lleol a'i gynnal yn lleol hefyd.
O ran eich sylw ehangach am y tair canolfan lle mae her benodol, ceir cyfuniad o herio a chefnogi. Mae'n rhaid i'r cymorth a ddarperir, nid yn unig mewn termau ariannol ond mewn gwirionedd o ran cyngor gan swyddogion, gael ei ategu gan her ar lefel y bwrdd, ac mae hynny mewn difrif calon yn digwydd. Mae'n rhan o'r sgwrs a gefais yn ddiweddar gyda chadeiryddion y byrddau iechyd a chadeiryddion yr ymddiriedolaeth a'r prif weithredwyr yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni edrych ar berfformiad eu hadrannau achosion brys, gan ganolbwyntio yn benodol ar y meysydd hynny lle maen nhw'n cydnabod bod ganddyn nhw heriau gwirioneddol a sylweddol, a cheir arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol hefyd. Mae terfyn i beth y gall gwleidyddion yn mynnu atebion mewn gwirionedd ei wneud i helpu ymarfer ar lawr gwlad ac yn wir yn y system gyfan ehangach ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, oherwydd mewn gwirionedd mae cael y perthnasoedd hynny'n gywir yr un mor bwysig ag arweinyddiaeth glinigol mewn unrhyw adran achosion brys.
Felly, nid oes byth un ateb unigol i ddatrys yr holl faterion hyn, ond rydych chi'n codi pwynt am y trydydd sector, ac mewn gwirionedd mae cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn bwysig i ni yn ogystal ag i'r trydydd sector. Pan ydym ni'n comisiynu gwasanaeth gan y trydydd sector, rydym ni eisiau gwybod bod y sefydliad yn gadarn ac yn gallu darparu ei wasanaeth. Mae gennym ni ddangosyddion allweddol ar gyfer y gwasanaeth fel eu bod yn deall ein bod ni'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, ac nid yw'r trydydd sector yn anghytuno â hynny. Maen nhw eisiau rhywfaint o sicrwydd ynghylch y dyfodol, ac mae terfyn i faint o sicrwydd y gallwn ni ei ddarparu. Pan ydych chi'n byw o flwyddyn i flwyddyn ar gyllidebau mewn Llywodraeth genedlaethol, mae'n anodd rhoi i bobl y cylchoedd cyllid tymor hwy y byddent yn eu dymuno eu hunain, ond mewn gwirionedd, fe gawsom ni sgwrs adeiladol iawn gyda'r trydydd sector yng Nghymru ar y pwnc hwn yn union ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ychydig wythnosau yn ôl pan wnaeth y Dirprwy Weinidog a minnau gyfarfod â grŵp a gafodd ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i edrych ar yr holl bobl hynny sy'n ymwneud â darparu ac yn gweithio mewn rhannau amrywiol o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
A'r agwedd galonogol i'r trydydd sector ei harddel yw, pan edrychwch chi ar y ffordd y mae 'Cymru Iachach' nid yn unig wedi ei ysgrifennu a beth sydd yn yr iaith ond mewn gwirionedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG yma yng Nghymru—y tri phartner allweddol a gyd-gynhyrchodd y strategaeth honno—. Felly, maen nhw'n wirioneddol yn rhan o ddechrau'r sgwrs, nid yn bethau sy'n cael eu hatodi ar y diwedd. Ac maen nhw hefyd yn rhan o'n byrddau partneriaeth rhanbarthol ledled y wlad. Mae cynrychiolaeth o'r trydydd sector yno bob amser. Felly, nid yw hi byth yn adeg berffaith mewn amser; bydd hi wastad yn angenrheidiol i herio a thrafod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond maen nhw'n wirioneddol yn rhan o'r sgwrs ac yn rhan o'r dyfodol hefyd.
O ran eich dau bwynt mwy manwl—ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, oes, mae amrywiadau rhwng partneriaethau bwrdd iechyd. Rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny yn rheolaidd. Gallaf ddweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld y lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y 13 blynedd diwethaf ers inni ddechrau casglu'r ffigurau hyn, ac yn 2018 roedd traean yn llai o oedi wrth drosglwyddo gofal nag yn 2006. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni yn gwneud cynnydd gwirioneddol a chyson, ac mae Cymru'n cymharu'n gadarnhaol â Lloegr, lle mae oedi wrth drosglwyddo yn cynyddu.
Ac ynglŷn â'ch sylw am y categorïau uwchgyfeirio uchaf, wel, ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n arbenigwyr ar iechyd, mae gennym ni bedair lefel o uwchgyfeirio: lefel 1, sef yr isaf, a lefel 4, sef yr uchaf—efallai y gwyddoch chi hyn, efallai nad yw eraill yn gwybod hyn. Ac o ran yr amser a dreuliwyd gennym ni ar lefel 4 ar gyfer mis Ionawr eleni o'i gymharu â mis Ionawr diwethaf, mae gwahaniaeth o bron iawn i 12 pwynt canran. Ac, yn yr un modd, pan fydd adrannau wedi bod ar lefel 4, maen nhw wedi isgyfeirio i lefel 3 neu'n is yn llawer cyflymach hefyd. Felly, y rheswm dros hyn yw nid y Gweinidog yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud hyn', ond oherwydd bod mwy o afael a gwell perfformiad, ac mae hynny oherwydd bod ein staff mewn sefyllfa well, ac mae hefyd oherwydd bod y system gyfan yn y meysydd hynny mewn sefyllfa well i gyflawni.
A gaf i adleisio geiriau'r Gweinidog ac eraill sydd wedi cyfrannu hyd yma mewn ymateb i'r datganiad hwn am y gwaith aruthrol y mae pobl yn ei wneud mewn gwahanol ddisgyblaethau, yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid y trydydd sector hefyd? Ac fe hoffwn i gyfeirio rhai cwestiynau a rhai sylwadau at un o'r sefydliadau penodol hynny a grybwyllwyd yn y datganiad. Ac mae'r sefydliad hwnnw'n un a ddechreuodd, mewn gwirionedd, yn fy ardal fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl yn 2013–14, rwy'n credu, sef y cymorth a roddodd gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr i'r fenter adre o'r ysbyty. Ac fe brofodd ei werth yn gyflym iawn, iawn bryd hynny—y gallu i ryddhau pobl yn llawer cynt o'r ysbyty i le saff a diogel gyda gofal cofleidiol, ond hefyd i geisio sicrhau nad yw pobl yn dod yn ôl i ysbytai yn rhy gynnar drwy ddarparu'r cymorth addas hwnnw o ran gofal cofleidiol yn y cartref. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, ceir rhai cynlluniau treialu diddorol yn hynny o beth erbyn hyn—mae wedi'i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal honno i chwe ardal wahanol yn y de a'r gorllewin, ac rydym ni'n aros i weld y canlyniadau. Ond fe dynnaf sylw'r Gweinidog at yr adroddiad perfformiad o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018, sy'n edrych ar rai o'r canlyniadau eithaf cadarnhaol bryd hynny: oddeutu 1,500 o atgyfeiriadau a fu drwy'r fenter benodol hon. O fewn hynny, un o lwyddiannau nodedig y gwasanaeth, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw, oedd cyflymder y gwasanaeth hwnnw yn ymateb yn gyflym i atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth, yn enwedig o ran rhyddhau cleifion. Cyfartaledd cyflymder y gwasanaeth oedd un diwrnod o atgyfeirio i gwblhau'r gwaith er mwyn i bobl allu mynd adref yn gyflym. Ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, dyna'r gwasanaethau eraill sy'n rhan o hynny, gan gynnwys nid yn unig yr ymweliadau asesiad llawn o'r cartref a'r asesiadau risg cwympiadau, gan ddefnyddio'r pecyn asesu, y gwiriad cartrefi iach, ond gwiriad budd-daliadau lles llawn hefyd. Cafodd dros 230 o gleifion gynnydd yn eu hincwm wythnosol yn ystod y cyfnod hwnnw: cyfanswm cynnydd ar gyfer y garfan gyfan o £657,000 yn adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. Felly, mae'r effeithiau yn enfawr, a phan glywch chi sylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch beth mae hyn yn ei wneud—yn therapyddion galwedigaethol, yn ffisiotherapyddion ac eraill—yr effaith ar fywydau pobl, yn ogystal ag atal pobl rhag gorfod dychwelyd yn gynnar i'r ysbyty, ynghyd â chael eu rhyddhau yn gynnar, yn sylweddol.
Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog—yn y chwyldro tawel hwn yr ydym ni'n ceisio ei gynnal yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r holl bartneriaid ynddo, sydd angen, byddwn yn dweud, chwyldro parhaus, sydd wastad yn ceisio gwella—sut ydym ni'n symud oddi wrth gyllid treialu? Hon yn wreiddiol oedd y gronfa gofal integredig, bellach mae peth arian trawsnewid arian ac ati yno—os yw'n profi ei hun, a yw'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen inni ei wneud yw gwneud hwn yn arferol, gwneud hwn yn rhan o'r busnes craidd? Os yw'r math hwn o ymagwedd a welwn ni o'n blaenau yn gweithio, ac yn arbed arian drwy fod yn fwy ataliol, yna, does bosib, dylai hynny fod yn rhan o fusnes craidd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles. Ac, yn ail, efallai y gallwn ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon gwneud hyn, ar adeg briodol, a fyddai'n derbyn gwahoddiad i ddod i weld y gwaith sy'n cael ei wneud gan gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwasanaeth adre o'r ysbyty? Oherwydd rwy'n credu y byddai yntau, fel fi, yn cael ei syfrdanu, nid yn unig o weld y canlyniadau ond o weld proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn. Maen nhw wedi bod wrthi ers amser maith—maen nhw'n gwybod eu stwff. Felly, os gwelwch yn dda, dewch i weld; byddent wrth eu boddau yn eich gweld ac i weld yn uniongyrchol y canlyniadau y maen nhw'n eu cyflawni ar lawr gwlad a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud i ansawdd bywyd eu cleientiaid hefyd.
Diolch am dynnu sylw at lwyddiant y maes penodol hwnnw o waith, ac, unwaith eto, mae'r syniadau'n dod ac yn cael eu cefnogi, ond, mewn gwirionedd, mae pobl angen eu cyflawni a gwneud y gwahaniaeth. Ac mae hi yn galonogol clywed y manylion ac am nifer y bobl sy'n elwa, ac yn elwa'n gyflym, ar y gwasanaeth newydd—y sylw hwnnw ynghylch rhyddhau pobl yn gyflym a chefnogi pobl i adael, ond yna'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac mor annibynnol â phosib. A dim ond eisiau dweud yr wyf i fod hyn ynglŷn â phartneriaeth rhwng y trydydd sector, tai a gwahanol grwpiau o staff y sonnir amdanyn nhw'n achlysurol, yn enwedig y therapyddion—cymorth i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd. Fy uchelgais yn llwyr yw deall pa fodelau o ofal a chymorth sydd â'r posibilrwydd mwyaf i wneud y gwahaniaeth mwyaf, a'r gallu i'w cyflwyno yn llawer ehangach. Rwyf wedi bod yn glir iawn nad wyf i eisiau parhau i ariannu prosiectau micro nad oes modd eu trosglwyddo i rannau eraill o'r wlad. Mae gennyf ddiddordeb nid dim ond mewn dadl ehangach, ond mewn newid ehangach yn ymarferol ac i fanteisio ar yr arferion gorau fel bod hynny'n dod yn arfer safonol—nid rhywbeth yr ydych chi'n cyfeirio ato sy'n sefyll ar wahân i bopeth arall, ond, mewn gwirionedd, dyna'r ffordd i gyflwyno busnes ar sylfaen safonol i wneud y math o drawsnewid yr ydym i gyd ei eisiau. Mewn egwyddor, byddwn yn hapus iawn i dderbyn ei gynnig, ac os gwnaiff ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallwn ni drefnu amser a dyddiad cyfleus yn y dyddiadur.
Fel pawb arall, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn ac i fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun i staff y GIG am y gwaith aruthrol a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac ingol iawn. Ac a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones yn ei chwestiynau yn gynharach, gan ofyn i'r Gweinidog am fwy o dryloywder mewn datganiadau o'r math hwn? Rwy'n gwybod fy mod i'n newydd i'r briff hwn ac nad wyf i felly yn meddu ar yr un wybodaeth gefndirol sydd gan eraill efallai, ond fe'i cefais yn eithaf anodd deall beth sy'n mynd ymlaen mewn gwirionedd. Mae'r datganiad yn iawn, o ran yr hyn y mae'n ei gynnwys—yn yr adran ynglŷn â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rydym ni'n clywed bod ysbytai yn treulio llawer llai o amser ar y lefelau uwchgyferio uchaf; bod llai o bobl dros 85 oed yn cael eu trin fel achosion brys; bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar gyfer achosion brys ar ei isaf ers dros chwe blynedd; y bu gostyngiad yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Ond heb ystadegau, nid ydym yn gallu arfarnu beth yn union mae'r datganiadau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac er fy mod i wedi treulio peth amser gyda fy ymchwilydd heddiw yn ceisio canfod beth oedd y sefyllfa'r llynedd yn fanwl, cefais fod rhai ystadegau i'w canfod ar wefan StatsCymru, eraill ar wefan GIG Cymru a bod eraill ym meddiant cynghorau iechyd cymuned Cymru. Ac weithiau, nid yw'r tablau bob amser yn hawdd eu defnyddio, gan orfodi'r defnyddiwr i greu tabl ar gyfer pob mis o bob blwyddyn, gan wneud dehongli tueddiadau aml-flwyddyn, felly, yn anodd iawn. Tybed a yw hi'n bosib, yn y fersiwn ddigidol o'r datganiadau hyn, i ddarparu dolenni i'r wybodaeth a fydd mewn gwirionedd yn rhoi cig ar esgyrn sychion datganiadau cyffredinol. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn bob amser yn bosib, ond lle gwyddys ymlaen llaw ers peth amser y bydd datganiad neu angen am ddatganiad ar rai meysydd, ni ddylai hi fod y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i sefydlu system sy'n ein galluogi i wneud ein gwaith yn well yn y Cynulliad o ran craffu, mewn ffordd adeiladol, sef yr hyn y dylai'r sgyrsiau hyn fod yn ei gylch.
Tybed a all y Gweinidog o bosib roi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r datganiadau a wnaethpwyd. O ran oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o'r ambiwlans, mae'n newyddion da iawn y bu gostyngiad o 30 y cant bob blwyddyn, ond o ran cleifion yn aros dros awr, yn ôl arolwg profiad cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys a gynhaliwyd ychydig yn ôl, ym mis Ionawr y llynedd, bryd hynny roedd oddeutu 30 y cant o bobl yn aros am ambiwlans am fwy nag awr. Felly, mae gostyngiad o 30 y cant yn dal i olygu bod nifer sylweddol o bobl yn gorfod aros am fwy nag awr, ac roedd 10 y cant y llynedd yn gorfod aros am dair awr neu fwy am ambiwlans. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i a yw'r gwelliant y cyfeirir ato yma wedi bod yn weddol gyson drwy gydol y cyfnodau amser y mae pobl yn gorfod aros, neu a oes problem benodol mewn rhai meysydd? Unwaith eto, caiff llai o bobl dros 85 oed eu trin fel achosion brys; wel, o blith yr 80,000 fwy neu lai o dderbyniadau'r llynedd, roedd 5,000 o'r rheini dros 85 oed—nid yw'n syndod, mae'n nifer sylweddol. Ond beth fu'r pwysau eleni? A yw'n gysylltiedig â'r tywydd ac efallai llai o bobl yn cael clefydau a fyddai fel arall wedi achosi iddyn nhw gael eu derbyn ar frys, rhywbeth nad oes gan y Llywodraeth unrhyw reolaeth drosto, ac felly ni ddylai gymryd y clod, neu a yw'n dangos gwelliant gwirioneddol yn y system? Unwaith eto, hyd cyfartalog arhosiad i gleifion a gafodd eu derbyn fel achosion brys y llynedd, os oeddent yn 75 i 84 oed, oedd saith awr a chwarter, ac, ar gyfer 85 a throsodd, wyth awr a hanner. Felly, tybed a allwn ni ddangos gwelliannau ystyrlon, oherwydd dim ond dweud yr ydym ni bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar ei isaf ers dros chwe blynedd, ond beth yw'r gwahaniaeth yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma? A yw'n rhywbeth sy'n ostyngiad sylweddol iawn ai peidio? Mae'r rhain yn faterion hollbwysig, y mae'n anodd eu gwerthuso yn ôl y ffordd y gwneir y datganiad hwn.
Rwy'n derbyn y bu gwelliannau o ganlyniad i ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; byddai'n anodd peidio, o ystyried yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd, ac o ystyried y sylfaen isel yr ydym ni'n dechrau arni mewn llawer o achosion. Ac fe ddywedodd y Gweinidog, yn bwysig iawn, mewn gwirionedd bod nifer fach o ysbytai yn ystumio'r darlun ar gyfer Cymru gyfan. Tybed, felly, i ba raddau y mae Betsi Cadwaladr yn benodol yn dal yn tanberfformio ac yn llusgo'r system gyfan i lawr gyda hi. Sylwaf yn arbennig, o'r llwybrau gofal cleifion, o ran aros mwy na 36 wythnos—yn y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, roedd tua hanner yr achosion hynny yn ardal Betsi Cadwaladr. Bydd angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell na'r cyfartaledd os ydym ni am wneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r ffigurau brawychus hyn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu bod Betsi Cadwaladr yn gwneud digon o gynnydd i wella'r system er mwyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol cyfan yng Nghymru ymddangos yn well.
Gan droi at eich pwynt olaf yn gyntaf, rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell yn y maes gofal heb ei drefnu a gofal wedi ei gynllunio hefyd. Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am oddeutu hanner nifer y bobl sy'n aros mwy nag y dylen nhw am 36 wythnos. Nid yw eu canran 26 wythnos gystal ag y dylai fod ychwaith. Mae'r cynlluniau diwygiedig y maen nhw wedi eu rhoi imi, gyda'r cadeirydd a'r Bwrdd, sydd wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, yn craffu o'r newydd, yn rhoi rhywfaint mwy o ffydd imi, ond rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen iddyn nhw gyflawni'r gwelliant mewn perfformiad y maen nhw wedi ei nodi cyn y byddaf yn dod yma ac yn rhoi'r math o sicrwydd y byddwch chi ac aelodau eraill yn edrych amdano. A bydd gwneud y gwahaniaeth hwnnw yn y gogledd yn gwneud gwahaniaeth i bobl y gogledd ac i'r darlun ledled Cymru hefyd. Ac yn yr un modd, gofal heb ei drefnu hefyd.
Ac mae a wnelo hynny â'r cydbwysedd priodol rhwng cymorth a her, oherwydd fy mod i'n credu, fel y dywedais o'r blaen, mai'r peth hawsaf i mi ei wneud yw dweud mai bai rhywun arall ydyw, a disgwyl iddyn nhw wneud yn well, pan, mewn gwirionedd, bod angen i'r staff hynny gael eu cefnogi hefyd. A dyna pam mae arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol yn wirioneddol bwysig, a pham fod y cymorth ar gyfer y system gyfan ac ymgysylltu yn bwysig hefyd. Rwyf eisiau gweld pobl yn aros yn y system, ac, mewn gwirionedd, mae gennyf fwy o reswm i fod yn obeithiol ynghylch yr ychydig fisoedd nesa a ble byddwn ni arni ar ôl hynny, ond rwy'n gobeithio y cyflawnir hynny. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael cwestiynau i'w hateb am hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf, ond drwy weddill y flwyddyn, tra bo ffigurau perfformiad yn aros fel y maent.
O ran eich pwyntiau ehangach am lefel y manylion, wel, rydym ni bob amser yn gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn sydd yn y datganiadau. Pe byddwn i wedi darparu'r ffigurau ystadegol penodol drwy'r datganiad sy'n gysylltiedig â hynny, yna fyddwn i wedi bod yn chwydu amrywiaeth o ffigurau ac nid yn rhoi dadansoddiad. Ceir cydbwysedd, ac, mewn ateb i gwestiwn gan Helen Mary, rhoddais ragor o ffigurau, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych chi, o ran hyd arhosiad ar gyfer derbyniadau brys, y bu gostyngiad o 3 y cant y gaeaf hwn o'i gymharu â'r gaeaf diwethaf, ac o ran derbyniadau brys ar gyfer pobl dros 85 oed, bu gostyngiad o 7 y cant—felly, gostyngiad gwirioneddol a sylweddol mewn canran. Yr her yw cynnal hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf ond drwy weddill ein blwyddyn, ac i wneud yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Helen Mary ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd yn cyflawni o ran cael adnoddau digonol yn y maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartref a chadw pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno. Mae mwy i'w wneud o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â phroffesiynau wrth wneud hynny, ac, mewn gwirionedd, mae'r cynllun treialu fferylliaeth yn rhan bwysig iawn o'r flwyddyn hon, nid yn unig yn y ddarpariaeth gymunedol, a gofyn i bobl fynd i'r fferyllfa yn gyntaf, ond o ran cael fferyllwyr yn yr adran achosion brys, oherwydd, fel rydym ni'n dweud droeon—ac mae David Melding yn gwneud hynny'n rheolaidd pan fo'n sôn am fferylliaeth gymunedol, ac eraill—mae nifer sylweddol o dderbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â chamgymeriadau wrth roi meddyginiaeth. Felly, po fwyaf y gallwn ni wneud o ran cael cefnogaeth fferylliaeth briodol, gorau oll y bydd ar gyfer y system gyfan.
Ac, ynglŷn â'ch sylw am amseroedd aros ambiwlans, wel, rwy'n dechrau gan gydnabod bod gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir—nid dim ond am awr, ond mae rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir beth bynnag, ar lefel unigol. Ond mae'r 30 y cant yn welliant gwirioneddol, ac mae'n cynnwys Betsi Cadwaladr hefyd—maen nhw wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn lleihau, os mynnwch chi, y nifer o oriau ambiwlans coll. Mae hynny'n rhan o'r her ynghylch ein system, ein bod ni'n gwneud yn well ym maes ambiwlansys mewn ffordd gynaliadwy—ond fodd bynnag nid yw'n cael ei drosglwyddo drwy'r system gyfan. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond, unwaith eto, ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith mai dyma'r deugeinfed mis yn olynol i wasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd ei darged ar gyfer galwadau coch, er gwaetha'r ffaith y bu mwy nag erioed o alwadau coch lle'r oedd bywyd yn y fantol hefyd. Ac mae hynny'n deyrnged sylweddol i'r ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans.
Ac, ar eich pwynt olaf ynglŷn â lefel y galw sy'n dod i mewn a beth allai hynny fod, wel, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â niferoedd yn unig. Mae cyfran y niferoedd yn newid. Rydym ni'n categoreiddio cleifion sy'n dod i mewn i adrannau achosion brys yn rhai mân, o ran mân anafiadau ac anhwylderau mân, neu'n sylweddol, pan fyddan nhw'n wirioneddol sâl iawn. Ac, mewn gwirionedd, mae'n wir, yn y gaeaf, ein bod yn tueddu i weld mwy o bobl yn y categori sylweddol; ac maen nhw'n tueddu i fod yn hŷn. Mewn gwirionedd, y gaeaf hwn, mae canran ein cleifion yn y categori sylweddol, felly'r pobl sydd fwyaf sâl, wedi newid unwaith eto. Felly, rydym ni'n gweld hyd yn oed mwy o bobl sydd mewn gwirionedd yn sâl iawn, iawn, ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty ar gyfer triniaeth. Ac, mae mwy a mwy o'r bobl hyn yn cyrraedd yno eu hunain—maen nhw'n cyrraedd ar eu pen eu hunan neu'n bobl y mae cyfeillion a pherthnasau yn eu cludo yno—yn ogystal â'r niferoedd uwch nag erioed sy'n cael eu trosglwyddo gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae mwy i'w wneud ynghylch sut y gallwn ni ymdopi â'r darlun cyfnewidiol hwnnw o alw. Dyna'r cyd-destun i ni ei gyflawni, ond rwy'n cydnabod y bydd Aelodau yn disgwyl imi fod yn atebol ar gyfer y system gyfan, ac i'r system gyfan allu adnabod ac ymdrin â'r pwysau sy'n bodoli yn ein poblogaeth.
Diolch i chi, Gweinidog.