Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mi ges i'r pleser yn yr wythnos diwethaf o ymweld â chwmni peirianneg BICO ym Miwmares yn Ynys Môn, sy'n gwneud gwaith rhagorol ym maes peirianneg mewn diwydiannau technegol ac arbenigol dros ben. Mae o'n gwmni, dwi'n siŵr, y gallem ni ei weld yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i a'm plaid o blaid rhanbartholi datblygu economaidd er mwyn sicrhau bod llewyrch economaidd yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws Cymru. A fyddai'r Llywodraeth yn cytuno efo fi y byddai sgôp i ddatblygu cynlluniau tyfu'n lleol—grow locally, os liciwch chi—fel rhan ganolog o'r math o gynlluniau rhanbarthol yna?