Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae buddsoddiad mewn trafnidiaeth a seilwaith, yn amlwg, yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig yn fy etholaeth. Heb ystyried proses Brexit, rwy'n sicr fod gwelliannau sydd i'w cyflawni drwy'r system fetro, cynnydd ar gam nesaf y gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, ynghyd â'r orsaf fysiau y sonioch amdani, bob un yn achos gobaith yn y blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch gadarnhau y bydd y prosiectau seilwaith allweddol hyn yn cael eu cyflawni ar fyrder ac yn gyflym, fel y gall fy etholaeth barhau i weld rhagor o newidiadau cadarnhaol yn unol â'r hyn a amlinellwyd yn rhaglen 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'?